Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Llangollen yn cynnwys saith bloc o goedwigoedd gwahanol; Corwen, Cynwyd, Carrog, Nantyr (coedwig Ceiriog), Coed Foel, Coedwig Craig-y-Dduallt a Choedwig Halchdyn, a leolir yn Nyffrynnoedd Dyfrdwy a Cheiriog. Mae gan y coetiroedd hyn, ar y cyd, arwynebedd o 1,400 hectar ac mae ganddynt gymysgedd o rywogaethau coed conwydd a llydanddail.

Crynodeb o'r amcanion

  • Cael gwared ar goed llarwydd ac amrywio cyfansoddiad y goedwig o ran rhywogaethau er mwyn gwella gwydnwch rhag plâu a chlefydau gan adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol trwy gyflwyno cyfnod cadw hirdymor a Choedwig Gorchudd Parhaus.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant pren trwy'r cynllun a ddefnyddir i gwympo coed a'r dewis o rywogaethau i'w hailstocio.
  • Cynyddu ardaloedd coetir olynol/glannau'r afon er mwyn gwella gwydnwch cynefinoedd a chysylltedd cynefinoedd ar raddfa’r dirwedd.
  • Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth pwysig.
  • Cynnal a gwella profiad ymwelwyr drwy ddarparu amgylchedd diogel a braf sy'n newid yn fwy graddol dros amser.
  • Ymchwilio i gyfleoedd cyllido er mwyn ychwanegu mwy o baneli dehongli ar y safle ac adnoddau dysgu ar-lein.

Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd i’w cael yn y goedwig

  • Adfer safleoedd coetir hynafol (473ha) drwy gael gwared ar goed conwydd a chreu cynefin coetir llydanddail brodorol.
  • Cynnydd yn yr ardaloedd a ddyrannwyd i gadw yn y tymor hir (8ha).
  • Adfer safleoedd coetir hynafol (473ha) gan waredu ar gonwydd a chreu cynefin llydanddail brodorol.
  • Meddalu ymylon conwydd i leihau'u heffaith weladwy ar y dirwedd.
  • Gostyngiad yng nghyfran gyffredinol sbriws Sitka er mwyn gwella amrywiaeth y rhywogaethau a gwella gwydnwch y coetiroedd rhag plâu a chlefydau.

Mapiau

Map lleoliad

Coad Carrog - Map Prif Amcanion Hirdymor
Coad Carrog - Map Systemau Rheoli Coedwigoedd
Coad Carrog - Map Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol

Coad Corwen - Map Prif Amcanion Hirdymor
Coad Corwen - Map Systemau Rheoli Coedwigoedd
Coad Corwen - Map Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol

Craig-y-Dduallt - Map Prif Amcanion Hirdymor
Craig-y-Dduallt - Map Systemau Rheoli Coedwigoedd
Craig-y-Dduallt - Map Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol

Coad Cynwyd - Map Prif Amcanion Hirdymor
Coad Cynwyd - Map Systemau Rheoli Coedwigoedd
Coad Cynwyd - Map Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol

Planhigfa Foel - Map Prif Amcanion Hirdymor
Planhigfa Foel - Map Systemau Rheoli Coedwigoedd
Planhigfa Foel - Map Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol

Coed Halton - Map Prif Amcanion Hirdymor
Coed Halton - Map Systemau Rheoli Coedwigoedd
Coed Halton - Map Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol

Coed Nantyr - Map Prif Amcanion Hirdymor
Coed Nantyr - Map Systemau Rheoli Coedwigoedd
Coed Nantyr - Map Cynefinoedd a Mathau o Goedwigoedd Dangosol

Diweddarwyd ddiwethaf