Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Rhondda Isaf - Cymeradwywyd 10 Awst 2022

Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Cwm Rhondda Isaf yn cynnwys saith coetir yng Nghwm Rhondda, sef cyfanswm o 2,025 hectar. Planhigfeydd conwydd ar ochrau'r dyffryn a'r copaon yw'r coetiroedd yn bennaf. Mae rhan o Ystad Goetir Llywodraeth Cymru yng Nghwm Saerbren o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Mynydd Tŷ Isaf, ac mae SoDdGA Craig Pont wrth ymyl Coedwig Mynydd Ton uwchben Llwynypïa.

Ffridd a rhostir agored yw’r cynefinoedd sy’n ffinio â’r coedwigoedd ar y copaon, gyda rhai ardaloedd o gors, a choetiroedd brodorol a glaswelltir amaethyddol wedi’i wella ar ochrau'r dyffryn. Mae'r rhan fwyaf o'r coedwigoedd hyn hefyd wrth ymyl cymunedau sy'n eu defnyddio ar gyfer hamdden lefel isel ar gyfer iechyd a lles.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Cynyddu’r amrywiaeth o ran cyfansoddiad y rhywogaethau coedwig er mwyn eu gwneud yn fwy cydnerth yn erbyn plâu a chlefydau ac effeithiau newid hinsawdd, ac a fydd hefyd yn creu coedwig gref ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Tynnu’r clystyrau sy’n weddill o goed llarwydd a rheoli coed ynn mewn ffordd briodol o ran clefyd lladdwr yr ynn.
  • Cynnal cynhyrchiant pren lle bo’n briodol. Bydd hyn yn rhoi cyfleoedd i gynyddu’r amrywiaeth o rywogaethau a strwythurau yn y coetiroedd, a fydd yn gwneud y coedwigoedd yn fwy cynaliadwy a chydnerth, a hefyd yn cynnig buddion economaidd.
  • Cynyddu’r amrywiaeth strwythurol drwy gyfrwng gwaith rheoli Coedamaeth Bach ei Effaith, a gwaith adfer naturiol, lle bo’n briodol.
  • Buddsoddi yn y seilwaith coedwig i gynnig gwell mynediad i ganiatáu ar gyfer amodau rheoli mwy amrywiol o fewn y coetiroedd, cynnal gwaith teneuo rheolaidd lle bo modd, tynnu’r clystyrau o goed llarwydd sy’n weddill, ac amcanion cadwraeth.
  • Gweithio gyda phartneriaid a thimau eraill CNC i nodi a gwireddu cyfleoedd i gysylltu a gwella cynefinoedd blaenoriaeth o fewn coetiroedd CAC a drws nesaf iddynt, er mwyn eu gwneud yn fwy cydnerth a chydgysylltiedig ac atal effeithiau negyddol yn sgil gweithgareddau rheoli. Er enghraifft, cysylltu ac adfer coetir hynafol a brodorol, cysylltu cynefinoedd agored a rhodfeydd, creu cynefinoedd ymyl amrywiol ble maen nhw’n ffinio â glaswelltir rhostir yr ucheldir, ac adfer ardaloedd o fawn dwfn wedi’u coedwigo, a chynllunio ar gyfer rheoli cynefinoedd priodol ar gyfer y troellwr mawr ar draws ardal y CAC.
  • Gweithio gyda phartneriaid i annog a chynyddu defnydd a gweithgareddau hamdden cyfrifol ar Ystad Goetir Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau manteision o ran lles i gymunedau lleol, grwpiau defnyddwyr ac ymwelwyr, ac er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys cerbydau oddi ar y ffordd, llwybrau anawdurdodedig i feiciau mynydd, a thipio anghyfreithlon.
  • Ni ddylai gwaith rheoli coedwigaeth gyfrannu at y lefel bresennol o risg llifogydd naill ai o fewn y coetiroedd neu unrhyw le oddi ar y safle, a lle bynnag y bo modd dylid rhoi mesurau ar waith i leihau unrhyw risg posib o lifogydd; dylid cyflawni’r ddau drwy gyfrwng arferion coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth y DU a chanllawiau perthnasol ar gyfer coedwigaeth; a thrwy gyfrwng ymgynghori ac ymgysylltu â’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol perthnasol yn ystod gwaith cynllunio ar gyfer gweithrediadau cwympo coed.
    Dylid ystyried mesurau i leihau cyfaint y llif sy’n gadael blociau coedwigoedd o ganlyniad i weithrediadau cwympo coed, gan gynnwys gwaith Rheoli Llifogydd yn Naturiol.
  • Rhaid i’r Cynllun Adnoddau Coedwig roi sylw dyledus i Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer Rheoli Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Strategaeth Leol yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd.
  • Ni ddylai gwaith rheoli coedwigaeth achosi unrhyw ostyngiad yn ansawdd y dŵr, a hynny o fewn nodweddion dŵr ar y safle a chyrsiau dŵr sy'n draenio oddi ar y safle, drwy gyfrwng arferion coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau coedwigaeth perthnasol.
  • Lleihau'r risg o danau gwyllt drwy gynllunio a sicrhau mesurau priodol ar gyfer rheoli tân yn ystod gweithrediadau ac ar eu hôl, megis creu a rheoli bylchau tân o amgylch ardaloedd ailstocio a gweithio gyda Gwasanaeth Tân De Cymru i gynllunio a gweithredu mesurau ar yr Ystad.
  • Gweithio gyda'n partneriaid a'n cymunedau i nodi sut a ble y gall yr Ystad sicrhau datrysiadau seiliedig ar natur i wella iechyd a lles, a chynnig cyfleoedd i gysylltu pobl â natur, a ble gallwn gynnwys cymunedau yn y gwaith o’i rheoli. Gweithio tuag at gefnogi a chyflawni'r weledigaeth hirdymor ar gyfer coetir Cwm Saerbren fel yr amlinellwyd yn dilyn y broses Gydgynhyrchu.
  • Bod yn gymdogion da - Ymgynghori ac ymgysylltu â chymdogion, cymunedau a rhanddeiliaid eraill ynghylch y gwaith o reoli’r Ystad a gweithrediadau sydd ar y gweill i wella cydberthnasoedd a gwybodaeth am sut a pham y caiff yr Ystad ei rheoli, lleihau gwrthdaro, ac annog perthnasoedd gwaith agosach.
  • Gwneud cynefinoedd agored nad ydynt yn goetiroedd (e.e. rhostir, glaswelltir) yn fwy cydnerth, a rheoli SoDdGA Mynydd Tŷ Isaf yn unol â'r cynllun rheoli, gan greu a rheoli ardaloedd agored a chyflwyno pori lle bo hynny'n briodol

Mapiau

Map lleoliad
Prif amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf