Lleoliad a safle

Mae cynllun adnoddau coedwig Arfordir Gogledd Ceredigion, sydd ar hyd yr A487 i'r gogledd o Aberystwyth, yn cwmpasu ardal o 387 hectar. Mae'n cynnwys nifer o flociau coedwig llai ac mae'r mwyafrif ohonynt yn safleoedd coetir hynafol.

Ceir mynediad i'r holl flociau coedwig naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r A487. Mae Allt Ddel ac Allt Derw ger pentref Penrhyn-coch, Allt-y-Crib ger Tal-y-bont, a Lodge Park Woods a Choed Tyn-y-garth ger pentrefi Tre'r-ddôl a Ffwrnais.

Mae'r holl flociau coedwig o fewn dalgylchoedd afon llai – afon Einion, afon Cletwr, afon Leri ac afon Clarach – y mae'r pedair yn dod i derfyn ym Mae Ceredigion.

Mae holl ardal y cynllun adnoddau coedwig yn Awdurdod Cynllunio Lleol Ceredigion.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Adfer pob safle coetir hynafol trwy ddileu coed conwydd yn raddol dros gyfnod, gan ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith a gwaith rheoli teneuo coed lle bo'n bosibl. Mae hyn yn cynnwys pob bloc coedwig yn y cynllun ac eithrio rhannau uwch Coed Tyn-y-garth. Llwyrdorri unrhyw glystyrau o rywogaethau goresgynnol o gonwydd sy'n weddill.

  • Cynnal cyflenwad cynaliadwy o bren, sy'n cynnwys coed llydanddail a chonwydd.

  • Buddsoddi mewn seilwaith coedwigoedd i ddarparu gwell mynediad er mwyn caniatáu ar gyfer amodau rheoli mwy amrywiol o fewn Safleoedd Coetiroedd Hynafol.

  • Cynyddu cyfansoddiad y rhywogaethau brodorol a gwydnwch y goedwig trwy ganolbwyntio ar ffyrdd mwy amrywiol o ailstocio, gan gynnwys aildyfu'n naturiol a defnyddio amrywiaethau lleol o stociau o goed. Bydd rhai rhywogaethau a sbesimenau o goed conwydd nad ydynt yn oresgynnol yn parhau er mwyn helpu i amrywio cyfansoddiad rhywogaethau'r goedwig.

  • Cynllunio i waredu unrhyw ardaloedd o goed llarwydd sylweddol sy'n weddill o dan y Strategaeth Lleihau Coed Llarwydd.

  • Creu strwythur coedwig mwy amrywiol a pharhaol drwy amrywio ac ehangu cynefinoedd coetir brodorol ac afonol a diogelu coed hynafol o fewn y goedwig gan gynnwys pob Safle Coetir Hynafol, drwy gynyddu nifer y gwarchodfeydd naturiol, cadw safleoedd yn yr hirdymor, a datblygu mosaig o gynefinoedd agored ar raddfa fach sy'n gysylltiedig â ffyrdd a rhodfeydd coedwig.

  • Cynyddu nifer y coed marw mewn Safleoedd Coetir Hynafol.

  • Gwella cysylltedd cynefinoedd coetir, yn enwedig ar hyd y rhwydweithiau coetir lleol yn Nyffryn Dyfi.

  • Cynnal ac ehangu cynefinoedd coetir ac afonol ar gyfer rhywogaethau gwarchodedig fel pathewod, dyfrgwn a belaod coed.

  • Gwella amrywiaeth strwythurol y ddau safle coetir dynodedig, sef Coed Cwm Cletwr a Choed Cwm Einion, wrth gynnal amodau amgylcheddol ar gyfer y cymunedau o fflora prin, trwy reoli'r goedwig yn ofalus.

  • Rheoli unrhyw rywogaethau goresgynnol, megis rhododendron wyllt, a gwaith adfer coed conwydd mewn ardaloedd o goetir hynafol ac ar safleoedd dynodedig, megis Coed Cwm Cletwr a Choed Cwm Einion.

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wrth gynnal gweithgareddau gweithredol trwy ddilyn yr arfer gorau fel y'i nodir yn ‘Safon Coedwigaeth y DU – Canllawiau Coedwigaeth a Dŵr’ i warchod ansawdd y dŵr a'r ecosystemau dŵr croyw yn y goedwig.

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yn ACA Aber Dyfi drwy gyfyngu ar waith coedwigaeth i'r gorllewin o'r A487 ym Mharc Lodge. Dim gwaith coedwigaeth i ddigwydd rhwng 20 Hydref ac 14 Ebrill i atal tarfu ar wyddau talcenwyn yr Ynys Las.

  • Defnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith pan fydd yn bosibl, er mwyn helpu i leihau’r effaith ar ansawdd y dŵr a lleihau'r effeithiau gweledol ar y dirwedd.

  • Cadw’r Heneb Gofrestredig, Bryngaer Caer Allt-Goch, a safleoedd mwyngloddio yng Nghoed Allt-y-Crib yn glir o lystyfiant coed a phrysgwydd ac ymgynghori â CADW ynglŷn â’u rheoli.

  • Gwarchod pob heneb a nodwedd hanesyddol yn Ardal Tirwedd Hanesyddol Ucheldir Ceredigion wrth gynnal gweithrediadau rheoli coedwig.

  • Gwella gwerth cynefinoedd tirwedd y coedwigoedd a'u gwerth gweledol a synhwyraidd trwy gynyddu’r gyfran o goed llydanddail yn y coedwigoedd.

  • Ystyried effaith weledol gweithrediadau rheoli a chynigion hirdymor yn rhannau uchaf Coed Tyn-y-Garth ar olygfeydd o Barc Cenedlaethol Eryri a Dyffryn Dyfi.

  • Ystyried cyfleoedd i wella'r ffordd y rheolir tirwedd a choetiroedd o amgylch Parc Ceirw Parc Lodge, sydd wedi’i restru’n safle gradd II, ac ymgynghori â CADW ynglŷn â’i reoli.

  • Cynnal a gwella'r cyfleoedd hamdden i gerddwyr, beicwyr a marchogwyr ar hyd hawliau tramwy cyhoeddus a ffyrdd poblogaidd yn y goedwig.

  • Cynnal hawliau tramwy cyhoeddus ar unrhyw lwybrau y mae gweithrediadau cynaeafu yn effeithio arnynt, megis cwympo, teneuo ac ailstocio coed. Caiff unrhyw hawl dramwy gyhoeddus y plannir drosti am resymau hanesyddol ei hadfer yn ôl y map diffiniol.

  • Ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio â thirfeddianwyr cyfagos, rhanddeiliaid a phrosiectau, megis ‘Prosiect Coedwig Law Geltaidd LIFE’ yng Nghoed Cwm Einion, er mwyn datblygu blaenoriaethau a chynlluniau a fydd yn gwella gwydnwch hirdymor a chysylltedd yr ecosystemau yn y dirwedd ehangach.

  • Parhau i ymchwilio i'r potensial am brosiectau ynni gwynt yn Ardal Chwilio Strategol D TAN 8, sydd ychydig i'r dwyrain o'r blociau coedwigaeth.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf