Lleoliad ac ardal 

  • Coedwig arfordirol yw Coedwig Pen-bre, ac mae’n gorchuddio 981 hectar. Coedwig o binwydd Corsica ydyw yn bennaf sydd wedi’i lleoli ger pentref Pen-bre, i’r de o Gydweli ac i’r gorllewin o Borth Tywyn, Sir Gaerfyrddin. Llanelli yw’r dref fawr agosaf.

  • Ceir cynefinoedd arfordirol hyd ffin orllewinol y safle, ac mae llwybrau’n arwain o’r goedwig i’r traeth. I’r gogledd, ceir twyni sefydlog ynghyd â morfa heli aber Afon Gwendraeth, sy’n ymestyn i’r gogledd-ddwyrain ac yn eiddo i’r Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae meysydd tanio Pen-bre i’r gogledd o’r goedwig, ac i’r de ceir tir amaethyddol sydd wedi’i adfer o’r morfa. Ymhellach i’r de y mae rhagor o dwyni tywod a choedwig arall sy’n eiddo i Gyngor Sir Gaerfyrddin.

  • Mae’r safle o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Crynodeb o’r amcanion

Mae'r amcanion rheoli wedi eu cytuno er mwyn cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau, a'r buddion y maent yn eu darparu:

  • Amnewid y pinwydd Corsica dros gyfnod o amser am rywogaethau sy’n cynhyrchu pren yn ogystal â rhywogaethau llydanddail brodorol ac anfrodorol, gan wella’r amrywiaeth o fewn y goedwig o ganlyniad. Bydd gwella’r amrywiaeth yn help i reoli afiechydon a phlâu yn ogystal â sefydlu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

  • Dylid cynyddu’r amrywiaeth trwy weithredu cynllun o deneuo, stripio, neu ddewis grŵp ynghyd â phlannu o dan y canopi neu blannu mwy o gnydau agored. Rhaid gwneud penderfyniad ynglŷn ag amserlen y trawsnewidiad, un a fydd yn arwain at newid sylweddol cyn i lawer o’r cnwd sydd wedi’i heintio farw. Ceir budd o gadw rhan uchaf y canopi mewn safleoedd sy’n sensitif i newidiadau chwim i’r cynefin neu i aflonyddiadau pridd, gan ei fod yn cynnig lloches i goed ifanc wrth iddynt sefydlu.

  • Parhau i gynnal ffynhonnell gynaliadwy o bren trwy ddylunio cynlluniau torri a thrwy ddewis ystod o rywogaethau gwahanol wrth ailblannu.

  • Gwella amrywiaeth strwythurol gyda rheolaeth LISS pan yn briodol, gan ystyried maint, graddfa, ac amserlen unrhyw doriadau er mwyn osgoi torri’r coupes cyfochrog. Dylid cadw’r cnydau pinwydd hŷn pan yn bosibl er mwyn cynnal strwythur a photensial cynhyrchu’r coetir.

  • Cynnal a gwella’r defnydd hamdden o’r safle.

  • Parhau i drin ac echdynnu rhafnwydden y môr yn yr Ardal Gadwraeth Arbennig.

  • Parhau’r berthynas gyda Butterfly Conservation ac eraill er mwn rheoli’r rhwydwaith o rodfeydd yn ogystal â nodweddion eraill, megis y “llyn Sciomyzid”, er budd y trychfilod sy’n bresennol.

  • Mae yma botensial i greu rhicyn ar yr ochr sy’n wynebu’r môr, a fyddai o bosibl yn arwain at “chwythbant”. Byddai’n hanfodol i lwyddant yr ymdrech i ysgogi symudiad o fewn y twyni drachefn.

  • Defnyddio’r rhwydwaith presennol o ffyrdd er lles y fioamrywiaeth, trwy greu cysylltiadau rhwng cynefinoedd agored a chynnal mosaig ardaloedd agored o fewn y goedwig.

  • Manteisio ar y cyfleoedd i ganfod coed llydanddail er mwyn sefydlu rhwystr parhaol rhag sŵn y maes chwaraeon modur gerllaw.

  • Bydd angen adnabod nodweddion diwylliant a threftadaeth er mwyn osgoi unrhyw niwed iddynt.

  • Ymchwilio’r defnydd o rywogaethau sy’n gallu ymdopi â lefelau halen uchel, megis derw, bedw, draenen wen, masarn, ac ysgaw, er mwyn cryfhau’r coetiroedd ymylol.

  • Cynnal mosaig o gynefinoedd gan sicrhau bod ardaloedd agored i’w cael o fewn y coetir trwy’r adeg.

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf