Lleoliad

Mae Cynllun Adnoddau Coedwigaeth (FRP) Ffestiniog yn cynnwys prif flociau coedwig Hafod Fawr, Coed Pengwern a Rhyd-Y-Sarn. Gyda’i gilydd mae gan y coetiroedd hyn gyfanswm arwynebedd o 495 hectar a chymysgedd o rywogaethau coed conwydd a llydanddail.

Mae’r blociau coedwig hyn wedi’u lleoli o fewn ffin Cyngor Sir Gwynedd ac yng nghanol Parc Cenedlaethol Eryri, ger pentref Ffestiniog. Mae Hafod Fawr wedi ei lleoli i’r de-ddwyrain o Ffestiniog gyda blociau Coed Pengwern a Rhyd-Y-Sarn wedi’u lleoli i’r gogledd-orllewin o Ffestiniog o boptu’r A496.  

Cyfleoedd a blaenoriaethau

  • Tynnu llarwydd ac chyfoethogi cyfansoddiad rhywogaethau y goedlan i gynyddu gwytnwch plâu a chlefydau wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol trwy gyflwyno cadwraeth hir- dymor a Choedwigaeth Gorchudd Parhaus.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynnyrch coed trwy ddewis rhywogaethau i’w cwympo a ailblannu.
  • Cynyddu ardaloedd coetir olynol ac ar hyd lannau neintydd a afonydd (Torlannol) ar gyfer gwella gwytnwch cynefinoedd a chysylltiadau cynefinoedd ar raddfa tirwedd.
  • Nodi, gwarchod a gwella nodweddion amgylcheddol a threftadaeth pwysig.
  • Gwella profiad yr ymwelydd trwy gynnal mynediad cyhoeddus presennol a chymryd cyfleoedd i chwalu ymylon conwydd y coedwigoedd dros amser.

Crynodeb o’r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y goedwig

  • Tynnu'r holl goed llarwydd o'r coetiroedd (10ha) ar gyfer rheoli'r bygythiad o glefyd Phytophthora ramorum.
  • Gwella ardaloedd o bwys cadwraethol uwch trwy reoli ac ehangu'r parthau torlannol, coetir llydanddail brodorol ac olynol (204ha).
  • Cynnydd yn yr ardaloedd a ddynodir i’w cadw yn hir dymor o dan reolaeth ymyrraeth isel (67ha).
  • Adfer safleoedd coetir hynafol (170ha) trwy gael gwared ar gonwydd a chreu cynefin llydanddail brodorol.
  • Bydd can hectar o gynefin agored yn cael ei greu, a fydd hefyd yn creu ‘coridorau’ o gynefinoedd yn cysylltu â’r tirwedd gerllaw.
  • Byddwn yn lleihau effaith weledol conwydd ar y tirwedd.
  • Bydd llai o sbriws Sitka a mwy o rywogaethau eraill o goed conwydd a llydanddail er mwyn cynyddu gwytnwch y coetiroedd o ran gwrthsefyll plâu a chlefydau.
  • Ein nod yw rheoli 41 ha o gonwydd gan ddefnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith.

Mapiau

Map lleoliad

Hafod Fawr - Prif Amcanion Hirdymor
Hafod Fawr - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Hafod Fawr - Cynefinoedd a Mathau o coedwigoedd Dangosol

Coed Pengwern and Rhyd-y-Sarn - Prif Amcanion Hirdymor
Coed Pengwern and Rhyd-y-Sarn - Systemau Rheoli Coedwigoedd
Coed Pengwern and Rhyd-y-Sarn - Cynefinoedd a Mathau o coedwigoedd Dangosol

Diweddarwyd ddiwethaf