Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Sir Benfro yn cwmpasu 518 hectar o goetiroedd mewn lleoliadau ar draws Sir Benfro. Y rhandir mwyaf gogleddol yw Farthings Hook (Felindre), gyfagos i gronfa ddŵr Llys y Frân.  Ym mhen pellaf afon Cleddau Ddu mae pedwar rhandir Canaston, ac i’r gogledd orllewin mae Cas-wis.  Mae coed Benton i’r gorllewin o brif afon Cleddau, gan edrych dros yr afon ar Lawrenni.

Mae mwyafrif y coetiroedd wedi’u dosbarthu’n Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol ac yn gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.  Mae’r coetiroedd yn adnodd sylweddol a ran hamdden ac ecoleg yn Sir Benfro ac maent â chyswllt agos â’r dirwedd ehangach.

Amcanion o ran Coedwigoedd Sir Benfro

  • Sicrhau ei bod yn haws mynd i Goed Toch fel y gellir adfer Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol a thynnu coed llarwydd sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum.

  • Parhau i wella statws coetiroedd y Rhestr Coetiroedd Hynafol (AWI) a rheoli rhywogaethau goresgynnol fel y goeden lawrgeirios a’r rhododendron wyllt, sy’n bygwth y coetir brodorol a geir yno.

  • Sicrhau bod gweithrediadau coedwig yn cael eu cynnal ar adegau sy’n sensitif i’r rhywogaethau a geir yno, ynghyd ag amodau’r pridd a’r tywydd.

  • Sicrhau bod poblogaethau ystlumod yn cael eu diogelu drwy sicrhau bod llwybrau hedfan yn cael eu cadw. Rhaid i goed ymyl ffordd yng Nghoed Toch (ac eithrio llarwydd) gael eu cadw.

  • Parhau i gynnal ymyriadau teneuo er mwyn hwyluso'r gwaith o adfer Planhigfa ar Safle Coetir Hynafol a chynnal cyflenwad o bren i'r farchnad.

  • Rheoli dirywiad y coed ynn sydd wedi'u heintio â Chalara fraxinea:
    • Tynnu coed peryglus a manteisio ar y cyfle i gynaeafu pren cyn iddo ddirywio
    • Dylid dewis a chadw sbesimenau a allai wrthsefyll yr haint
    • Dylai pren marw sydd wrth gefn gael ei gadw mewn ardaloedd anhygyrch

  • Parhau i gyfathrebu â rhanddeiliaid i roi gwybodaeth a sicrwydd ynghylch cael gwared ar rywogaethau llarwydd.

  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau bywyd gwyllt lleol i fonitro'r rhywogaethau a geir yn y coetiroedd hyn sy'n gyfoethog o ran ecoleg.

  • Parhau i hwyluso digwyddiadau yn y goedwig.

  • Cynnal ffyrdd coedwig a llwybrau a hyrwyddir, gan gynnwys rheoli ymylon er mwyn cynnal mynediad ar gyfer gwaith rheoli coedwigoedd, y cyhoedd, a bioamrywiaeth.

Mapiau

Amcanion hirdymor

Systemau rheoli coedwigoedd

Dangosol o’r mathau o goedwigoedd

Amcanion rheoli 10 mlynedd

Gweithgardeddau cynaeafu 10 mlynedd

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf