Lleoliad ac ardal

Mae Cwm Tawe Isaf yn cynnwys dau goetir sy'n wahanol yn ddaearyddol ac wedi'u lleoli yng Nghwm Tawe, sef coetiroedd Mynydd Cilfái ac Ynys Mond. Coedwig gonwydd yn bennaf yw Mynydd Cilfái a sefydlwyd yn y 1970au er mwyn helpu i sefydlogi ac adnewyddu'r priddoedd mewn tirwedd a oedd wedi'i haddasu'n sylweddol gan ddiwydiant yn y gorffennol, tra bo Ynys Mond bellach yn goetir llydanddail brodorol yn bennaf sydd wedi'i drosi o goedwig gonwydd a oedd yn blanhigfa. Mae Mynydd Cilfái wedi'i amgylchynu ar dair ochr gan ardaloedd trefol Abertawe ac yn cael ei ddefnyddio llawer gan y cyhoedd. Mae Ynys Mond yn goetir tawel sy'n cael ei ddefnyddio gan gerddwyr yn bennaf.

Cyfleoedd

Ein gweledigaeth ar gyfer y ddau goetir yw creu coedwigoedd a reolir yn dda sy’n denu ymwelwyr. Ar gyfer Mynydd Cilfái, rydym yn bwriadu cynyddu mynediad i'r gymuned ac integreiddio rheolaeth y coetir mewn partneriaeth â'r cymdogion trwy lefel uwch o ymgysylltu.

Mynydd Cilfái

  • Coetir Llydanddail Brodorol

Dros amser, byddwn yn trawsnewid Mynydd Cilfái i fod yn goetir llydanddail brodorol yn bennaf, trwy waredu â choed pinwydd a choed llarwydd afiach.

  • Amrywiaeth y Rhywogaethau

Byddwn yn sicrhau ein bod yn dewis rhywogaethau coed priodol er mwyn sicrhau’r gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau newydd ac i liniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.

  • Seilwaith

Byddwn yn gwella'r ffordd fynediad bresennol i hwyluso gweithrediadau coetir ac ymestyn cyfleoedd mynediad teg a chyfiawn.

  • Iechyd a Llesiant  

Byddwn yn rheoli’r goedwig mewn ffordd sy’n ystyried defnydd y goedwig gan y cyhoedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol wrth gynllunio gweithrediadau i gynnal cyfleoedd iechyd a llesiant.

Byddwn yn datblygu a chynnal llwybrau cerdded sy’n bodoli eisoes.

  • Cyfathrebu

Byddwn yn datblygu strategaeth gyfathrebu ar gyfer ein gwaith o drawsnewid y goedwig, gan gynnwys gwella'r brif ffordd fynediad.

Byddwn yn gwneud gwaith i nodi a chyfathrebu â rhanddeiliaid lleol er mwyn datblygu cynllun gweithredu i reoli adnoddau naturiol Mynydd Cilfái yn gynaliadwy ar gyfer pobl a natur.

  • Rhanddeiliaid

Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau buddiant lleol, cynnal mynediad, a lleihau gwrthdaro rhwng defnyddwyr y coetir.

  • Cadwraeth a Bioamrywiaeth

Byddwn yn datblygu rhostir â blaenoriaeth ar ben uchaf Mynydd Cilfái er mwyn gwella cysylltedd ar gyfer rhywogaethau nad yw coetir yn gynefin iddynt.

Ynys Mond

  • Coetir Llydanddail Brodorol

Byddwn yn parhau gyda'r gwaith o drawsnewid y coetir i fod yn goetir llydanddail brodorol trwy ddulliau priodol o reoli’r goedwig.

  • Iechyd a Llesiant

Byddwn yn cynnal y ddarpariaeth hamdden sy'n bodoli eisoes yn y coetir tawel hwn.

  • Rhywogaethau Goresgynnol

Byddwn yn parhau i gael gwared â'r rhododendron oresgynnol trwy weithio gyda'n cymdogion.

  • Cadwraeth a Bioamrywiaeth

Byddwn yn cynnal arolygon i ganfod y chwilen ddaear las brin, a ddarganfuwyd mewn coetiroedd brodorol gerllaw.

Mapiau

Mynydd Cilfái

Map lleoliad
Prif amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Ynys Mond

Map lleoliad
Prif amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf