Lleoliad ac ardal

Mae coedwig Cwm Nedd yn ymestyn am 2,806 ha ac wedi ei lleoli yn y Cwm rhwng Glyn-nedd (i'r gogledd ddwyrain) a Chastell-nedd (i'r De orllewin).

Mae coedwig Rheola ar ochr Ogledd-orllewinol Cwm Nedd a ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd. Mae'n cynnwys ochr y cwm lle ceir trwch o goedwigoedd sy'n ymestyn i lawr o ffordd Rufeinig Sarn Helen hyd at hen ffordd A465 yng ngwaelod y Cwm.

Saif Glyncastle i'r De-orllewin ar ochr arall y cwm, gyferbyn â Rheola. Mae'n ymestyn o Ffordd Coed Morgannwg ar lwyfandiroedd De-ddwyreiniol y Cwm i waelod Cwm Nedd a A465 ffordd Blaenau'r Cymoedd.

Mae o fewn ffin Awdurdod Cynllunio Castell-nedd Port.

Crynodeb o'r amcanion

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant coed drwy gynllunio’r torri a’r dewis o rywogaethau i’w hailblannu.

  • Parhau i reoli ac adfer ardaloedd o fawn dwfn i gynnal carbon, rheoli dŵr a bioamrywiaeth.

  • Parhau i amrywio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig er mwyn cynyddu’i gwytnwch yn erbyn plâu a chlefydau, gan adeiladu coedwig gydnerth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy reolaeth LISS (systemau coedwigaeth effaith isel) lle bo hynny'n briodol ac ystyried graddfa, maint ac amseriad unrhyw gwympglirio er mwyn osgoi cwympo clystyrau cyfagos. Dylid cadw cnydau hŷn o gonwydd lle bo modd er mwyn cynnal strwythur y goedwig a’i photensial cynhyrchiol.

  • Cynyddu’r meysydd a nodwyd ar gyfer teneuo o fewn y cynllun teneuo 5 mlynedd er mwyn galluogi rheolaeth LISS ac adferiad Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS).

  • Gwella cysylltedd cynefinoedd trwy gynnal a gwella ardaloedd o goetir hynafol lled-naturiol ac adfer planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol yn unol â pholisi blaenoriaethu strategol. Hwyluso ehangu coetiroedd brodorol mewn mannau lle mae'r prif gnwd o larwydd wedi gorfod cael eu cynaeafu cyn pryd. Mae ailstocio'r ardaloedd hyn yn flaenoriaeth bwysig er mwyn sicrhau nad oes unrhyw golled net o orchudd coedwig. Mae lle i ehangu ac amrywio rhannau llydanddail o'r coetir er mwyn cynorthwyo i ddarparu cynefinoedd lle bo hynny'n bosibl.

  • Nodweddion diwylliannol a threftadaeth i’w cael eu dynodi er mwyn osgoi difrod.   Henebion Rhestredig  (SAMS) i’w cael eu rheoli yn unol â chynlluniau rheoli.

  • Cynnal darpariaeth hamdden ac ystyried datblygu cynllun rheoli hamdden a mynediad Defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd a pharthau torlannol presennol er budd bioamrywiaeth drwy greu cysylltiadau â chynefinoedd agored.

Mapiau

Map lleoliad
Map amcanion hirdymor
Map systemau rheoli coedwigoedd
Map dangosol o’r mathau o goedwigoedd
Map amcanion rheoli 10 mlynedd
Map gweithgardeddau cynaeafu 10 mlynedd

Sylwadau neu adborth 

Os oes gennych sylwadau neu adborth yn ymwneud â Chynllunio Adnoddau Coedwigoedd, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwigoedd ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Diweddarwyd ddiwethaf