Gorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru Eog A Siwin Rheolau Dalfeydd 2017

Is-Ddeddfau Gwialen A Lein Cymru (Eog A Siwin) 2017

Is-Ddeddfau Pysgota Rhwyd Cymru (Eog A Siwin) 2017 

Rydyn ni’n gofyn am eich barn ar gynigion am reoliadau newydd ar ddal pysgod.

Y cynnig yw bod y rheoliadau mewn grym erbyn tymor 2018.

Cefndir

Mae’r gostyngiad parhaol yn niferoedd yr eogiaid a sewin aeddfed sy’n dychwelyd i afonydd Cymru wedi cyrraedd rhif digynsail o isel yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd bellach yn bygwth dyfodol nifer o bysgodfeydd.

Rydyn ni’n ystyried nifer o gamau a mesurau a fydd yn helpu i reoli a newid y tueddiadau hyn. Rhaid sicrhau bod y ddwy rywogaeth eiconig yn dal i fod yn rhan hanfodol o’n hamgylchedd a’n diwylliant.

Mae'n rhaid inni roi cyfle i fwy o bysgod aeddfed i silio os ydyn ni am sicrhau bod y rhywogaethau’n goroesi’n afonydd Cymru. 

Rydyn ni eisoes wedi gofyn i bysgotwyr a rhwydwyr i ryddhau’r pysgod maen nhw’n eu dal yn wirfoddol, ac ar ôl adolygu’r dystiolaeth a chydweithio gyda’n rhanddeiliaid teimlwn ei bod nawr yn amser cyflwyno rheoliadau newydd i bysgota eog a siwin. 

Mae’r rheoliadau arfaethedig ar ddalfeydd yn cynnwys holl afonydd Cymru. Rydyn ni’n cydnabod bod angen dull cwbl integredig ar gyfer afonydd y ffin, ac rydyn ni’n gweithio gydag Asiantaeth yr Amgylchedd i sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd ymarferol a synhwyrol ac y bydd yn destun ymgynghoriad yn y dyfodol.

Mae tair rhan i’r cynigion:

  • Gorchymyn Cyfyngu ar Rwydi
  • Rheoliadau Dalfeydd Gwialen a Lein (Is-ddeddfau)
  • Rheoliadau Dalfeydd Afonydd y Ffin (Is-ddeddfau) (ymgynghoriad ar y ffordd ddiwedd 2017)

Bydd y rheolau’n ddilys am 10 mlynedd, gydag adolygiad cynhwysfawr i’w heffeithiolrwydd ar ôl pum mlynedd.

Mae'r cynigion yn cynnwys:

  • Cadw’r un nifer o drwyddedau rhwyd yn y 13 pysgodfa rwyd gyhoeddus eog a siwin
  • Cysoni dechrau a diwedd y tymhorau pysgota rhwyd:
    • Cwtogi’r tymor rhwydo gan ddechrau pysgodfeydd rhwyd dim cynt na 1 Mai
    • Gorffen y tymor rhwydo ar 31 Gorffennaf
  • Gweithredu pysgota dal a rhyddhau ym mhob pysgodfa rhwyd a gwialen ar gyfer eog
  • Gofyn am ddal a rhyddhau siwin mewn pysgodfeydd gwialen ar afonydd sy’n agored i niwed cyn 1 Mai
  • Gosod cyfyngiad o 60cm o hyd ar siwin mewn pysgodfeydd gwialen
  • Cyfyngu ar ddulliau (abwyd, bachau heb adfach a threblau) fel bod gan bysgod sydd wedi cael eu rhyddhau gyfle da i oroesi (Is-ddeddfau) 

Cyfnod

Bydd ymgynghoriad statudol Rheoliadau Dalfa Gwialen a Lein yn dechrau ar 22 Awst, 2017 ac yn rhedeg am 12 wythnos tan 14 Tachwedd, 2017