Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coed Talbot yn cynnwys dau ddarn mawr o goetir sy’n gysylltiedig ag ardal adeiledig Llansawel/Port Talbot/Baglan, sy’n gorwedd yn llwyr o fewn ffiniau awdurdod unedol Castell-nedd Port Talbot.

Ceir elfennau cyffredin rhwng y ddwy goedwig, Coed-y-Darren a Mynydd Dinas – 182 hectar a 133 hectar yn eu trefn – gan fod y ddwy’n agos at drefi mawr, bod llawer iawn o’r cyhoedd yn cael mynediad anffurfiol atynt, a bod yno amrywiaeth o goed llydanddail a chonwydd y gellir cynhyrchu pren ohonynt.

Mae’r dirwedd o amgylch yn gymysgedd o ffermdir caeëdig, coetiroedd cynhyrchiol a glaswelltir lled-naturiol.

Crynodeb o’r amcanion 

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau, yn ogystal â’r buddion y maent yn eu darparu:

  • Hybu amrywiaeth rhywogaethau yn y goedwig, gan ystyried cyflwr y safle yn awr ac yn y dyfodol, gyda’r nod o hybu cadernid rhag plâu, clefydau a newid yn yr hinsawdd a chreu coedwig gydnerth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Rhoi blaenoriaeth i adfer Coetiroedd Hynafol yn Llansawel drwy gael gwared yn raddol â chonwydd o’r ardaloedd hyn, gan ddefnyddio Systemau Coedwrol Effaith Isel lle bo hynny’n ymarferol.
  • Gwella amrywiaeth strwythurol y coetir drwy ddefnyddio Systemau Coedwrol Effaith Isel lle bo hynny’n ymarferol a rhoi ystyriaeth i raddfa gwaith llwyrgwympo, ei faint a’i amseriad. Cynhelir strwythur amrywiol yn y goedwig yn barhaol, gan gynnwys ardaloedd o goed cynhyrchiol wedi’u teneuo’n dda gydag amrywiaeth eang o ddosbarthiadau oed, coed glannau’r afon a choed brodorol, cronfeydd naturiol, nodweddion wedi’u diogelu yn y tymor hir a chlytwaith o gynefinoedd agored.
  • Dal i gynnal cyflenwad cynaliadwy wrth gynhyrchu pren, drwy gynllunio’r gwaith cwympo a dethol rhywogaethau i’w hail-blannu, a thrwy ddefnyddio systemau coedwrol sy’n addas i’r safle.
  • Gweithio â phobl leol a’n partneriaid, gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, wrth adnabod a chyflawni camau gweithredu sy’n cynnal a gwella’r buddion y mae’r coed yn eu darparu o ran hamdden, iechyd a chymdeithas a chwtogi ar weithgareddau gwrthgymdeithasol.

Mapiau

 

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Diweddarwyd ddiwethaf