Rhagair

Mae'r cynllun gweithredu pwysig hwn yn disgrifio ac yn nodi manylion y camau gweithredu sydd eu hangen er mwyn i ni adfer poblogaethau iach a mwy cynaliadwy ein heogiaid a'n brithyllod y môr eiconig yng Nghymru.

Nid wyf yn tanystyried effaith y newidiadau sy'n dilyn y penderfyniad a wnaed gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gadarnhau'r is-ddeddfau pysgota diweddar. Fodd bynnag, er mwyn cael yr effaith fwyaf, mae angen i'r newidiadau hyn weithio ochr yn ochr â mesurau a chamau gweithredu ehangach ledled Cymru.

Rwyf wedi parhau i bwysleisio pwysigrwydd gweithio mewn modd rhagweithiol gydag amrywiaeth eang o bartneriaid. Er gwaethaf yr heriau sy’n gysylltiedig â newid arferion, mae'n rhaid i ni weithio ar y cyd er mwyn llwyddo. Yn ogystal â gweithio gyda phartneriaid ledled Cymru i nodi'r pwysau parhaus a cheisio safbwyntiau ar flaenoriaethau i'w gweithredu, byddwn hefyd yn ceisio cyflawni drwy eraill, gan atgyfnerthu cydberthnasau gwaith da i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer stociau eogiaid a brithyllod y môr.

Felly, mae'n bleser gennyf gadarnhau, drwy weithio gyda Llywodraeth Cymru a thrwy ein rhaglen grant, ein bod wedi nodi arian sylweddol newydd i gefnogi cyflawniad y cynllun hwn drwy weithio gyda phartneriaid ledled Cymru. Byddwn yn gwneud popeth a allwn dros y flwyddyn nesaf i sicrhau bod y gwaith hwn yn llwyddo.

Ynghyd â'n rhaglen grant, byddwn yn cefnogi gwaith trwy ein cylch gorchwyl ehangach. Felly, mae'r cynllun hwn yn ystyried gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru ar reoli cynefinoedd a thir, ansawdd dŵr ac adfer cloddfeydd metel, ymhlith sawl peth arall, y mae gan bob un y potensial i liniaru'r heriau sy'n wynebu ein poblogaethau pysgod. Mae angen i ni weithio ar draws y cylch gorchwyl ehangaf posib os ydym am gyflawni ein nod o sicrhau poblogaethau pysgod cynaliadwy a gwydn yn y dyfodol.

Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n holl bartneriaid i ymdrin â'r heriau ac achub ar y cyfleoedd sy'n gysylltiedig â gwella a chynnal amgylcheddau gwydn ar gyfer ein poblogaethau pysgod eiconig am flynyddoedd i ddod.

 

Clare Pillman

Prif Weithredwr, Cyfoeth Naturiol Cymru

Ebrill 2020

 

Pam rydyn ni wedi creu cynllun

Mae'r cynllun hwn yn nodi'r camau gweithredu y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymrwymo iddynt er mwyn diogelu ac adfer poblogaethau eogiaid a brithyllod y môr yn afonydd Cymru.

Mae'r ddwy yn rhywogaethau eiconig, y mae angen cynefinoedd dŵr croyw o safon arnynt er mwyn ffynnu. Maent yn dangos i'r gymdeithas ansawdd amgylcheddol ein dalgylchoedd, a hefyd yn rhoi cyfleoedd pwysig ar gyfer gweithgareddau hamdden iach a gwerthfawr.

Yn gyffredin â'r rhan fwyaf o wledydd eraill ar draws dosbarthiad eogiaid Gogledd yr Iwerydd a’r amrediad o frithyllod y môr Ewropeaidd, mae poblogaethau wedi dirywio dros y degawdau diwethaf. Mae hyn wedi bod fwyaf amlwg ar gyfer eogiaid, ond yn ddiweddar gwelwyd dirywiad sydyn yn stociau brithyllod y môr Cymru (Ffigur 1).

Mae ein hymateb i'r dirywiadau hyn wedi cynnwys dau ddegawd o fuddsoddiad mewn gwaith adfer cynefinoedd, a gweithio mewn partneriaeth ag ymddiriedolaethau afonydd sydd wedi cael eu sefydlu o fewn y cyfnod hwn. Fodd bynnag, mae’r gwaith hwn wedi bod yn lleol ac wedi'i gyfyngu gan argaeledd adnoddau, er bod llawer i'w wneud o hyd.

Ynghyd â genweirwyr, rydym hefyd wedi sicrhau bod mwy o bysgod yn goroesi bob blwyddyn i silio: mae hyn wedi cael ei gyflawni drwy drawsnewid arferion genweirwyr i gynyddu pysgota dal a rhyddhau gwirfoddol yn sylweddol. Mae hyn wedi cael ei groesawu, ond mae'r dirywiadau difrifol, yn gyntaf mewn 'eogiaid y gwanwyn’ cynnar a bellach gan holl gydrannau oedran môr eogiaid ac, yn fwy diweddar, brithyllod y môr wedi arwain at ddulliau rheoli pysgota gorfodol. Mae wedi dod yn fwyfwy pwysig i amddiffyn yr adnoddau silio bob blwyddyn, oherwydd bod camau gweithredu eraill yn mynd rhagddynt. Heddiw, mae'r holl eogiaid sy'n cael eu dal gan wialen a rhwyd yng Nghymru ac, mewn amgylchiadau a lleoliadau penodol, brithyllod y môr, yn gorfod cael eu dychwelyd yn fyw ac iach ar ôl cael eu dal.

Wrth gadarnhau'r is-ddeddfau amddiffynnol newydd ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig wedi gofyn i Cyfoeth Naturiol Cymru wneud y canlynol:

“…cymryd yr awenau ar Gynllun Gweithredu penodol i Gymru er mwyn diogelu eogiaid a brithyllod y môr, gan weithio gyda rhanddeiliaid. Bydd angen i'r cynllun gynnwys yr holl waith presennol sy'n cael ei ddatblygu gan yr holl grwpiau perthnasol, yn ogystal â nodi'r bylchau a'r camau gweithredu i fynd i'r afael â'r rhain. Gofynnaf i chi ystyried y materion a godwyd yn yr ymchwiliad yn benodol. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda chi i gyfrannu at hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd genweirwyr a'r sawl sy'n cefnogi genweirio, yn ogystal â phobl eraill â diddordeb yn y mater hwn yn gwneud yr un peth."

Mae'r cynllun yn deillio o waith gyda'n grwpiau rhanddeiliaid ledled Cymru. Mae'n nodi'r mesurau a'r mentrau sy’n ofynnol i fynd i'r afael â'r pwysau amlwg ar stociau eogiaid a brithyllod y môr er mwyn atal a gwrthdroi'r dirywiad.

Ein gweledigaeth ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n cymeradwyo gweledigaeth a rennir ar gyfer eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru:

“Diogelu cynaliadwyedd ein cyflenwad naturiol o stociau eogiaid a brithyllod y môr gwyllt yng Nghymru drwy gymhwyso'r arferion gorau o ran gwyddoniaeth a rheolaeth."

Bydd llwyddiant yn golygu y bydd ein stociau'n ffynnu unwaith eto, a byddwn y cyflawni'r targedau y gwnaethom eu gosod i ni ein hunain, ond yn bwysig iawn hefyd, bydd yn cyfrannu at ganlyniadau economaidd-gymdeithasol gwell. Gallwn gyfrannu at gyflawni sawl un o’r nodau llesiant i Gymru:

  • Cymru gydnerth ag ecosystemau iach sy'n cefnogi cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a'r capasiti i addasu i newid. Er enghraifft, newid yn yr hinsawdd, sy'n ein gyrru i sicrhau bod ein nentydd sensitif yn yr ucheldir yn cael eu paratoi i glustogi effeithiau gwaethaf hinsawdd sy'n cynhesu
  • Cymru fwy llewyrchus drwy fwy o genweirio hamdden gwerthfawr
  • Cymru iach gyda mwy o bobl yn mwynhau'r cyfle i brofi poblogaethau pysgod iach yn ein hafonydd

Byddwn yn cyflawni'n gweledigaeth a'n hamcanion sylfaenol drwy ddefnyddio'r adnoddau sydd ar gael i ni er mwyn cyflawni ein dyletswyddau statudol, a chyflawni yn erbyn yr arweiniad statudol yr ydym yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, gan chwilio'n rhagweithiol am ragor o gyfleoedd i fynd i'r afael â'r heriau niferus sy'n wynebu cynaliadwyedd stoc.

Cyflwyniad

Mae eogiaid a brithyllod y môr yn rhywogaethau pwysig i genweirwyr a physgotwyr rhwyd, nid lleiaf oherwydd y cyfle am weithgareddau hamdden iach a'r gwerth economaidd-gymdeithasol sy'n codi o bysgodfeydd sy'n cael eu cynnal yn dda. Fodd bynnag, maent hefyd yn bwysig i'r gymdeithas gyfan y mae presenoldeb, neu absenoldeb y pysgod eiconig hyn yn cael ei ystyried yn eang fel arwydd cryf o iechyd ac ansawdd amgylcheddol.

Yn y gorffennol, roedd stociau'n fwy gwydn o ran heriau amgylcheddol ac roeddent yn gallu ymdopi â marwolaeth sylweddol mewn pysgodfeydd gwialen a rhwyd. Fodd bynnag, wrth i amrywiaeth y pwysau gynyddu a heriau newydd ymddangos, sy'n bygwth goroesiad pysgod yn yr amgylcheddau morol a dŵr croyw, mae statws stociau wedi dirywio'n gynyddol. Mae'r dirywiad yn barhaus yn gyffredinol, gan fygwth dyfodol ein poblogaethau pysgod fwy nag erioed o'r blaen.

Mae'r cynllun yn nodi bod Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a’n partneriaid a rhanddeiliaid yn deall difrifoldeb presennol statws stociau eogiaid a brithyllod y môr a'r ffactorau lluosog sy'n effeithio arnynt, ac y byddwn, gyda'n gilydd, yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r rhain a'u datrys.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ceisio a derbyn cyfraniadau gan yr holl bartneriaid a grwpiau rhanddeiliaid perthnasol sy'n rhannu'n huchelgais o ran stociau pysgod a'r pysgodfeydd maent yn eu cefnogi. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gydag Afonydd Cymru a'r ymddiriedolaethau afonydd, sefydliadau pysgodfeydd anllywodraethol, Grwpiau Pysgodfeydd Lleol, perchnogion pysgodfeydd a genweirwyr i gyflawni uchelgais y cynllun hwn. Byddwn yn cyfathrebu'n rheolaidd gyda hwy a'r holl grwpiau rhanddeiliaid ledled Cymru yn y dyfodol, gan integreiddio gwaith gan yr holl gyrff perthnasol, ac adrodd ar gyflawni'r cynllun hwn a datblygu cynllun cyflawni yn y tymor hwy ar gyfer y dyfodol.

Statws a phwysigrwydd eogiaid a brithyllod y môr yng Nghymru

Mae'r ddwy rywogaeth wedi'u diogelu gan y gyfraith. Rhywogaethau yw'r eogiaid sydd wedi'u dynodi dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd , sy'n cefnogi dosbarthiad chwe afon yng Nghymru fel Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, ac mae brithyllod y môr a brithyllod anesgynnol yn cael eu cydnabod yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Cenedlaethol.

Rydym yn asesu statws ein stociau'n flynyddol, ac roedd bron pob un o boblogaethau'r afon yn perfformio'n wael: roedd y 23 o stociau eogiaid yn ein 'prif afonydd eogiaid' naill ai 'Mewn Perygl' neu'n 'Debygol o fod Mewn Perygl' neu'n methu â chyflawni eu targedau rheoli nes o leiaf 2024, ac mae'r rhan fwyaf yn dirywio'n barhaus. Mae dros ddau draean o'n stociau brithyllod y môr wedi'u dosbarthu mewn ffordd debyg (Ffigur 2).

Mae genweirio mewn afonydd yng Nghymru'n bwysig yn economaidd, gan gefnogi dros 700 o swyddi cyfwerth ag amser llawn ar hyn o bryd a chynhyrchu incwm cartref blynyddol o oddeutu £20 miliwn, gyda chwmpas am fwy. Felly, mae cyfle i ddatblygu'r economi genweirio i lefelau economaidd uwch blaenorol, gan ddarparu mwy o fanteision iechyd a llesiant, a chefnogi ein nodau llesiant a rennir.

Mae'r rhan fwyaf o gamau gweithredu a gymerwyd yn flaenorol i ddiogelu ac adfer poblogaethau pysgod, a llawer o’r rhai sydd eu hangen yn y dyfodol, yn arwain at ganlyniadau adfer a gwella amgylcheddol ehangach - felly maent yn cynrychioli buddsoddiad pwysig yn y gwaith o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy.

Ni fydd adfer ein stociau i'r helaethrwydd a welwyd 30-40 o flynyddoedd yn ôl yn digwydd dros nos. Mae angen cymryd camau gweithredu i fynd i'r afael â'r pwysau hawdd eu nodi ar stociau heddiw, megis effeithiau negyddol defnydd amhriodol o dir, ond hefyd pwysau newydd megis effaith y newid yn yr hinsawdd ar gynefinoedd. Gall rhai pwysau fod y tu allan i'n rheolaeth uniongyrchol, ond hyd yn oed yn y sefyllfa honno, mae angen i ni geisio dylanwadu lle y gallwn.

Canfod y problemau

Mae'r 'argyfwng salmonidau' presennol wedi codi yn erbyn cefndir o arferion rheoli presennol ar draws sawl sector, ac felly mae'n bwysig ein bod yn penderfynu lle mae angen i'r arferion hynny newid a sut rydym yn mynd i wneud hynny.

Gweithdai partner

Rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2019, gwnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gynnal cyfarfodydd arbennig gyda Fforwm Pysgodfeydd Cymru a'r holl Grwpiau Pysgodfeydd Lleol. Ceir adroddiad ar wahân ar y pwysau lluosog a nodwyd(’Note on stakeholder engagement: identifying the pressures on stocks’, sydd ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru), fodd bynnag, roedd y prif bwysau sy’n niweidio cynefinoedd a phoblogaethau pysgod a nodwyd gan yr holl grwpiau rhanddeiliaid fel a ganlyn:

  • y difrod i sawl un o'n hafonydd oherwydd llygredd amaethyddol
  • statws gwael cynefinoedd yn ein hafonydd sy'n cyfyngu ar ddosbarthiad a goroesiad pysgod
  • ysglyfaethu anghynaliadwy ar boblogaethau salmonid ifanc gan adar ysglyfaethus. Nodwyd bod ysglyfaethu'n ffenomen naturiol, ond mae'n rhaid i hynny fod yn gynaliadwy a’i reoli o bosib pan fo stociau mewn cyflwr hynod wael, fel y mae sawl un ar hyn o bryd

Fodd bynnag, mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n cydnabod bod cyfyngiadau eraill i wydnwch stoc. Mae arwyddocâd a goblygiadau pennaf newid posib yn yr hinsawdd yn yr amgylchedd morol a dŵr croyw yn amlwg yn bryder sylweddol. Cafwyd gostyngiadau sylweddol yng ngoroesiad morol eogiaid dros y ddau ddegawd diwethaf.

Mae hefyd yn anochel y bydd synergedd rhwng rhai o'r pwysau, er enghraifft, effaith amaethyddiaeth ddwys a hinsawdd sy'n cynhesu.

Wrth gwrs, mae'n werth nodi er bod adfer cynefinoedd afonydd yn gadarnhaol i bysgod, mae hefyd yn cyfrannu at lesiant fflora a ffawna eraill sy'n dibynnu ar afonydd o ansawdd da. Felly, mae'n fuddsoddiad pwysig o ran cynaliadwyedd ein hadnoddau dyfrol naturiol, ac felly dylai fod yn fenter werthfawr i amrywiaeth o randdeiliaid eraill.

Pwrpas y cynllun

Mae'r cynllun hwn yn canolbwyntio ar liniaru pwysau negyddol ar stociau eogiaid a brithyllod y môr lle y gallwn wneud hynny’n uniongyrchol. Ond bydd hefyd yn dylanwadu ar gamau gweithredu ar bwysau sy'n codi y tu allan i'n hawdurdodaeth uniongyrchol sydd hefyd yn bygwth difrodi’n stociau. Bydd angen i ni addasu ein cynllun a'n strategaethau wrth i bwysau newid ac wrth i faterion newydd godi.

Mae'r cynllun hwn yn crynhoi'r camau gweithredu parhaus a newydd sydd eu hangen i fynd i'r afael â'r pwysau sy'n effeithio ar ein poblogaethau pysgod. Mae cytundeb cyffredinol ymhlith y rhan fwyaf o bartneriaid a rhanddeiliaid ynghylch y math o bwysau, ac yn y rhan fwyaf o achosion, natur y pwysau sydd - weithiau ar ei ben ei hun neu ar y cyd - yn cael effaith negyddol ar ein stociau. Mae llesiant ein stociau'n dibynnu ar amodau ffafriol yn y môr ac yn ein hafonydd. Ynghyd â'n rhanddeiliaid, rydym wedi adolygu a nodi'r pwysau sy'n difrodi’n stociau. Mae'n glir bod llawer i'w wneud o hyd.

Gyda'n gilydd, mae angen i ni drawsnewid ansawdd afonydd fel ei fod yn cael ei optimeiddio ar gyfer goroesiad a chynhyrchiad pysgod. Mae'n rhaid i'r pysgod sy'n cael eu hachub gan y rheoliadau pysgod newydd gael y cyfle gorau o fridio llwyddiannus ac mae'n rhaid i'w hepilion oroesi i sicrhau’r lefel uchaf posibl o leisiaid. Mae'n bwysig nodi y bydd optimeiddio llwyddiannus yn y ffordd hon yn cyflawni manteision lluosog megis gwydnwch yr ecosystem, statws gwael o ran cyflwr nodweddion Natura 2000 a chanlyniadau targed y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.

Camau gweithredu cyfredol gan drydydd partïon

Yn ogystal â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill gan Cyfoeth Naturiol Cymru , mae llawer o sefydliadau partner eraill hefyd yn ymgymryd â gwaith a fydd yn cyflawni manteision i afonydd a'u fflora a ffawna. Nodwyd gwaith amgylcheddol y cyfleustodau dŵr hefyd. Mae'r camau gweithredu a'r mentrau perthnasol hyn sydd eisoes ar y gweill wedi'u crynhoi mewn nodyn ar wahân (‘Note on work undertaken by other parties’', papur gan Cyfoeth Naturiol Cymru).

Camau corfforaethol - Cyfoeth Naturiol Cymru

Ar hyn o bryd mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn ymwneud â mentrau strategol pwysig a fydd yn cefnogi'n dyheadau a rennir ar gyfer poblogaethau pysgod iach a chynaliadwy:

Cynllun Gweithredu NASCO

Cyfoeth Naturiol Cymru, ynghyd ag Asiantaeth yr Amgylchedd a CEFAS (Canolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu) yw cyd-awduron Cynllun Gweithredu 5 mlynedd presennol NASCO (Sefydliad Cadwraeth Eogiaid Gogledd yr Iwerydd).

Dyma ymrwymiad pwysig i gyflawni amrywiaeth o ganlyniadau i eogiaid ac mae wedi'i gymeradwyo gan weinidogion y Llywodraeth yng Nghymru a Lloegr.

Cynlluniau Rheoli Basn Afon y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr

Bydd cynlluniau trydydd cylch y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (2021-2027) yn cynnwys uchelgais uwch o ran graddfa a dull gweithredu, gan flaenoriaethu dalgylchoedd cyfan er mwyn gweithredu arnynt.

Datganiadau Ardal a Dalgylchoedd â Chyfleoedd

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, yn dilyn gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, yn mabwysiadu dull yn seiliedig ar leoedd i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn cyfres o ddalgylchoedd â chyfleoedd ledled Cymru. Yn y dalgylchoedd hyn, byddwn yn canolbwyntio ar gefnogi dull partneriaeth o gyflawni manteision lluosog ar gyfer cyrff dŵr a llesiant. Bydd ein rhestr argymelledig yn cynrychioli'r cymysgedd cryfaf o gyfleoedd ar gyfer rheoli dalgylchoedd integredig ym mhob un o feysydd gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'r Datganiadau Ardal yn cyfeirio at gyfleoedd ar gyfer datrysiadau dalgylch.

Ym mis Hydref 2020 byddwn yn cyhoeddi'r rhestr o ddalgylchoedd â chyfleoedd yn yr ymgynghoriad drafft Cynlluniau Rheoli Basn Afon 3. Caiff cyrff dŵr morol ac aberol eu cynnwys - symudiad o'r cyrff dŵr â ffocws ar ddŵr croyw a dargedwyd yng Nghynlluniau Rheoli Basn Afon 2. Bydd Datganiadau Ardal yn ddogfennau byw, a bydd ailadroddiadau yn y dyfodol y tu hwnt i fis Mawrth 2020 yn mireinio'r blaenoriaethau ar gyfer pob dalgylch.

Mae dalgylchoedd â chyfleoedd yn gyfrwng i integreiddio Cynlluniau Rheoli Basn Afon a Chynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd drwy eu cynnwys yn y ddau gynllun. Bydd cyfleoedd ar gyfer datrysiadau sy'n seiliedig ar natur a rheoli perygl llifogydd mewn modd naturiol yn bodoli mewn rhai dalgylchoedd â chyfleoedd, ac er na fydd prosiectau penodol yn cael eu nodi yn y Cynlluniau Rheoli Basn Afon a'r Cynlluniau Rheoli Perygl Llifogydd, gall mentrau o'r fath gael eu datblygu gan raglenni gwaith sy'n seiliedig ar leoedd.

Camau gweithredu cyfredol gan drydydd partïon

Yn ogystal â'r gwaith sydd eisoes ar y gweill gan Cyfoeth Naturiol Cymru , mae llawer o sefydliadau partner eraill hefyd yn ymgymryd â gwaith a fydd yn cyflawni manteision i afonydd a'u fflora a ffawna. Nodwyd gwaith amgylcheddol y cyfleustodau dŵr hefyd. Mae'r camau gweithredu a'r mentrau perthnasol hyn sydd eisoes ar y gweill wedi'u crynhoi mewn nodyn ar wahân (‘Note on work undertaken by other parties’', papur gan Cyfoeth Naturiol Cymru).

Adnoddau

Mae adnoddau'n hanfodol os ydym am wneud gwahaniaeth. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i ymrwymo adnoddau staff a phrosiect i waith pysgodfeydd yn 2020/21, fodd bynnag, mae'n rhaid mynd i'r afael ag amrywiaeth llawn yr heriau sy'n cael eu cydnabod yn y cynllun hwn hefyd.

Mae rhagor o adnoddau wedi cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru i weithredu amrywiaeth o waith yn 2020/21 a fydd yn adfer cynefinoedd dyfrol a dod â manteision i boblogaethau pysgod. Mae’r rhain yn cynnwys buddsoddi yn y canlynol:

  • Coedwigoedd Cenedlaethol
  • Cynnal a Chadw a Gwella Rhwydwaith Natura 2000
  • Y Rhaglen Cloddfeydd Metel
  • Adfer Mawndiroedd Cenedlaethol
  • Gwelliannau i Ansawdd Dŵr - gan gynnwys rhaglenni adfer cynefinoedd pysgodfeydd
  • Adfer Afonydd

Cyfanswm gwerth y buddsoddiad hwn yw oddeutu £15 miliwn, ac mae'r buddsoddiad penodol yn y rhaglenni cynefinoedd pysgodfeydd oddeutu £2 filiwn.

Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'r holl randdeiliaid a phartneriaid perthnasol i nodi ac adeiladu ar ddiddordebau a rennir. Mae llawer o waith eisoes yn mynd rhagddo, a rhagwelir y bydd y cynllun hwn yn codi'r proffil ymhellach i annog mwy o weithredu amserol.

Mae'n bwysig nodi bod amrywiaeth o waith a wneir gan feysydd busnes eraill Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn cyflawni canlyniadau sydd hefyd yn fanteisiol i'n poblogaethau pysgod. Er enghraifft, bydd adfer etifeddiaeth rhai cloddfeydd metel llygredig yn gwella ansawdd dŵr mewn degau o gilomedrau o afonydd yn yr ucheldir.

Mynd i'r afael â'r bylchau

Mae hwn yn gynllun strategol i Gymru. Mae hefyd yn bwysig bod cynlluniau dynodedig lleol yn cael eu datblygu gyda rhanddeiliaid lleol, gan ddefnyddio'r wybodaeth yn y papur hwn. Mae'r Cynlluniau Adfer Cynefinoedd Pysgod hyn yn cael eu llunio ar hyn o bryd a byddant yn nodi'r 'bylchau' rhwng y gwaith sydd wedi cael ei gyflawni gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl bartneriaid a'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, a'r gwaith sydd ei angen yn ystod y blynyddoedd nesaf i fynd i'r afael â'r pwysau ac adfer cynaliadwyedd ein stociau.

Caiff y set lawn o gynlluniau dalgylch i Gymru eu cwblhau yn ystod 2020/21.

Nid oes modd gwella pwysau presennol rydym yn gwybod amdanynt a'r rhai newydd yn gyflym. Felly, yn ogystal â'r cynllun hwn, bydd angen cynllun ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid i'r 'Cynllun Cyflawni ar gyfer y Dyfodol' 3 blynedd hwn fynd y tu hwnt i 2020/21, ac mae llunio hwn yn ymrwymiad a wneir yma.

Asesu canlyniadau

Mae'n rhaid asesu canlyniad buddsoddiad yn llawer o'r gwaith arfaethedig er mwyn dysgu'r hyn sy'n gweithio a'r hyn nad yw'n gweithio a dangos datblygiad. Bydd gwaith monitro ac asesu pysgod sydd eisoes yn bodoli'n ddigonol yn gyffredinol; fodd bynnag, bydd angen gwneud rhagor o waith ac mae hyn wedi cael ei gynnwys yn y cynllun hwn.

Partneriaethau a chynnwys a chyfathrebu gyda rhanddeiliaid yn y dyfodol

Ni all Cyfoeth Naturiol Cymru gyflawni uchelgais y cynllun hwn ar ei ben ei hun, ac felly mae angen i ni adeiladu ar bartneriaethau sydd eisoes yn bodoli gydag Afonydd Cymru a'i deulu o ymddiriedolaethau afonydd, Fforwm Pysgodfeydd Cymru, cyrff pysgodfeydd eraill, perchnogion pysgodfeydd a chyfleustodau dŵr ymhlith eraill.

Blaenoriaeth uchel yn ystod 2020, wrth weithredu camau gweithredu Blwyddyn 1, fydd datblygiad 'Cynllun Cyflawni ar gyfer y Dyfodol' 3 blynedd ar gyfer 2021/22 - 2023/24 i barhau i weithio i gyflawno datrysiadau i bwysau amgylcheddol. Bydd hyn yn ymwneud â materion megis adfer cynefinoedd afonydd a mynd i'r afael ag ysglyfaethu gan adar sy'n bwyta pysgod, ond ni fydd yn gyfyngedig iddynt.

Bydd cyflawni'r gwaith a ddisgrifiwyd yn y Tablau Gweithredu a datblygu 'Cynllun Cyflawni ar gyfer y Dyfodol' tymor hwy yn destun gwaith ymgysylltu parhaus gyda'n partneriaid.

Caiff y cynllun ei adolygu ym mhob cyfarfod Grwpiau Pysgodfeydd Lleol gan Cyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid, yn benodol Fforwm Pysgodfeydd Cymru. Bydd hon yn broses hollol dryloyw a fydd yn cael ei rhannu gyda grwpiau rhanddeiliaid a phartneriaid.

Mae angen i ni hefyd nodi partneriaid newydd a fydd hefyd â buddiant yn ein hamgylcheddau afonydd a'r fflora a'r ffawna maent yn eu cynnal a gweithio gyda hwy. Byddwn yn gweithio i feithrin y cydberthnasau hyn.

Y tablau gweithredu

Mae'n bwysig cydnabod mai cylch bywyd cydrannau stoc y rhan fwyaf o eogiaid a llawer o frithyllod y môr yw pedwar neu bum mlynedd. Felly, mae'n rhaid i'r cynllun gael ei ystyried fel ymrwymiad tymor canolig i dymor hir a bydd yn agored i newid wrth i ganlyniadau godi ac wrth i wersi gael eu dysgu.

Archwilio mwy

Diweddarwyd ddiwethaf