Lleoliad ac ardal

Mae cynllun adnoddau coedwig Mynydd Du a Llanddewi Nant Hodni’n cynnwys 1,262 hectar o dir i’r de-ddwyrain o Grucywel ynghanol ardal y Mynydd Du.

Mae ardal y cynllun yn cynnwys dwy goedwig ar wahân. Mae prif goedwig y Mynydd Du’n gorchuddio’r tir o boptu Afon Grwyne Fawr, o’r coetir cysgodol ar lannau’r afon yng ngwaelod y dyffryn a mwy na 700 metr i fyny’r llethrau gorllewinol. Saif Coed Llanddewi Nant Hodni yn y dyffryn nesaf i’r dwyrain ac mae’n gadwyn o goetiroedd amrywiol hen ystadau, sy’n mynd ar hyd llethrau gorllewinol prydferth Cwm Euas.

Er bod y coed yn ymestyn o boptu’r ffin rhwng Powys a Sir Fynwy, mae’r holl goetir sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun adnoddau coedwig hwn yn gorwedd yn llwyr o fewn ffiniau Awdurdod Cynllunio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Crynodeb o’r Amcanion

Awgrymwyd yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella cadernid ecosystemau a’r buddion y maent yn eu cynnig:

  • Dal i gynnal cyflenwad cynaliadwy wrth gynhyrchu pren, drwy gynllunio’r gwaith cwympo a dethol rhywogaethau i’w hail-blannu, a thrwy ddefnyddio systemau coedwrol sy’n addas i’r safle.
  • Hybu’r amrywiaeth o rywogaethau yn y goedwig, gan ystyried cyflwr y safle yn awr ac yn y dyfodol, gyda’r nod o hybu cadernid rhag plâu, clefydau a newid yn yr hinsawdd a chreu coedwig gydnerth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
  • Gwella amrywiaeth strwythurol y coetir drwy ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith lle bo hynny’n briodol a rhoi ystyriaeth i raddfa gwaith llwyrgwympo, ei faint a’i amseriad. Cynhelir strwythur amrywiol yn y goedwig yn barhaol, gan gynnwys ardaloedd o goed cynhyrchiol wedi’u teneuo’n dda gydag amrywiaeth eang o ddosbarthiadau oed, coed glannau’r afon a choed brodorol, cronfeydd naturiol, nodweddion wedi’u diogelu yn y tymor hir a chlytwaith o gynefinoedd agored.
  • Rhoi blaenoriaeth i adfer Coetiroedd Hynafol, gan gynnwys y rhan helaeth o Goed Llanddewi Nant Hodni a’r coed ar hyd glannau’r afon yn y Mynydd Du drwy gael gwared â chonwydd yn raddol o’r ardaloedd hyn, gan ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith lle bo hynny’n ymarferol.
  • Gweithredu dulliau rheoli i warchod pridd a dyfroedd, er mwyn hwyluso gwelliannau mewn cynefinoedd afonol yn Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Wysg ac Ardal o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Llednentydd Afon Wysg, gan ehangu potensial y rhwydwaith presennol o goetiroedd ar lannau’r afon i weithredu fel byffer. Ffefrir defnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith lle bo hynny’n ymarferol yng ngwaelodion y dalgylch, gan drefnu’r gwaith ar adegau penodol er mwyn osgoi cywasgiad ac aflonyddu ar waddodion ym mhriddoedd brau’r ardal, a sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion arferion gorau’r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.
  • Ymestyn yr ardal a nodwyd ar gyfer gwaith teneuo, gan hwyluso adferiad Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol a rheolaeth drwy Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith lle bo hynny’n briodol, a hybu sadrwydd y coed, ansawdd y pren a gwerth yr amwynder yn y dyfodol yn y llanneirch y bwriedir eu llwyrgwympo.
  • Sicrhau y darperir seilwaith priodol yn y goedwig i fedru gwneud y gwaith teneuo a chynaeafu arfaethedig yn ddiogel a lliniaru ar beryglon i’r pridd, dyfroedd a chynefinoedd cysylltiedig.
  • Hybu cysylltedd rhwng y cynefinoedd ar hyd glannau’r afon, ffyrdd coedwig, hawliau tramwy cyhoeddus a ffyrdd mynediad eraill, drwy reoli ymylon ffyrdd a thir agored, gwella coetir ar lannau’r afon, coetir hynafol a lled-naturiol a phlanhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol, a thrwy greu cysylltiadau effeithiol â’r rhwydweithiau o gynefinoedd gerllaw. Bydd hynny’n fuddiol i amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys rhywogaethau a ddiogelir yn Ewrop sydd wedi’u cofnodi ar y safle, ac sy’n nodweddion amlwg o’r safleoedd Natura 2000 gerllaw.
  • Cynllunio ar gyfer cael gwared yn raddol ag unrhyw glystyrau sylweddol o goed llarwydd, gan osgoi’r angen i gwympo coed mewn ymateb i’r clefyd Phytophthora yn y dyfodol.
    Adolygu’r defnydd a wneir o systemau coedamaeth priodol mewn llanneirch sy’n ffinio â thir preifat, offer foltedd uchel a’r briffordd gyhoeddus, yn bennaf yn y dyffryn ynghanol y Mynydd Du, er mwyn diogelu’r nodweddion hyn a sicrhau eu bod yn para’n gadarn yn y dyfodol.
  • Adnabod ac ymchwilio i ardaloedd addas ar gyfer adfer mawn dwfn lle bo hynny’n ymarferol, er mwyn cynorthwyo gyda storio carbon, rheoleiddio dŵwr a hybu bioamrywiaeth. Monitro ac arfarnu’r ardaloedd wedi’u hadfer.
  • Cynnal a monitro mor effeithiol yw cynefinoedd agored a choetiroedd sy’n dilyn ei gilydd fel byffer rhag SoDdGA’r Mynydd Du, gan sicrhau’r cydbwysedd gorau rhwng yr effeithiau byffro, diogelu naws y tirlun, a gwneud defnydd effeithiol o’r tir ffrwythlon yn y goedwig.
  • Rheoli effeithiau aildyfiant ymledol, gan ganolbwyntio ar waredu Jac y Neidiwr o goetir Llanddewi Nant Hodni mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid eraill, a chynllunio ar gyfer cael gwared yn raddol â chegid y Gorllewin o’r rhannau hynny o’r coetir a reolir drwy Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith.
  • Mynd i’r afael â’r hen broblem o ddefaid yn creu difrod wrth bori ar y Mynydd Du, sydd ar hyn y bryd yn atal unrhyw gnwd rhag magu gwreiddiau, ac eithrio pyrwydd Sitca, a hynny drwy fabwysiadu dull cydlynol o atal da byw rhag crwydro drwy’r goedwig.
  • Paratoi ar gyfer y cynnydd a ragwelir yn nifer ceirw yn yr ardal, drwy roi ystyriaeth benodol i’r gofynion rheoli yn y dyfodol wrth gynllunio gwaith torri coed ac ailgoedio llanneirch.
  • Cynnal cyfleoedd hamdden a chreu rhai gwell, gan hyrwyddo mynediad cynaliadwy nad yw’n effeithio llawer ar yr amgylchedd ar hyd llwybrau wedi’u rheoli’n dda, ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus, sydd oll yn cyfrannu at gysylltu’r cynefinoedd agored a choediog yn y goedwig.
  • Adnabod nodweddion o bwys yng nghyd-destun treftadaeth a diwylliant, a chynllunio ar gyfer eu diogelu pan wneir gwaith yn y goedwig fel na chânt eu difrodi na’u cuddio o’r golwg.
  • Diogelu naws y ddwy goedwig ar wahân fel y maent yn perthyn i’r tirlun ehangach, ac ystyried yr olygfa i bobl leol ac ymwelwyr.

Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd yn digwydd yn y goedwig

  • Bydd y Mynydd Du yn parhau’n goetir cynhyrchiol pwysig, gan ddarparu cyflenwad cynaliadwy o bren i gynnal cyflogaeth ac economi Cymru.
  • Bydd yr amrywiaeth strwythurol ac o ran rhywogaethau’n cael ei gwella'n sylweddol, gan greu mwy o gydnerthedd rhag plâu, clefydau a’r newid yn yr hinsawdd.
  • Bydd ehangu coridor llydanddail ar hyd rhan isaf dyffryn Grwyne Fawr, ac ailstocio 'canol llethrau' â chymysgedd mwy amrywiol o rywogaethau cynhyrchiol, yn peri gostyngiad cynyddol yng nghyfran y coed sbriws Sitka.
  • Bydd adfer safleoedd coetir hynafol yn peri bod Llanddewi Nant Hodni i gyd, a rhannau is o ddyffryn y Mynydd Du, yn cael eu troi’n ôl yn raddol yn goetir llydanddail brodorol.
  • Bydd dull cynyddrannol 'System Goedamaeth Fach ei Heffaith’ yn cael ei ffafrio o ran adfer ardaloedd coetir hynafol a rhannau o'r cnwd cynhyrchiol lle mae cyfyngiadau'n caniatáu, gan ddod â 258ha (21%) o'r coetir o dan drefn rheolaeth gorchudd di-dor.
    Bydd coridorau glannau afon a chlustogfeydd coetir olynol yn cael eu hehangu a'u rheoli i sicrhau bod cyflwr nodweddion sydd â gwerth cadwraeth uwch a safleoedd dynodedig cyfagos yn cael eu diogelu a'u gwella, ac er mwyn gwella cysylltedd rhwng cynefinoedd.
  • Yn y Mynydd Du, bydd rhai o'r clystyrau o goed conwydd talach gerllaw'r ffordd sirol, na ellir eu rheoli'n ddiogel o dan 'System Goedamaeth Fach ei Heffaith', yn cael eu cwympo a'u hailstocio â choed llydanddail brodorol.
  • Bydd gweddill y cnydau llarwydd yn cael eu tynnu dros gyfnod y cynllun, a hynny oherwydd bod Phytophthora ramorum yn yr ardal.
  • Bydd agweddau eraill ar reoli'r coetir, fel darparu cyfleoedd i’r gymuned gael mynediad at ddibenion iechyd, a nodi a gwarchod nodweddion treftadaeth yn y goedwig, yn parhau’n amcanion pwysig.

Mapiau

Diweddarwyd ddiwethaf