Coedwig Hafren, ger Llanidloes

Beth sydd yma

Croeso

Plannwyd Coedwig Hafren gan y Comisiwn Coedwigaeth yn ystod y 1930au a chafodd ei henwi ar ôl Afon Hafren.

Mae Afon Hafren yn tarddu mewn mawnog ar lethrau Pumlumon, mynydd uchaf Canolbarth Cymru. Daw’r afon yn ffrwd gref mewn byr o dro ac mae ei sgydau a’i rhaeadrau’n byrlymu i lawr drwy goedwig,

Mae cerdded ar hyd un o’r llwybrau sydd wedi’u harwyddo o’r maes parcio yn ffordd ardderchog o fwynhau’r afon brydferth hon.

Mae’r llwybr hiraf yn mynd â chi at darddle’r Hafren ychydig y tu allan i derfyn y goedwig.

Mae’r llwybrau byrrach yn arwain at y sgydau o fewn y goedwig, gan gynnwys y rhaeadr enwog, Dŵr-Torri-Gwddf.

Mae Coedwig Hafren hefyd yn gartref i nifer o lwybrau troed a llwybrau ceffylau, a dyma’r man cychwyn ar gyfer dwy daith gerdded hir.

Mae mannau picnic dymunol ger y maes parcio a llwybr hygyrch ar lan yr afon at lwyfan gwylio sy’n edrych dros y rhaeadrau.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau yn y prif faes parcio (Rhyd-y-Benwch).

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr y Rhaeadrau

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: ½ milltir/0.9 cilomedr
  • Amser: 30 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r llwybr yn dringo o’r maes parcio i’r llwybr pren. Mae’n dychwelyd ar lwybr llydan ag arwyneb da drwy’r goedwig.

Mae Llwybr y Rhaeadrau yn mynd i lawr at lwybr pren ar hyd glan yr afon a thros Raeadr Hafren lle gallwch eistedd a mwynhau’r olygfa oddi ar lwyfan wedi’i godi cyn dychwelyd drwy’r coed i’r maes parcio.

Llwybr Hafren-Torri-Gwddf

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 1¾ milltir/2.8 cilomedr
  • Amser: 1 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’r daith yn dechrau fel llwybr gwastad ar hyd yr afon, cyn esgyn i fyny rhai grisiau at lwybr pren drwy’r ddôl ac yna at lwybr cerrig at y rhaeadr. Mae grisiau cul, serth i lawr at y bont dros y rhaeadr, ac esgyniad byr ond serth yn ôl at ffordd y goedwig y mae’r llwybr yn mynd ar ei hyd yn ôl i’r maes parcio.

Mae Llwybr Hafren-Torri-Gwddf yn cychwyn ar hyd yr afon ac yna’n mynd drwy ddôl blodau gwylltion gyda rhan ohono’n llwybr pren.

Mae’n croesi pont droed lle mae Afon Hafren yn pistyllio i lawr y ceunant ac yn ffurfio rhaeadr enwog Hafren-Torri-Gwddf.

Mae’n dychwelyd i’r maes parcio ar ffordd goedwig gyda golygfeydd dros y goedwig.

Llwybr Rhaeadr Blaen Hafren

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3¾ milltir/6 cilomedr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae gan y llwybr at y rhaeadr arwyneb da o raean cywasgedig a cherrig rhydd. Mae’n dychwelyd ar ffordd goedwig. Mae ambell esgyniad a disgyniad serth a sawl mainc ar hyd y ffordd.

Mae’r ffordd brydferth hon yn mynd drwy grombil y goedwig ar hyd Afon Hafren at Raeadr Blaen Hafren.

Llwybr Tarddiad Hafren

  • Gradd: Anodd
  • Pellter: 8 milltir/13 cilomedr
  • Amser: 4½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae gan ran gyntaf y llwybr arwyneb da o raean cywasgedig a cherrig rhydd. Mae’r darn llinol at darddle Afon Hafren ar slabiau cerrig a llwybr o gerrig rhydd; efallai y bydd defaid ar y rhan hon. Byddwch yn dychwelyd ar hyd ffordd goedwig a llwybr cul o gerrig clai rhydd ar hyd yr afon. Mae rhai esgyniadau a disgyniadau serth a sawl mainc ar hyd y llwybr.

Mae Llwybr Tarddle Afon Hafren yn mynd ar hyd yr afon a thrwy’r goedwig at Raeadr Blaen Hafren.

Yna, mae’n dringo’n serth at derfyn y goedwig ac at lwybr cerrig drwy rostir corsiog at darddle Afon Hafren ar Bumlumon – mae’r tarddle wedi’i farcio â phostyn pren wedi’i gerfio.

Mae’r llwybr yn mynd heibio rhai nodweddion treftadaeth gan gynnwys maen hir ac adfeilion hen fwynglawdd a thyddyn – cadwch lygad am y paneli gwybodaeth ar hyd y llwybr.

Llwybrau cerdded pellter hir

Llwybr Bro Gwy

Mae Llwybr Bro Gwy’n daith gerdded bell o 136 milltir ar hyd glan Afon Gwy i Gas-gwent.  

Coedwig Hafren yw man cychwyn a diwedd y daith llinell syth hon.  

Gweler Llwybr Bro Gwy.

Llwybr Afon Hafren

Mae Llwybr Afon Hafren yn daith gerdded bell 210 milltir i Fryste.

Coedwig Hafren yw man cychwyn (neu ddiwedd) y llwybr llinell syth hwn a dyma’r daith gerdded glan yr afon hiraf ym Mhrydain.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Long Distance Walkers Association.

Sarn Sabrina

Taith gron 25 milltir gydag arwyddbyst yw Sarn Sabrina, a rhan ohoni’n pasio drwy Goedwig Hafren.

Enwir y llwybr ar ôl y chwedl Geltaidd am sabrina, nymff ddŵr oedd yn byw yn nyfroedd Afon Hafren yn ôl y sôn.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sarn Sabrina.

Llwybr beicio pellter hir

Mae llwybr rhif 8 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans (Lôn Las Cymru) yn dilyn yr is-ffordd drwy Goedwig Hafren.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sustrans.

Gweilch y Pysgod yng Nghoedwig Hafren

Mae gweilch y pysgod yn treulio’r haf ger Llyn Clywedog yng Nghoedwig Hafren.

Mae’r adar ysglyfaethus mawr yma’n dychwelyd i Affrica ddiwedd mis Awst.

Gallwch wylio’r ffrwd fyw o un o nythod y gweilch yn ystod y tymor bridio (sy’n digwydd fel arfer o fis Mawrth i fis Awst).

Mae dau gamera ffrwd fyw’n ffilmio’r nyth 24 awr y dydd.

Mae lluniau byw o'r ddau gamera ar gael ar YouTube drwy chwilio "Llyn Clywedog Ospreys", neu trwy ddefnyddio'r dolenni isod:

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coedwig Hafren yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth hygyrchedd

Mae’r cyfleusterau’n cynnwys:

  • parcio bathodyn glas
  • toiledau hygyrch
  • Llwybr y Rhaeadrau (llwybr hygyrch a gynlluniwyd mewn partneriaeth â chymdeithasau lleol i’r anabl
  • bwrdd picnic hygyrch ar y llwyfan gwylio sy’n edrych dros y rhaeadrau

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Mae Coedwig Hafren 6 milltir i’r gorllewin o Lanidloes.

Cod post

Y cod post yw SY18 6PT.

Sylwer: efallai na fydd y cod post hwn yn eich arwain at y maes parcio os byddwch yn defnyddio sat nav neu ap llywio.

Rydym yn awgrymu eich bod yn dilyn y cyfarwyddiadau isod neu’n defnyddio’r Google map ar y dudalen hon lle ceir pin ar safle’r maes parcio.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch Stryd y Bont Fer allan o Lanidloes – ceir arwydd brown a gwyn Coedwig Hafren ar ochr neuadd y dref.

Croeswch yr afon a chadw i’r chwith.

Dilynwch y ffordd gul hon am 6½ milltir, heibio’r Hen Neuadd, ac mae maes parcio Rhyd-y-benwch ar y chwith.

What3Words

Edrychwch ar y lle hwn ar wefan What3Words

Arolwg Ordnans

Y cyfeirnod grid Arolwg Ordnans ar gyfer y maes parcio yw SN 857 869 (Explorer Map 214).

Cludiant cyhoeddus

Yr orsaf reilffordd agosaf yw Caersws.

Er mwyn cael manylion ynghylch cludiant cyhoeddus, ewch i wefan Traveline Cymru.

Parcio

Prif faes parcio yw Rhyd-y-benwch.

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Taflen Coedwig Hafren PDF [13.3 MB]
Diweddarwyd ddiwethaf