Coed Ty’n y Bedw, ger Aberystwyth

Beth sydd yma

Croeso

Mae Coed Ty’n y Bedw’n swatio ar lethr serth ger Afon Ystwyth.

Mae’r ddau lwybr cerdded drwy’r coetir yn dechrau ar ochr arall y ffordd o’r maes parcio – edrychwch am yr arwyddbost mawr pren.

Mae Gwarchodfa Natur Grogwynion wrth ymyl yr afon a gallwch ei gyrraedd o’r un maes parcio â’r goedwig.

Mae llwybr pren i mewn i’r warchodfa a llwybr byr ar hyd yr afon.

Mae’r ardal bicnic fach i lawr y llwybr o’r maes parcio i mewn i’r warchodfa natur.

Llwybrau cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybrau cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybrau.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Craig yr Ogof

  • Gradd: Hawdd
  • Pellter: 1 filltir/1.8 cilometr
  • Amser: 45 munud
  • Gwybodaeth am y llwybr: Dringfa serth ar ddechrau’r llwybr a grisiau i fyny at y fainc. Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded â gafael da. Bydd arnoch angen lefel resymol o ffitrwydd ar gyfer y llwybr hwn.

Mae’r llwybr byr hwn yn cynnig golygfeydd hyfryd ar draws y llethrau coediog serth a mainc tua hanner ffordd ar hyd y llwybr.

Llwybr Ty’n y Bedw

  • Gradd: Cymedrol
  • Pellter: 3 milltir/5 cilometr
  • Amser: 1½ awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Nifer o ddringfeydd hir a disgynfeydd serth. Mae’r arwyneb yn arw a gall fod yn wlyb mewn mannau. Mae sawl mainc ar hyd y llwybr.  Argymhellir gwisgo esgidiau cerdded â gafael da. Bydd arnoch angen lefel dda o ffitrwydd ar gyfer y llwybr hwn. 

Mae’r llwybr hirach hwn yn dringo i fyny drwy goed ffynidwydd Douglas anferthol.

Yna, mae’n dolennu o gwmpas y bryn ar ffyrdd coedwig llydan, llwybrau glaswelltog drwy’r coetir a llwybrau cul wrth ymyl nant.

Mae meinciau ar hyd y llwybr i fwynhau’r golygfeydd dros ddyffryn Ystwyth.

Gwarchodfa Natur Grogwynion

Mae Gwarchodfa Natur Grogwynion wrth ymyl afon Ystwyth a gallwch ei gyrraedd o’r un maes parcio â’r goedwig.

Mae’r adran hon o’r afon yn dal i fod yn un o’r rhai gwylltaf yng Nghymru, ac mae’n newid ei chwrs yn aml ar ôl llifogydd.

Enwyd y warchodfa ar ôl hen fwynglawdd plwm ac mae graean yr afon yn llawn metelau trwm oherwydd yr hen fwyngloddiau plwm ymhellach i fyny cwm Ystwyth. Mae’r rhain yn achosi cyfuniad anarferol o rug, glaswellt ac eithin ar lan yr afon.

Mae’r golygfeydd agored ar hyd y gorlifdir yn cyferbynnu â llethrau serth y dyffryn sydd wedi’u gorchuddio â choed.

Mae bywyd gwyllt ar y warchodfa’n cynnwys y fuwch gota bum smotyn brin a chorynnod fel y bleiddgorryn sy’n byw mewn glannau graean bras. 

Llwybr beicio pellter hir

Mae llwybr 82 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans yn dilyn yr is-ffordd sy’n mynd i’r maes parcio.

I gael rhagor o wybodaeth am y llwybr beicio pellter hir hwn, ewch i wefan Sustrans.

Coedwig Genedlaethol Cymru

Mae Coed Ty’n y Bedw rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru.

Bydd y Goedwig Genedlaethol yn:

  • creu ardaloedd o goetir newydd
  • gwella coetiroedd presennol
  • adfer coetiroedd hynafol unigryw Cymru

Bydd yn ffurfio rhwydwaith ecolegol cydgysylltiedig a fydd yn rhedeg ledled Cymru, gan gynnig buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Bydd rhannau o’r rhwydwaith yn y pen draw yn ffurfio llwybr a fydd yn rhedeg ar hyd a lled Cymru, felly bydd modd i unrhyw un ei gyrraedd ble bynnag maen nhw’n byw.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Coedwig Genedlaethol Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Coed Ty’n y Bedw 10  milltir i’r de-ddwyrain o Aberystwyth.

Mae yn sir Ceredigion.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Coed Ty’n y Bedw ar fap Explorer 213 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS yw SN 694 716.

Cyfarwyddiadau

Cymerwch y B4340 o Aberystwyth i Drawsgoed.

Ewch yn eich blaen drwy Drawscoed ac, ar ôl 1½ milltir, trowch i’r chwith yn syth ar ôl y bont.

Mae’r maes parcio ar ôl ½ milltir ar y chwith.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.

Am fanylion trafnidiaeth gyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.

Maes parcio

Ceir arwyddbost ar gyfer Coed Ty’n y Bedw a Gwarchodfa Natur Grogwynion i’ch cyfeirio at y maes parcio a gallwch gyrraedd y ddau safle o’r fan yma.

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf