Asesu gweithgareddau pysgota Cymru
Ynglŷn â’r prosiect
Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar brosiect i werthuso effaith pysgota ar nodweddion Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru.
Bydd yr allbynnau o Brosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru yn:
- Sicrhau ein bod yn diogelu ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yng Nghymru
- Cyfrannu at ddefnyddio pysgod môr yn gynaliadwy
- Sicrhau bod yr amgylchedd morol yn fwy sefydlog
Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn cynnal nifer o asesiadau, gan ddechrau gyda’r hyn sydd â’r risg mwyaf, megis offer symudol ar gynefinoedd riff sensitif. Mae deugain o’r rhain sydd wedi eu hasesu’n ‘borffor’ bellach wedi cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ac i’w gweld ar gwaelod y dudalen yma.
Bydd allbynnau’r Prosiect hwn yn cefnogi amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd drwy gyfrannu at y broses o reoli’r amgylchedd morol yn gynaliadwy.
Cewch wybod mwy o fanylion yn y dogfennau y byddwn yn eu defnyddio i lywio’r gwaith asesu:
- Adroddiad Egwyddorion a Blaenoriaethu (Saesneg yn unig)
- Matrics
- Cronfa Ddata Tystiolaeth
Asesiadau Ystyrir yn 'Borffor'
Fe weithiodd CNC fel cynghorydd cadwraeth natur statudol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru fel rheoleiddiwr pysgodfeydd morol Cymru i gynhyrchu’r asesiadau canlynol ystyrir yn borffor. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r drysorfa dystiolaeth dryloyw hwn yn fel gwybodaeth ar gyfer reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn y dyfodol.
Roedd yr asesiadau i gyd wedi elwa o ymarfer sicrhau ansawdd allanol a mewnol.
Mae pob asesiad yn cynnwys y canlynol:
- disgrifiad o’r nodwedd
- disgrifiad o’r offer
- asesiad o’r llwybrau effaith amrywiol rhwng yr offer a’r nodwedd
- disgrifiad o ble mae’r nodweddion i’w gweld o fewn yr Ardal Forol Warchodedig
- casgliad a chyfeiriadau