Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Llanfor a Chelyn (CAC) yn cwmpasu ardal o 409 ha. Rhennir hyn yn ddwy brif ardal sy'n weladwy iawn o dref y Bala a phrif gefnffyrdd.

  • Bloc coedwig Llanfor sydd wedi'i leoli i'r Gogledd Ddwyrain o dref y Bala ar hyd yr A494 ac sydd wedi'i rannu'n sawl bloc llai; Coed Penmaen Mawr, Baned Coed Bryn, Coed Foel-Dryll a Choed Creigiau.
  • Mae bloc coedwig Celyn wedi'i leoli i'r Gogledd Orllewin o'r Bala ar hyd yr A4212 ar ochr ogleddol cronfa Llyn Celyn.

Mae'r cynefinoedd cyfagos yn cynnwys rhostir yr ucheldir, tir fferm ac ardaloedd eraill o goetir. Gerllaw Celyn mae Ardal Gadwraeth Arbennig Migneint-Arenig-Dduallt (ACA).

Mae Celyn ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae ardaloedd CAC Llanfor a Chelyn wedi'u lleoli o fewn ffin Cyngor Sir Gwynedd.

Crynodeb o’r amcanion

Mae’r amcanion isod wedi’u rhannu’n rhai cyffredinol, sy’n cwmpasu’r bloc coedwig cyfan, a rhai Celyn a Llanfor, yn y drefn honno, sydd ag amcanion sy’n berthnasol i’r safleoedd hynny yn unig.

Cyffredinol

  • Cynnal cynhyrchiant pren, drwy fwy o reolaeth Coedwigaeth Gorchudd Di-dor (Coed Penmaen Mawr, Coed Foel Emoel). Bydd rhai ardaloedd yn parhau i fod yn safleoedd llwyrgwympo er mwyn ategu’r troellwr mawr ac oherwydd yr amlygiad a nodweddion gwael y pridd.
  • Gwella amrywiaeth rhywogaethau drwy ailstocio llennyrch llarwydd a gliriwyd â dewis eang o rywogaethau.
  • Parhau i ddatblygu ardaloedd glannau afon, er mwyn gwella neu gynnal statws ecolegol cyrsiau dŵr.
  • Gwella mynediad o ran y rhwydwaith ffyrdd coedwig a llwybrau, fel y gellir teneuo, rheoli o safbwynt coedwigaeth gorchudd di-dor, a thynnu llarwydd.
  • Datblygu trefn deneuo i sicrhau bod gwaith teneuo'n cael ei gyflawni’n brydlon, ac i greu cyfleoedd o ran coedwigaeth gorchudd di-dor.
  • Cael gwared ar goed llarwydd hŷn ac sydd wedi'u heintio, gan ystyried y dirwedd ac ardaloedd cwympo coed cyfagos; bydd llarwydd iau (dan 20 oed) yn cael eu gadael i dyfu hyd nes y gellir cynaeafu cnwd gwerthfawr.
  • Cynnal y dull gweithredu o ran y dirwedd o'r cynlluniau dylunio blaenorol, a sicrhau y bydd problemau tynnu coed llarwydd yn cael eu lliniaru.
  • Gweithio tuag at lefelau targed pren marw.
  • Gwarchod nodweddion diwylliannol a threftadaeth er mwyn cynnal cyflwr.
  • Cynllunio seilwaith ceirw, fel y gellir rheoli ceirw.

Celyn

  • Bydd gwaith coedwigaeth yn cael ei reoli er mwyn tarfu cyn lleied ag y bo modd ar wifrau trydan, drwy gynllunio llennyrch yn ofalus.
  • Symud tuag at goetir llydanddail cymysg mewn ardal Allt y Gelli trwy gael gwared ar adfywiad Pyrwydd Sitka.
  • Parhau i ysgafnhau ymylon ar ochr y ffordd ar hyd Coedwig Celyn.
  • Parhau i gynnal llain glustogi goetir olynol ar hyd yr ymylon sydd gyfagos i Ardal Cadwraeth Arbennig Migneint-Arenig-Dduallt. Bydd hyn hefyd yn helpu i ysgafnhau'r ymylon o safbwynt y dirwedd fel y nodwyd ar y cynllun dylunio coedwig blaenorol.

Llanfor

  • Parhau i adfer ardaloedd coetir hynafol drwy deneuo coedwigoedd conwydd (Coed Bryn Banon a Choed Foel-dryll).
  • Bydd rhywfaint o waith adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol (PAWS) yn cael ei wneud drwy lwyrgwympo oherwydd cyfagosrwydd i briffordd fawr, ac oherwydd bod coed llarwydd yn cael eu symud oddi yno.
  • Rheoli rhododendronau, yn enwedig mewn safleoedd coetir hynafol, ac amseru hyn cyn tynnu llarwydd; mae hyn yn arbennig o bwysig yng Nghoed Bryn Banon.
  • Ailsefydlu coetir hynafol drwy lwyrgwympo yng nghoed Nurse Bryn Pader, gadael coed llarwydd ifanc tan eu bod yn 20-25 oed os nad ydynt wedi’u heintio â Phytophthora, i greu rhywfaint o werth o'r cnwd.
  • Ochr y llyn i'w rheoli'n bennaf ar gyfer buddion ecolegol a chaiff ei rhoi o dan reolaeth gwarchodfa naturiol.
  • Cynnal hawliau tramwy cyhoeddus i annog mwy o ddefnydd hamdden lleol.

Mapiau

Adborth

Mae'r ymgynghoriad ar y cynllun hwn bellach wedi dod i ben a bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi cyn bo hir. Fodd bynnag, os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth ar Gynllunio Adnoddau Coedwig, cysylltwch â'r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig:  frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf