Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Hirnant yn cynnwys prif flociau coedwig Cwmwr a Chwm Gwnen sydd, gyda'i gilydd, â chyfanswm ardal o 257.21 hectar (Cwmwr 128.88 hectar a Chwm Gwnen 128.33 hectar). Cyfeirir at y ddau floc coedwig hyn fel ‘Hirnant’ a enwir ar ôl pentref bach Hirnant neu nant/cwm Hirnant a leolir tua’r de o Gwmwr. Mae’r enw Cwmwr neu ‘bont droed’, wedi’i gymryd o enwau’r ffermydd cyfagos a oedd efallai’n cyfeirio at bont droed hanesyddol dros nant Hirnant.

Mae dau floc coedwig Hirnant wedi'u lleoli o fewn ffiniau Cyngor Sir Powys. Mae Cwmwr wedi'i leoli ar ochr bryn serth (Carnedd Das Eithin) a chrib Bwlch y Main tua'r gogledd o'r B439, y ffordd o Abertridwr i Benybontfawr. Ceir mynediad at Gwm Gwnen ar ffordd gyhoeddus fach o bentref Penygarnedd, B4391, i'r gogledd o Lanfyllin.

Mae cynefin cyfagos blociau Cynllun Adnoddau Coedwig Hirnant yn cynnwys tir ffermio pori caeedig, blociau coedwigoedd conwydd masnachol, sy'n dominyddu'r golygon uwch a choetiroedd llydanddail cymysg ar y llethrau isaf ac ar lannau'r afon. Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol y Berwyn, (Ardal Cadwraeth Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig a Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig) wedi'i lleoli 1.2 km tua'r gorllewin a'r gogledd o Gynllun Adnoddau Coedwig Hirnant, sy'n cynnwys bron i 8,000 hectar o rostir agored o fewn ardal Mynydd y Berwyn.

Mae mynediad cyhoeddus i'r ddau goetir yn cynnwys cymysgedd o fynediad agored ar droed gyda rhwydwaith da o lwybrau troed cyhoeddus a llwybrau ceffylau sy'n cysylltu'r blociau coetir â'r dirwedd ehangach.

Crynodeb o'r amcanion

  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy gael meintiau llai o lennyrch llwyrgwympo, a wneir yn raddol, ac ardaloedd cadw hirdymor.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant pren trwy'r cynllun a ddefnyddir i gwympo coed a'r dewis o rywogaethau i'w hailstocio.
  • Tynnu llarwyddau ac amrywio cyfansoddiad y rhywogaethau yn y goedwig er mwyn cynyddu gwydnwch i blâu a chlefydau wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Mwy o ardaloedd coetir olynol/torlannol i wella gwydnwch cynefinoedd a chysylltiadau ar gyfer cynefinoedd ar raddfa'r dirwedd.
  • Parhau i ddiogelu a, lle y bo’n bosibl, wella clwydau ystlumod pedol lleiaf a chysylltiadau fforio.
  • Nodi a diogelu nodweddion treftadaeth pwysig ac ymchwilio i’r posibilrwydd o gynnal prosiectau ymchwil yn y dyfodol i wella’r ddealltwriaeth o dreftadaeth ddiwylliannol ehangach y Cynllun Adnoddau Coedwig hwn.
  • Cynnal a gwella profiad yr ymwelydd trwy ddarparu amgylchedd diogel sy’n cynnig mwynhad, ac sy’n newid yn fwy graddol dros amser. Ymchwilio i’r cyfleoedd cyllido ar gyfer adnoddau dysgu ar-lein a phaneli dehongli pellach ar y safle.

Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd i’w cael yn y goedwig

  • Symud yr holl goed llarwydd o’r coetiroedd (20 hectar) gan fod Phytophthora ramorum wedi’i gadarnhau.
  • Gwella ardaloedd â gwerth cadwraeth uwch drwy reoli ac ehangu parthau torlannol a choetir olynol.
  • Cynyddu’r ardaloedd a ddyrannir i warchodfeydd naturiol a chadw hirdymor.
  • Adfer safleoedd coetir hynafol (6 hectar) drwy symud coed conwydd a chreu cynefin llydanddail brodorol.
  • Ysgafnhau ymylon coed conwydd i leihau eu heffaith weledol ar y dirwedd
  • Lleihau coed sbriws Sitka a chynyddu rhywogaethau eraill o goed conwydd a llydanddail er mwyn gwella gwydnwch y coetiroedd rhag plâu a chlefydau.

Mapiau

Map lleoliad

Cwm Gwnen - Prif amcanion hirdymor
Cwm Gwnen - Systemau rheoli coedwigoedd
Cwm Gwnen - Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Cwmwr - Prif amcanion hirdymor
Cwmwr - Systemau rheoli coedwigoedd
Cwmwr - Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Diweddarwyd ddiwethaf