Parc Coedwig Coed y Brenin - Pont Ty'n-y-groes, ger Dolgellau

Beth sydd yma

Croeso

Mae'r maes parcio a'r ardal bicnic yn Pont Ty'n-y-groes ar lan yr afon yn fan cychwyn i'r ddau lwybr drwy'r goedwig.

Mae'r Llwybr Marchogion y Brenin yn llwybr hygyrch sy'n dilyn yr afon ac yn mynd heibio i'r coed talaf ym Mharc Coed y Brenin.

Mae Llwybr Mynydd Penrhos yn llwybr mynydd garw, a'r goron ar y cyfan yw'r golygfeydd gwych dros Eryri.

Ceir ardal laswellt wastad yn y maes parcio lle gall plant chwarae. Hefyd ceir cyfleusterau barbiciw ac mae toiledau ar gael yn y maes parcio.

Llwybrau cerdded

Ceir arwyddbyst ar hyd yr llwybrau cerdded ac maent yn dechrau o'r maes parcio.  

Llwybr Hygyrch Gwarchodlu'r Brenin (arwyddbyst glas)

  • Uchafbwyntiau: Ar y daith hon sy’n hygyrch i bawb, gallwch weld y ffynidwydd Douglas ysblennydd, coed mwyaf Coed y Brenin.
  • Pellter: ½ milltir/800 metr
  • Gradd: hygyrch
  • Disgrifiad y llwybyr: Mae’r llwybr hygyrch ag arwyddbyst glas yn llwybr dolen byr sy’n arwain at y ‘Brenin’ ac yna’n dychwelyd i’r maes parcio.

Dyma lwybr 2m o led ag arwyneb da sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn. Ceir mannau gorffwys o leiaf bob 100m.

Nid oes grisiau na chamfeydd ar hyd yr holl lwybr.

Gallwch lawrlwytho llwybr sain a chlywed am hanes Coed y Brenin a chyfweliad gyda choedwigwr am sut y cafodd y goedwig ei chreu.

Llwybr Ceimiad y Brenin (arwyddbyst melyn)

  • Uchafbwyntiau: Mwynhewch y llwybr gwastad hwn i’r teulu cyfan ar hyd glan yr afon i weld coed mwyaf y goedwig. Gallwch gerdded at ‘Bencampwr y Brenin’, y goeden dalaf ac ymweld â’r maen coffa.
  • Pellter: ½ milltir/900 metr
  • Gradd: hawdd
  • Disgrifiad y llwybyr: Mae’r llwybr yn dilyn y llwybr hygyrch sy’n arwain at y ‘Brenin’. Dyma lwybr 2m o led ag arwyneb da sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.

Mae’r arwyddbyst melyn yn mynd ymlaen at y ‘Pencampwr’ ar lethr ychydig yn fwy serth ac yn disgyn yn ôl i’r maes parcio ar hyd ffordd darmac â llethr o 20%/1 mewn 5. Mae’r adran hon yn addas i gadeiriau gwthio plant.

Nid oes grisiau na chamfeydd ar hyd yr holl lwybr.

Gallwch lawrlwytho llwybr sain a chlywed am hanes Coed y Brenin a chyfweliad gyda choedwigwr am sut y cafodd y goedwig ei chreu.

Llwybr Mynydd Penrhos

  • Uchafbwyntiau: Fel yr awgryma’r enw, bydd llwybr mynydd Penrhos yn rhoi blas i chi ar gerdded mynyddoedd go iawn, a’ch gwobr o’r copa fydd golygfeydd syfrdanol o’r Garn, Cader Idris a Rhobell Fawr.
  • Pellter: 3¼ milltir/5.2 cilomedr
  • Gradd: anodd
  • Disgrifiad y llwybyr: Mae gan y daith lwybrau serth a chul, llai nag 50cm o led mewn mannau ar arwyneb anwastad, garw, ble gallwch ddisgwyl gweld mwd, creigiau a gwreiddiau coed. Mae sawl set o risiau ar y llwybr hefyd. Unwaith y byddwch yn cyrraedd y copa ceir mainc ble gallwch orffwys a mwynhau’r golygfeydd ysblennydd.

Llwybr sain

Dysgwch am hanes Coed y Brenin a gwrandewch ar gyfweliad gyda choedwigwr am sut y cafodd y goedwig ei chreu.

Mae ein llwybr sain mp3 wedi'i gynllunio i'w ddefnyddio ar Lwybr Hygyrch Gwarchodlu'r Brenin neu Lwybr Ceimiad y Brenin o faes parcio Tyn y Groes.

Mae pyst wedi'u rhifo ar y llwybr cerdded sy'n dweud wrthych pryd i chwarae pob rhan.

Gan y gall signal ffonau symudol fod yn gyfyngedig mewn ardaloedd gwledig, rydym yn argymell eich bod yn lawrlwytho'r llwybr sain cyn eich ymweliad.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffeil PDF o'r sgript.

I lawrlwytho'r llwybr sain ewch i lwybrau sain a chwedlau gwerin.

Darganfod Parc Coedwig Coed y Brenin

Mae parc coedwig Coed y Brenin yn cynnig profiad coetir cyflawn i ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Ceir amrywiaeth o lwybrau ag arwyddbyst sydd at ddant pawb ac yn addas ar gyfer pob lefel o ffitrwydd ym mharc y goedwig. Yn eu plith mae llwybrau beicio mynydd, llwybrau i'r teulu, llwybrau rhedeg a llwybrau geogelcio a chyfeiriadu o'r radd flaenaf.

Yn ogystal â'r llwybrau sy'n dechrau o Ty'n y Groes, ceir llwybrau cerdded ag arwyddbyst o'r lleoedd hyn ym Mharc Coed y Brenin:

  • Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin - porth i barc y goedwig a'r man cychwyn ar gyfer amrywiaeth o lwybrau cerdded, rhedeg a beicio mynydd.  Hefyd ceir caffi a siop feiciau
  • Pont Cae’n-y-coed – dechrau'r Llwybr Llosgyfynydd garw
  • Tyddyn Gwladys – safle picnic wrth afon droellog Mawddach a phorth i'r llwybr Rhaeadrau a Gwaith Aur
  • Gardd y Goedwig – dewis o lwybrau drwy goed o bob cwr o'r byd yn ardd y goedwig, y mae un yn addas ar gyfer pob gallu
  • Glasdir – hen waith copr yng nghefn gwlad sydd â llwybr hygyrch tuag at olygfan uwchben yr hen offer cloddio

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Parc Coedwig Coed y Brenin yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae rhan gyntaf Llwybr Hygyrch Gwarchodlu'r Brenin ar dir gwastad bron i gyd ac mae'n addas i gadeiriau olwyn.

Ymhlith cyfleusterau maes parcio Tŷ'n y Groes mae:

  • parcio anabl
  • toiledau anabl

Oriau agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Mae’r toiledau yn agored rhwng 9am a 5pm. Byddant yn cael eu cloi dros nos.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd

Lleoliad

Mae maes parcio Pont Ty'n-y-groes oddi ar yr A470, ger pentref Ganllwyd.

Mae yn Sir Gwynedd.

Cyfeirnod grid yr AO yw SH 730 233.

Cyfarwyddiadau

O'r de: Cymerwch yr A470 i'r gogledd o Ddolgellau. Tua 200 metr ar ôl mynd heibio i Westy Tŷ'n y Groes, trowch i'r dde gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dy'n y Groes. Mae'r maes parcio 300 metr i fyny'r rhiw wrth ymyl afon Mawddach.

O'r gogledd: Cymerwch yr A470 i'r de tuag at Ddolgellau. Ar ôl mynd drwy bentref Ganllwyd, trowch i'r chwith gan ddilyn yr arwyddion twristiaeth brown i Dy'n y Groes. Mae'r maes parcio 300 metr i fyny'r rhiw wrth ymyl afon Mawddach.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae'r gorsafoedd trên agosaf yn y Bermo (llinell Arfordir Cambria) a Blaenau Ffestiniog (llinell Blaenau Ffestiniog-Llandudno).

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Maes parcio

Mae'r maes parcio am ddim.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Canolfan Ymwelwyr Parc Coed y Brenin

Ffôn: 01341 440747

E-bost: coedybrenin@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Mannau eraill yng Gogledd Orllewin Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf