Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Maesyfed (FRP) yn ymestyn dros 1603 Ha ac yn cynnwys prif adran Maesyfed,  Glog Hill, The Whimble, Smatcher a Choed Cwningar.  Lleolir adrannau Maesyfed i’r de o’r A488 Y Groes i ffordd Drefyclo ac ychydig i’r gogledd o’r A44.  Mae’r coedwigoedd yn ffurfio cefnlen i gymunedau Maesyfed, Kinnerton, Bleddfa a Monaughty.

Mae’r cynefin amgylchynol yn gymysgedd o dir fferm heb ei wella a gweundir yr ucheldir. Ar lwyfandir â maes tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn.

Lleolir Cynllun Adnoddau Coedwig Maesyfed o fewn ffin Cyngor Sir Powys.

Crynodeb o’r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a’r manteision maent yn eu darparu:

  • Cael gwared â’r coed llarwydd gam wrth gam cyn y bydd yna ragor o haint Phytophthora ramorum , yn unol â Strategaeth Lleihau Coed Llarwydd. Ymgysylltu â chymunedau lleol yn ystod y broses hon.

  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy reoli System Goedamaeth Fach ei Heffaith (LISS) mewn coed sy’n sefyll dynodedig. 

  • Cynyddu’r ardaloedd nodwyd i’w teneuo o fewn cynllun teneuo 5 mlynedd, er mwyn galluogi rheolwyr i reoli ac adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Hynafol. 

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o goed i'w cynhyrchu drwy gynllunio'r gwaith o dorri coed ac ailstocio gyda dewis o rywogaethau.

  • Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau coedwig er mwyn cynyddu'r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau wrth dyfu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Cadw llain glustogi heb ei phlannu o 30m lle mae'r goedwig yn cwrdd â SoDdGA coedwig Maesyfed (adeg ailstocio). 

  • Parhau i weithio gyda ‘Forest Research’ i hwyluso safleoedd arbrofol.

  • Parhau i gynnal ac ymestyn y seilwaith ar gyfer rheoli ceirw yn y goedwig, gan alluogi'r boblogaeth i reoli a darparu cysylltedd â chynefinoedd.

  • Defnyddio cyfleoedd i leoli coetir llydanddail er mwyn cysylltu cynefinoedd gwrychoedd a gwella gwydnwch.

  • Cynnal y llwybrau a hyrwyddir a chadw'r llinellau gweld a'r golygfannau’n glir. Ystyried rhodfeydd/ymylon ar hyd y llwybr, gyda'r potensial i gadw'r llwybr mor agored â phosibl.

  • Monitro lefelau tresmasu oddi ar y ffordd anghyfreithlon.

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth yn ymwneud â Chynllunio Adnoddau Coedwigoedd, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwigoedd ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Map lleoliad PDF [5.2 MB]
Map amcanion hirdymor PDF [24.9 MB]
Diweddarwyd ddiwethaf