Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron, ger Tregaron

Beth sydd yma

Croeso

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn ardal eang o dir gwlyb sy’n llenwi dyffryn llydan Afon Teifi wrth ymyl Tregaron.

O amgylch y corsydd o fawn dwfn mae gwelyau cyrs, ffeniau, glaswelltir gwlyb, coetir, afonydd a phyllau. Mae'r amrywiaeth hon o gynefinoedd yn cynnal cyfoeth o fywyd gwyllt.

Mae’r llwybr pren sydd yn hollol addas ar gyfer pawb dros dde-ddwyrain y gors yn pasio’r guddfan y gors lle gallwch fwynhau golygfa dawel o’r tirlun a’r bywyd gwyllt.  

Gall cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ddefnyddio'r llwybr aml-ddefnyddiwr sy’n dilyn hen reilffordd ar hyd ymyl y warchodfa ac mae’n cynnig golygfeydd da o Gors Caron.

Llwybr cerdded

Mae arwyddbyst ar y llwybr cerdded o’r dechrau i’r diwedd.

Chwiliwch am y panel gwybodaeth ar ddechrau’r llwybr.

Dysgwch beth yw ystyr graddau’r llwybrau cerdded

Llwybr Cors Caron

  • Gradd: Hygyrch
  • 1½ milltir, 2.6 cilomedr
  • Amser: 1 hour
  • Gwybodaeth am y llwybr: Mae’n hollol hygyrch ac mae ganddo arwyneb pob tywydd ac amryw o feinciau. Mae'r guddfan yn hygyrch.

Mae’r llwybr pren yn arwain dros rai o rannau mwyaf trawiadol y cors at guddfan fawr.

Llwybr aml-ddefnyddiwr

Llwybr yr Hen Reilffordd

  • Gradd: Hygyrch
  • Pellter: 6¼ milltir, 10.2 cilomedr (yno ac yn ôl)
  • Amser: 3 awr
  • Gwybodaeth am y llwybr: Gall cerddwyr, beicwyr a marchogwyr ddefnyddio’r llwybr. Mae’r rheilordd segur yn cynnig arwyneb cadarn sy’n addas i gadeiriau olwyn.

Mae’r llwybr hwn, sy’n llinelloll, yn dilyn hen reilffordd ar hyd ymyl y warchodfa ac mae’n cynnig golygfeydd da o ran helaeth o Gors Caron.

Mae'n arwain at Iard yr Hen Orsaf yn Ystrad Meurig.

Dyma oedd yr hen lwybr Rheilordd Manceinion ac Aberdaugleddau (rhan Ystrad Meurig i Dregaron) a gaeodd yn yr 1960au.

Mae llwybr 82 Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol Sustrans (rhan o Lwybr Beicio Ystwyth o Dregaron i Aberystwyth) yn dilyn yr un llwybr â Llwybr yr Hen Reilffordd.

Beth sydd i’w weld ar y Warchodfa Natur Genedlaethol

Mae Cors Caron yn Warchodfa Natur Genedlaethol.

Mae Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn lleoedd sydd â rhai o'r enghreifftiau gorau o gynefinoedd bywyd gwyllt a nodweddion daearegol.

Mae’r tirlun a’r bywyd gwyllt yn amrywio yn ôl yr adeg o’r flwyddyn – cadwch olwg am y rhain.

Mae’r warchodfa fawr hon yn cwmpasu ardal o dros 800ha (neu dair milltir sgwâr).

Mae’r tair cyforgors yn fyd-enwog – sef ardaloedd o fawn dwfn sydd wedi datblygu dros y 12,000 o flynyddoedd diwethaf. Dyma rai o’r enghreitiau gorau o gyforgorsydd mawn ym Mhrydain, gyda miliynau o fetrau ciwbig o fawn hyd at ddyfnder o ddeg metr.

Canolbwynt y warchodfa yw afon Teifi a’i gorlifdir. O bwysigrwydd rhyngwladol fel Ardal Cadwraeth Arbennig Ewropeaidd mae’r gorlifdir helaeth yn wyllt ac anghysbell.

Mae llwybr yr hen reilordd o Aberystwyth i Gaerfyrddin, sy’n dilyn ymyl Cors Caron, wedi datblygu ystod eang o gynefinoedd ers cau’r rheilordd yn y 1960au.

Mae’r rhain wedi’u hamgylchynu gan amrywiaeth gyfoethog o gynefinoedd, sy’n gwneud y warchodfa yn safle ardderchog ar gyfer bywyd gwyllt. Fry uwchben y warchodfa mae’n bosibl gweld barcut, hebog yr ieir, y gylfinir a’r ehedydd yn hedfan, tra bod gwas y neidr, madfall a’r dyfrgi yn symud drwy’r gors.

Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru

Mae dros 70 o Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Warchodfeydd Natur Cenedlaethol.

Prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn un o saith safle ym Mhrosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru.

Y prosiect hwn yw’r rhaglen adfer genedlaethol gyntaf ar gyfer cyforgorsydd Cymru.

Cors Caron yw un o’r cyforgorsydd mwyaf yn iseldir Prydain sy’n dal i dyfu, gyda mawn mor ddwfn â 10 metr o dan yr wyneb.

Mae cyforgorsydd yn un o gynefinoedd prinnaf a phwysicaf Cymru, ac maen nhw’n gartref i blanhigion a bywyd gwyllt prin.

Daeth enw cyforgorsydd o’u siâp cromennog (un o ystyron cyfor yw ‘ymchwydd’, fel yn llanw’r môr). Maen nhw’n ardaloedd o fawn sydd wedi cronni dros 12,000 o flynyddoedd a gallant fod mor ddwfn â 12 metr. 

I ddysgu mwy am y gwaith adfer, cofrestru i gael e-gylchlythyron, a darllen ein newyddion diweddaraf ewch i dudalen we prosiect Adfywio Cyforgorsydd Cymru.

Ymweld yn ddiogel

Rydyn ni eich eisiau chi i ddychwelyd adref yn ddiogel ar ôl eich ymweliad yma.

Rydych yn gyfrifol am eich diogelwch eich hun yn ogystal â diogelwch unrhyw blant ac anifeiliaid sydd gyda chi yn ystod eich ymweliad.

Sylwer:

  • Cadwch at y llwybr bordau a’r droedffordd a gwisgwch bâr da o esgidiau cerdded.
  • Byddwch yn ofalus, gall sigaréts a daflwyd achosi tannau ‘n hawdd mewn glaswelltir tal.
  • Mae anifeiliaid fferm yn pori rhannau o’r warchodfa - peidiwch â mynd yn agos atynt neu geisio eu bwydo.
  • Os ddewch o hyd i wiber peidiwch â chyffwrdd.

Am gyngor ac awgrymiadau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad, ewch i dudalen Ymweld â'n lleoedd yn ddiogel.

Gwybodaeth am hygyrchedd

  • Mae’r llwybr bordiau cylch (Llwybr Cors Caron), sy’n addas i bawb, yn rhedeg am 1 filltir (1.5 km) dros dde-ddwyrain y gors
  • Mae’r mynediad i’r llwybr 400 metr o’r prif faes parcio ar hyd llwybr hollol addas i bawb (cyfanswm y pellter i ddychwelyd i’r maes parcio yw 1.6 milltir / 2.6 cilomedr)
  • Mae’r llwybr yn mynd heibio i fynedfa cuddfan hygyrch y gors lle gallwch fwynhau golygfa dawel o’r warchodfa a’i bywyd gwyllt
  • Mae llefydd i basio ac i orffwys ar hyd y ffordd
  • Mae rhai meinciau ar hyd y llwybr bordiau ac yn y guddfan y gors
  • Mae toiledau hygyrch yn y prif faes parcio

Amseroedd agor

Darllenwch y wybodaeth ar frig y dudalen we hon i ganfod a oes newidiadau i'r amserau agor.

Mae’r toiledau ar agor bob amser. 

Newidiadau i gyfleusterau ymwelwyr

Gweler brig y dudalen we hon i gael manylion unrhyw gynlluniau i gau cyfleusterau neu unrhyw newidiadau eraill i gyfleusterau ymwelwyr yma.

Er mwyn eich diogelwch, dilynwch gyfarwyddiadau'r staff ac arwyddion bob amser gan gynnwys y rhai ar gyfer dargyfeirio neu gau llwybrau.

Mae'n bosibl y bydd angen i ni ddargyfeirio neu gau llwybrau wrth i ni wneud gwaith cynnal a chadw neu gynnal gweithrediadau eraill ac mae'n bosibl y bydd angen i ni gau cyfleusterau ymwelwyr eraill dros dro.

Mewn tywydd eithafol, mae'n bosibl y byddwn yn cau cyfleusterau ar fyr rybudd oherwydd y risg o anafiadau i ymwelwyr a staff.

Sut i gyrraedd yma

Lleoliad

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron 2 filltir i’r gogledd o Dregaron.

Mae yn Sir Ceredigion.

Cyfarwyddiadau

Dilynwch yr arwydd brown a gwyn o’r groesffordd yn Nhregaron tuag at y B4343 i gyfeiriad Pontrhydfendigaid.

Ar ôl 2 filltir, mae’r maes parcio ar y chwith.

Map yr Arolwg Ordnans

Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron ar fap Explorer 187 a 199 yr Arolwg Ordnans (OS).

Cyfeirnod grid yr OS ar gyfer y prif faes parcio yw SN 692 625.

Trafnidiaeth gyhoeddus

Y prif orsaf rheilffyrdd agosaf yw Aberystwyth.

Mae rhai byssus rhwng Aberystwyth a Llambed yn stopio yn Nhregaron, ac mae'r gwasanaeth o Aberystwyth i Dregaron trwy Bontrhydfendigaid yn mynd heibio Cors Caron.

Er mwyn cael manylion cludiant cyhoeddus ewch i wefan Traveline Cymru.  

Maes parcio

Mae’r prif faes parcio 2 filltir o Dregaron ar y B4343 i Bontrhydfendigaid.

Mae ychydig o le parcio hefyd mewn cilfan oddi ar y B4340 i’r gogledd o Fferm Maesllyn (y cyfeirnod grid OS yw SN 695 631) ac yn Iard Drenau Ystrad Meurig oddi ar y B4340 (y cyfeirnod grid OS yw SN 711 673).

Mae parcio’n ddi-dâl.

Ni chaniateir parcio dros nos.

Manylion cyswllt

Nid oes staff yn y lleoliad hwn.

Cysylltwch â’n tîm cwsmeriaid gydag unrhyw ymholiadau cyffredinol yn ystod oriau swyddfa o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Taflen Cors Caron PDF [3.1 MB]
Diweddarwyd ddiwethaf