Lleoliad a safle 

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Gŵyr a Phenlle’r-gaer yn cwmpasu 465 hectar ac mae’n cynnwys Coed y Parc, Coed y Felin a Phenlle’r-gaer. Mae Coed y Parc a Choed y Felin wedi’u lleoli ar Benrhyn Gŵyr, oddi ar yr A4118. Mae Penlle’r-gaer ymhellach i’r gogledd ddwyrain, ger cyffordd 47 traffordd yr M4, yn agos i wasanaethau’r draffordd.

Mae mwyafrif y coetiroedd wedi’u dosbarthu’n Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol, neu’n Goetiroedd Lled-naturiol Hynafol, a byddant yn cael eu hadfer yn goetiroedd o rywogaethau llydanddail brodorol.  

Mae Coed y Parc yn cynnwys ardal fawr o goetir coed ynn sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), sydd o dan fygythiad ar hyn o bryd gan glefyd Chalara coed ynn.  Bellach mae’r clefyd yn endemig ledled Cymru, a rhagolygon presennol Forest Research yw ei bod yn debyg y bydd rhwng 80% a 95% o’r coed yn marw. Mae camau’n cael eu cymryd i dynnu coed sy’n bygwth iechyd a diogelwch a chadw’r rhai sy’n dangos arwyddion eu bod yn gwrthsefyll y clefyd.

Crynodeb o'r amcanion 

  • Rheoli dirywiad coed ynn sydd wedi’u heintio â Chalara fraxinea:

    • Tynnu coed peryglus a manteisio ar y cyfle i gynaeafu pren cyn iddo ddirywio
    • Dylid dewis sbesimenau sydd o bosibl yn gallu gwrthsefyll y clefyd, a’u cadw
    • Dylid cadw cronfeydd wrth gefn o bren marw mewn ardaloedd anhygyrch
    • Ystyried rhywogaethau eraill addas i’w plannu er mwyn cynnal sefyllfa coed ynn
    • Gwarchod nodweddion yr Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) er mwyn cynorthwyo gyda’i rheoli

  • Sicrhau bod ymyriadau’n mynd rhagddynt fel y gellir adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol.

  • Cynnal cyflenwad o bren i gyflawni’r cynllun gwasanaeth tir a chynorthwyo a chynnal y gwaith rheoli a’r seilwaith presennol.

  • Parhau i wella statws coetiroedd ar y Rhestr Coetiroedd Hynafol a rheoli rhywogaethau goresgynnol fel coed llawr-geirios a’r rhododendron, sy’n bygwth y coetir naturiol yno.

  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â grwpiau bywyd gwyllt lleol i fonitro’r rhywogaethau a geir yn y coetiroedd hyn sy’n gyfoethog yn ecolegol.

  • Parhau i hwyluso digwyddiadau yn y goedwig.

  • Parhau i fonitro ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghoedwig Penlle’r-gaer a gweithio gyda’r Heddlu i’r perwyl hwnnw.

  • Cynnal ffyrdd coedwig a llwybrau a hyrwyddir, gan gynnwys rheoli ymylon ffyrdd er mwyn cynnal mynediad ar gyfer rheoli coedwigoedd, ar gyfer y cyhoedd, ac er bioamrywiaeth.

Mapiau

Map lleoliad - Gower
Map lleoliad - Penllergaer

Map amcanion hirdymor - Gower
Map amcainion hirdymor - Penllergaer

Systemau rheoli coedwigaeth - Gower
Systemau rheoli coedwigaeth - Penllergaer

Map o fathau dangosol o goedwig a chynefinoedd - Gower
Map o fathau dangosol o goedwig a chynefinoedd - Penllergaer

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf