Cynllun Adnoddau Coedwig Llanwynno - Cymeradwywyd 22 Awst 2018

Lleoliad ac ardal

Mae Llanwynno’n goedwig  2,644 Ha sydd wedi'i lleoli i'r de o Aberdâr ac i’r gogledd orllewin o Abercynon yng Nghymoedd De Cymru.

Mae wedi’i hisrannu’n 3 brif ardal; St Gwynno (Gogledd) & Chastell Nos, St Gwynno (De) a Phen Parc.

Mae coedwig Llanwynno i gyd o fewn y Ffin Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf.

Amcanion

Mae'r amcanion rheoli wedi eu cytuno er mwyn cynnal a gwella gwytnwch ecosystemau, a'r buddion y maent yn eu darparu:

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant coed drwy gynllunio’r torri a’r dewis o rywogaethau i’w hailblannu

  • Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig er mwyn cynyddu’i gwytnwch yn erbyn plâu a chlefydau, gan adeiladu coedwig gydnerth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy reolaeth LISS (systemau coedwigaeth effaith isel) lle bo hynny'n briodol ac ystyried graddfa, maint ac amseriad unrhyw gwympglirio er mwyn osgoi cwympo clystyrau cyfagos. Dylid cadw cnydau hŷn o gonwydd lle bo modd er mwyn cynnal strwythur y goedwig a’i photensial cynhyrchiol

  • Cynyddu’r meysydd a nodwyd ar gyfer teneuo o fewn y cynllun teneuo 5 mlynedd er mwyn galluogi rheolaeth LISS ac adferiad Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS)

  • Manteisio ar gyfleoedd i leoli coetiroedd llydanddail er mwyn cysylltu cynefinoedd gwrychoedd a gwella gwytnwch

  • Defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd a pharthau torlannol presennol er budd bioamrywiaeth drwy greu cysylltiadau â chynefinoedd agored

  • Gwella cysylltedd cynefinoedd trwy gynnal a gwella ardaloedd o goetir hynafol lled-naturiol ac adfer planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol yn unol â pholisi blaenoriaethu strategol. Hwyluso ehangu coetiroedd brodorol mewn mannau lle mae'r prif gnwd o larwydd wedi gorfod cael eu cynaeafu cyn pryd. Mae ailstocio'r ardaloedd hyn yn flaenoriaeth bwysig er mwyn sicrhau nad oes unrhyw golled net o orchudd coedwig. Mae lle i ehangu ac amrywio rhannau llydanddail o'r coetir er mwyn cynorthwyo i ddarparu cynefinoedd lle bo hynny'n bosibl

  • Parhau i reoli ac adfer ardaloedd mawn dwfn megis Castell Nos er mwyn hybu carbon, rheoli dŵr a bioamrywiaeth
  • Cynnal a gwella defnydd hamdden yr ardal - yn unol â'r Cynllun Rheoli Hamdden a Mynediad

  • Mae fferm Darwonno hefyd yn darparu adloniant ffurfiol gan ddefnyddio’r coetiroedd  sy’n agos at y ganolfan ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau ar gyfer gwahanol grwpiau. Dylid adlewyrchu hyn yn y Cynllun Adnoddau Coedwig drwy raglennu gweithredol (cynlluniau teneuo/rheoli) a'r broses ymgynghori er mwyn cefnogi'r gweithgareddau hyn

  • Cynllunio maint ac amseriad cwympo clystyrau o goed ac ailstocio er mwyn osgoi effeithio ar gyflenwadau dŵr yfed presennol a'r dyfodol

  • Dylid nodi nodweddion treftadaeth a diwylliannol er mwyn osgoi eu difrodi. Dylid anelu at gynnal lleoliad a mynediad at yr eglwys

Map o'r ardal
Map o'r ardal - Llanwynno

Diweddarwyd ddiwethaf