Cynllun Adnoddau Coedwig De Dyffryn Gwy - Cymeradwywyd 14 Mawrth 2023

Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig De Dyffryn Gwy yn cwmpasu 27 o goetiroedd yn Sir Fynwy a Chasnewydd, sy’n tua 2077 hectar gyda’i gilydd. Mae’r rhan fwyaf o’r coetiroedd yn sefyll o fewn glaswelltir amaethyddol wedi’i wella, coetir llydanddail brodorol, a chanolfannau trefol. Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) neu Goetiroedd Lled Naturiol Hynafol (ASNW) yw’r rhan fwyaf o’r coetiroedd, a Dyffryn Gwy yw un o’r ardaloedd pwysicaf yng Nghymru o ran Coetir Hynafol. Mae’r coetiroedd hefyd yn cael eu defnyddio’n fynych gan y gymuned leol ar gyfer gweithgareddau hamdden anffurfiol.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Mae adfer y coetir hynafol yn ardal y Cynllun Adnoddau Coedwig yn un o’r prif amcanion yn unol â Datganiad Ardal y De-ddwyrain, Strategaeth Coetir Llywodraeth Cymru, a Chynllun Gweithredu AHNE Dyffryn Gwy, ac mae tynnu’r coed conwydd presennol dros amser drwy gyfrwng Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith yn caniatáu adferiad naturiol coed llydanddail a chynnydd yn yr amrywiaeth o rywogaethau.
  • Cynnal cynhyrchiad pren lle bo’n briodol, gan gynnwys coed llydanddail cynhyrchiol. Bydd hyn yn cynnig cyfleoedd i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau ac amrywiaeth strwythurol y coetiroedd, a fydd yn gwneud y coedwigoedd yn fwy cynaliadwy a chydnerth, a hefyd yn sicrhau buddion economaidd.
  • Cynyddu’r amrywiaeth yng nghyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig er mwyn eu gwneud yn fwy cydnerth yn erbyn plâu ac afiechydon ac effeithiau newid hinsawdd, ar yr un pryd â meithrin coedwig gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn cynnwys mynychder ffynidwydden Douglas ym Mharc Cas-gwent a Choed Fedw. Tynnu’r clystyrau o goed llarwydd sy’n weddill, rheoli coed ynn, a rheoli rhywogaethau anfrodorol goresgynnol mewn ffordd briodol.
  • Buddsoddi yn seilwaith coetiroedd er mwyn sicrhau gwell mynediad a chaniatáu dulliau rheoli mwy amrywiol o fewn y coetiroedd, cynnal gwaith teneuo rheolaidd lle bo modd, tynnu’r clystyrau sy’n weddill o goed llarwydd, ac amcanion cadwraeth.
  • Gweithio gyda phartneriaid a thimau eraill CNC i adnabod a gwireddu cyfleoedd i gysylltu a gwella cynefinoedd o flaenoriaeth, ardaloedd gwarchodedig o fewn coetiroedd y Cynllun ac wrth eu hymyl a rhywogaethau gwarchodedig ac o flaenoriaeth, er mwyn eu gwneud yn fwy cydnerth a chysylltiedig ac i atal effeithiau negyddol yn sgil gweithgareddau rheoli. Er enghraifft, cysylltu ac adfer coetiroedd hynafol a brodorol, cysylltu cynefinoedd agored a rhodfeydd, rhoi ystyriaeth i’r gwahanol rywogaethau o ystlumod sydd i’w cael yn yr ardal yn ystod unrhyw weithgareddau rheoli, a chreu amrywiaeth o gynefinoedd ymyl ble maent yn gyfagos at gynefinoedd nad ydynt yn goetiroedd, ar draws ardal y Cynllun.
  • Gweithio gyda phartneriaid i annog a chynyddu defnydd cyfrifol a gweithgareddau hamdden bach eu heffaith ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau buddion llesiant i gymunedau lleol, grwpiau defnyddwyr ac ymwelwyr, ac er mwyn cwtogi ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cerbydau oddi ar y ffordd, llwybrau beicio mynydd anawdurdodedig, a thipio anghyfreithlon.
  • Ni ddylai gwaith coedwigaeth gyfrannu at y lefel bresennol o berygl llifogydd, a hynny o fewn y coetiroedd ac yn unrhyw le oddi ar y safle, a lle bo modd dylid rhoi mesurau mewn lle i leihau unrhyw berygl posib o lifogydd; rhaid cyflawni’r ddau beth drwy gyfrwng arferion coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a’r canllawiau coedwigaeth perthnasol; a thrwy ymgynghori ac ymgysylltu â’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol perthnasol wrth gynllunio gwaith cwympo coed. Dylai unrhyw ystyriaeth o fesurau i leihau cyfaint y llif sy’n gadael blociau coedwig o ganlyniad i weithrediadau cwympo coed gynnwys dulliau Rheoli Llifogydd yn Naturiol.
  • Ni ddylai gwaith Rheoli Coedwigaeth arwain at unrhyw ostyngiad yn ansawdd y dŵr, a hynny o fewn nodweddion ar y safle a chyrsiau dŵr sy’n draenio oddi ar y safle, drwy gyfrwng arferion coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau coedwigaeth perthnasol.
  • Gwaith gyda’n partneriaid a chymunedau i adnabod sut a phryd gall yr Ystad Goetir gyflawni datrysiadau seiliedig ar natur dros iechyd a llesiant a sicrhau cyfleoedd i gysylltu pobl â byd natur, a ble gallwn gynnwys cymunedau yn y gwaith o reoli’r Ystad.
  • Bod yn gymdogion da – Ymgynghori ac ymgysylltu â chymdogion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill mewn perthynas â sut caiff yr Ystad Goetir ei rheoli ynghyd â gweithrediadau sydd ar droed, er mwyn gwella’r perthnasoedd a’r wybodaeth am sut mae’r ystad yn cael ei rheoli a pham, lleihau gwrthdaro, ac annog perthnasoedd gwaith mwy clos.
  • Gweithio gyda chymdogion a rhanddeiliaid eraill i reoli a monitro ceirw, y wiwer lwyd a’r baedd gwyllt ar yr Ystad Goetir ac ardaloedd cyfagos er mwyn lleihau unrhyw effeithiau negyddol.

Mapiau

Map lleoliad
Prif amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

 

Diweddarwyd ddiwethaf