Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Maes parcio Bwlch Pen Barras, ger yr Wyddgrug

Car park at Bwlch Pen Barras

Trosolwg

Coedwigoedd Bryniau Clwyd

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ger yr Wyddgrug yw Bryniau Clwyd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gofalu am nifer o goetiroedd a choedwigoedd ym Mryniau Clwyd, ac maen nhw’n cynnwys llwybrau cerdded a llwybrau ceffylau amrywiol ag arwyddbyst.

Beth yw Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)?

Ardaloedd gwledig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sydd wedi’u dynodi’n ardaloedd cadwraeth oherwydd gwerth arbennig eu tirwedd yw AHNE.

Prif bwrpas y dynodiad AHNE yw gwarchod a gwella harddwch naturiol yr ardal, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dim ond wyth AHNE sydd yng Nghymru, ac mae Bryniau Clwyd yn un ohonyn nhw.

Coetiroedd a choedwigoedd ym Mryniau Clwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gofalu am nifer o goetiroedd a choedwigoedd yn AHNE Bryniau Clwyd.

Yn y coedwigoedd a’r coetiroedd hyn y mae mannau cychwyn y llwybrau cerdded ag arwyddbyst, a’r llwybrau ceffylau ag arwyddbyst ar gyfer pobl sy’n beicio neu’n marchogaeth ceffylau. Mae golygfeydd gwych o’r llwybrau hyn:

  • Coed Moel Famau – y man cychwyn ar gyfer llwybrau drwy’r goedwig i ben Moel Famau, y copa uchaf yn y gadwyn o fryniau sy’n ffurfio Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd
  • Bwlch Pen Barras – golygfeydd gwych o Ddyffryn Clwyd o’r maes parcio sy’n fan cychwyn i bedwar llwybr cerdded, gan gynnwys un i ben Moel Famau (gweler isod)
  • Coed Llangwyfan – llwybrau cerdded â golygfeydd gwych o fryngaerau yn ogystal â llwybr ceffylau sy’n cael ei ddefnyddio’n aml gan farchogion a beicwyr
  • Coed Nercwys – mae rhwydwaith ffyrdd da yn caniatáu mynediad ar droed, ar gefn ceffyl neu ar feic drwy’r coetir conwydd hwn

Mae yna hefyd ddau lwybr cerdded ar dir sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cychwyn o Barc Gwledig Loggerheads. Mae Parc Gwledig Loggerheads yn cael ei redeg gan Wasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych ac mae’n lle delfrydol i ddarganfod mwy am AHNE Bryniau Clwyd.

Mae Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn ymestyn drwy AHNE Bryniau Clwyd.

Maes parcio Bwlch Pen Barras

Mae golygfeydd gwych o Ddyffryn Clwyd i’w gweld o’r maes parcio ym Mwlch Pen Barras ac mae hefyd yn fan cychwyn da i lwybrau cerdded.

Y llwybr i Dŵr y Jiwbilî ar ben Moel Famau yw’r llwybr cerdded mwyaf poblogaidd, ac os dilynwch y llwybr byrrach ond serthach i ben Moel Fenlli fe welwch olion bryngaer o’r Oes Haearn.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd sy’n rheoli’r maes parcio.

Mae’r safle’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru mewn partneriaeth ag Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Dyfrdwy.

Cau a dargyfeirio

Sylwch:

  • Weithiau, rhaid inni gau neu ddargyfeirio llwybrau er eich diogelwch tra byddwn yn mynd i’r afael â gwaith cynnal a chadw neu weithrediadau coedwig
  • O dro i dro, efallai y bydd yn rhaid inni gau safle mewn tywydd eithafol, fel gwyntoedd cryfion neu eira a rhew, oherwydd y perygl posibl i ymwelwyr a staff
  • Cofiwch ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau a welwch ar y safle, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw arwyddion dargyfeirio dros dro sydd mewn grym

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar bob un o’r llwybrau cerdded ac maen nhw’n cychwyn o’r maes parcio.

Cylchdaith Moel Fenlli

1 filltir, 2 cilometr

Mae Cylchdaith Moel Fenlli yn llwybr byr a serth i gopa’r mynydd, lleoliad un o fryngaerau mwyaf trawiadol yr Oes Haearn ym Mryniau Clwyd. Mae’r llwybr yn dychwelyd i’r maes parcio o amgylch y rhagfuriau isaf.

Cylchdaith Tŵr y Jiwbilî

3.5 milltir, 5.5 cilometr

Mae Cylchdaith Tŵr y Jiwbilî yn llwybr serth sy’n dringo’n raddol i Dŵr y Jiwbilî ar ben Moel Famau ac yna’n dychwelyd drwy goetir cymysg neu gefn gwlad agored. Moel Famau yw’r copa uchaf ym Mryniau Clwyd (554 metr/1818 troedfedd) a phrin bod golygfa well yn unman yng Nghymru.

Cylchdaith Fron Hen

4 milltir, 7 cilometr

Mae Cylchdaith Fron Hen yn mynd â chi o amgylch rhagfuriau isaf Moel Fenlli a thrwy dir amaethyddol. Mae’n dychwelyd ar hyd llethrau Fron Hen a thrwy goetir cymysg hardd.

Cylchdaith Moel y Gaer

5.5 milltir, 9 cilometr

Mae Cylchdaith Moel y Gaer yn dringo’n raddol i Dŵr y Jiwbilî ar ben Moel Famau ac yna’n dychwelyd drwy gefn gwlad agored ar odre Moel y Gaer a’i bryngaer gyfareddol o’r Oes Haearn.

Sut i gyrraedd yma

Mae Bwlch Pen Barras bum milltir i’r de-orllewin o’r Wyddgrug, oddi ar yr A494.

Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd sy’n rheoli’r maes parcio.

Codir tâl am barcio.

Cyfarwyddiadau

O’r gogledd: dilynwch yr A494 o’r Wyddgrug drwy bentrefi Gwernymynydd a Loggerheads, nes cyrraedd y gyffordd lle mae arwydd 'Parc Gwledig Moel Famau'. Trowch i’r dde yno. Dilynwch y ffordd hon am filltir a hanner, heibio maes parcio Coed Moel Famau, a bydd maes parcio Bwlch Pen Barras ar y dde.

O’r de: dilynwch yr A494 o Ruthun i gyfeiriad yr Wyddgrug. Ar ôl mynd drwy bentref Llanferres trowch i’r chwith yn y gyffordd lle mae arwydd 'Parc Gwledig Moel Famau'. Dilynwch y ffordd hon am filltir a hanner, heibio maes parcio Coed Moel Famau, a bydd maes parcio Bwlch Pen Barras ar y dde.

Y cyfeirnod grid OS yw SJ 162 606.

Cludiant cyhoeddus

Mae’r orsaf reilffordd agosaf ym Mwcle. I gael manylion am gludiant cyhoeddus ewch i www.cymraeg.traveline.cymru

Darganfod mwy

Manylion cysylltu

Ffôn: 01352 810614 (Swyddfa Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Bryniau Clwyd)

Ebost: rachel.jones@denbighshire.gov.uk neu sharon.woods@denbighshire.gov.uk

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.