Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Picnic site Cae'n y Coed

Beth sydd yma

Cŵn
Parcio
Picnic
Llwybr cerdded

Trosolwg

Parc Coedwig Gwydir

Lleolir Parc Coedwig Gwydir yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri.

Ers Oes Fictoria, mae cenedlaethau o ymwelwyr wedi cerdded ar hyd y llwybrau coetir ac wedi pysgota yn nyfroedd clir yr afonydd yma.

Heddiw, mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn galluogi ymwelwyr i ddarganfod y dirwedd hon o lynnoedd, coedwigoedd a mynyddoedd a dysgu am ei hanes mwyngloddio.

Ceir llwybr beicio mynydd hefyd (sydd wedi'i raddio'n goch gan ei fod ond yn addas i feicwyr medrus), gardd goedwig a llwybr cerdded ag arwyddbyst i Raeadrau enwog y Wennol.

Hanes Coedwig Gwydir

Rhwng 1850 a 1919, gwaith cloddio plwm a sinc oedd prif nodwedd yr ardal. Mae gwaddol hen dai peiriant, tomenni sbwriel a chronfeydd dŵr yn nodweddiadol o'r goedwig a geir heddiw.

Cafodd bron pob llyn yn y goedwig ei greu i wasanaethu'r mwyngloddiau.

Mae sawl un o'r mwyngloddiau pwysicaf wedi cael eu hadfer yn rhannol a'u gwneud yn ddiogel i ymwelwyr.

Heddiw, wrth i chi ddarganfod bryncynnau, llynnoedd a phorfeydd coediog ucheldirol, bydd yn anodd i chi ddychmygu mai tirwedd ddiwydiannol adfeiledig oedd yr ardal hon ers talwm.

Ymweld â Pharc Coedwig Gwydir

Mae Parc Coedwig Gwydir yn cwmpasu ardal sy'n fwy na 72 cilomedr sgwâr (28 milltir sgwâr) ac mae'n amgylchynu pentref Betws-y-Coed.

Mae llwybrau cerdded ag arwyddbyst yn dechrau o'r rhannau canlynol o Barc Coedwig Gwydir:

Llwybr y Marin, llwybr beicio mynydd gradd coch â dringfeydd mawr a disgyniadau trac unigol yn unig, yn dechrau o Fainc Lifio.

Cae'n y Coed

Mae Cae’n y Coed yn safle picnic y mae'n hawdd dod o hyd iddo, ger Betws-y-Coed ar yr A5.

Mae'n lle hyfryd am bicnic. Ceir byrddau o amgylch y maes parcio ger y brif ffordd ac ar y lefel uwch, lle mae digon o le i blant chwarae hefyd.

Mae'r llechwedd uwchben y maes parcio yn gartref i "ardd goedwig" a blannwyd â choed o bob cwr o'r byd yn y 1930au.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Llwybr cerdded

Ceir arwyddbyst ar hyd y llwybr cerdded ac mae'n dechrau o'r maes parcio.

Llwybr Craig Forys

1.4 milltir, 2.3 cilomedr

Llwybr Craig Forys mapAr ôl y ddringfa serth heibio i goed coniffer mawr iawn ar ddechrau'r llwybr hwn, coronir y cyfan â golygfeydd gwych i lawr y dyffryn. Ar gopa bryncyn, ceir mainc â golygfa banoramig i Gapel Curig a Moel Siabod â'i chwarel lechi.

Lawrlwythwch mwy o wybodaeth am y Llwybr Craig Forys

Sut i gyrraedd

Mae Cae’n y Coed ddwy filltir i'r gorllewin o Fetws-y-Coed ar yr A5.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 764 576.

Mae'r maes parcio am ddim.

Cyfarwyddiadau

Mae mynedfa'r maes parcio oddi ar yr A5, ddwy filltir i'r gorllewin o Fetws-y-Coed, ychydig ar ôl Rhaeadr y Wennol.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Yr orsaf drên agosaf yw Betws-y-Coed.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Darganfod mwy

Manylion cyswllt

Ffôn: 0300 065 3000

E-bost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Llwybr Craig Forys Lwybr cerdded PDF [3.4 MB]

Archwilio mwy

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.