Lleoliad a safle

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli coetiroedd a choedwigoedd cyhoeddus Cymru mewn ffordd gynaliadwy. Cânt eu rheoli er budd a llesiant y bobl sy’n ymweld â nhw ac sy’n dibynnu arnyn nhw i gael bywoliaeth. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys gwella eu bioamrywiaeth a’u gallu hirdymor i wrthsefyll newid hinsawdd, er mwyn i genedlaethau’r dyfodol allu mwynhau’r manteision a ddaw yn eu sgil. Bob deng mlynedd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn adolygu’r cynlluniau rheoli hirdymor ar gyfer pob ardal goedwig. Caiff y rhain eu casglu ynghyd i greu Cynllun Adnoddau Coedwig newydd.

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Dyfnant yn cwmpasu darn mawr o goedwig a leolir oddeutu 14 milltir i’r gogledd-orllewin o’r Trallwng, yn ardal Awdurdod Lleol Powys. Gerllaw mae pentrefi Llangadfan, Llwydiarth, Garthbeibo a’r Foel.

Gellir cyrraedd y goedwig trwy deithio ar hyd y B4395 o Lwydiarth.

Mae coedwig Dyfnant wedi’i lleoli rhwng dalgylchoedd Afon Efyrnwy ac Afon Twrch. I’r dwyrain o Ddyfnant mae Mynyddoedd Cambria.

Mae Coedwig Dyfnant yn rhan o Goedwig Genedlaethol Cymru. Bydd y Goedwig Genedlaethol yn creu darnau o goetiroedd newydd ac yn helpu i adfer coetiroedd presennol, yn cynnwys rhai o goetiroedd hynafol digymar Cymru. Ymhen amser, bydd yn creu rhwydwaith ecolegol cysylltiedig trwy Gymru, gan esgor ar fanteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.

Cyfleoedd oddi mewn i goedwig Dyfnant

Fe’u dangosir yn nhrefn eu blaenoriaeth:

Cynhyrchu Pren

Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren a chynyddu ardaloedd cynhyrchiol trwy gyfrwng dewisiadau ailstocio a strategaethau rheoli coedwig.

Amrywiaeth y Rhywogaethau

Parhau i wella gwytnwch y coetir trwy gynyddu amrywiaeth y rhywogaethau ailstocio pan fo pridd addas i’w gael, er mwyn amddiffyn rhag plâu a chlefydau a lleihau effeithiau newid hinsawdd. Mae cyfleoedd yn bodoli lle mae gwaith cwympo llarwydd yn sgil Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol wedi’i gwblhau.

Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS)

Parhau i adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS) i gyflwr lled-naturiol trwy blannu coed llydanddail a defnyddio System Goedamaeth Fach ei Heffaith (LISS) mewn ardaloedd sydd â photensial canolig i uchel o allu cael eu hadfer, gan gynorthwyo i gynyddu amrywiaeth y goedwig o ran dosbarth oed a strwythur. Parhau i wella’r cysylltiad rhwng coetiroedd lled-naturiol trwy’r broses hon.

Diogelu nodweddion SoDdGA, AGA ac ACA

Cynnal ardaloedd clustogi o gynefin agored a choetir olynol i ddiogelu nodweddion SoDdGA, AGA ac ACA y Berwyn. Monitro effeithiolrwydd hyn ar sail cynllun pum mlynedd treigl a sicrhau na fydd conwydd sydd â’r potensial i hadu i’w cael yn yr ardal glustogi.

Adfer Mawn

Parhau i ymchwilio i ardaloedd sy’n addas i adfer mawn dwfn pan fo hynny’n ymarferol, er mwyn cynorthwyo i storio carbon, rheoli dŵr a chynnal bioamrywiaeth. Monitro a gwerthuso ardaloedd sydd wedi’u hadfer.

Gwella’r Cysylltiad Rhwng Cynefinoedd

Parhau i geisio gwella’r cysylltiad rhwng cynefinoedd mewn ardaloedd addas wrth ymyl parthau torlannol, ffyrdd coedwig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r Llwybr Cenedlaethol, gan ddefnyddio dulliau rheoli priodol a rhywogaethau brodorol. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhywbeth oddi mewn ac oddi allan i adnodd y goedwig (er enghraifft, cysylltu gwrychoedd, cysylltu mawndiroedd a gweddillion coetiroedd hynafol).

Nodweddion Treftadaeth

Nodi parthau effeithiau a lleoliadau nodweddion treftadaeth er mwyn osgoi eu niweidio neu eu cuddio.

Iechyd a Llesiant

Hyrwyddo mynediad i’r goedwig a defnydd o’r goedwig ar gyfer trigolion yr ardal, er budd iechyd a lles y meddwl a’r corff.

Rheoli Ceirw

Rhoi seilwaith ar waith i reoli ceirw er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau cynyddol y gwaith ailstocio ledled Cymru.

Estheteg a’r Dirwedd

Cynnal cymeriad y goedwig o fewn y dirwedd amgylchynol ac ystyried canfyddiad gweledol er budd ymwelwyr a phreswylwyr.

Mapiau

Map lleoliad
Prif amcanion hirdymor
Systemau rheoli coedwigoedd
Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Diweddarwyd ddiwethaf