Lleoliad a safle

Mae Coedwig Dyfi i'r gogledd a'r gorllewin o afon Dyfi. Mae'n cynnwys yr ardaloedd coedwig o’r enw  Pantperthog, Hengae, Cwm Dulas, Gogledd Dyfi, De Dyfi, Tŷ Mawr a Dinas Mawddwy. Cyfanswm yr arwynebedd 5016 hectarau. Mae’r goedwig mewn dau awdurdod cynllunio, sef Powys i'r de a’r dwyrain, a Gwynedd gan gynnwys Parc Cenedlaethol Eryri i'r gogledd a’r gorllewin.

Mae ardaloedd mawr o'r goedwig wedi'u cuddio o’r golwg ond mae rhai rhannau, megis Cwm Dulas, yn amlwg iawn a gellir ei weld o gymunedau ar hyd y cwm, yn bennaf Ceinws, Corris Uchaf, Corris Isaf, ac Aberllefenni a chan ddefnyddwyr yr A487. Mae rhai o’r ymylon mwyaf gogleddol i’w gweld o Gadair Idris, i’r gogledd. Ymhlith y cymunedau eraill yr effeithir arnynt yn weladwy gan y coetiroedd hyn mae Dinas Mawddwy i'r gogledd-ddwyrain ac Aberangell ymhellach i'r de ar yr allanfa ddwyreiniol o brif goedwig Dyfi.

Mae'r goedwig i gyd o fewn dalgylch dŵr afon Dyfi. Mae'r dirwedd yng Nghoedwig Dyfi yn ddramatig iawn gyda nifer o nentydd yn arwain i afon Dulas ac afon Dyfi. Mae'r coedwigoedd yn fwyfwy amrywiol gyda llawer o'r ardal bellach yn yr ail gylchdro gyda rhaglen barhaus i wella cynefinoedd coetir torlannol a brodorol.

Gogledd a De Dyfi

Mae Gogledd a De Dyfi, y  prif floc canolog rhwng Cwm Dulas ac Aberangell, tua 3000ha ac wedi'i nodweddu gan fryniau tonnog â llethrau serth gyda phlanhigfeydd conwydd wedi’u hailstrwythuro sydd yn eu hail gylchdro yn bennaf a rhwydwaith o gynefinoedd coetir torlannol a brodorol.

Tŷ Mawr

Mae bloc Tŷ Mawr wedi'i guddio'n bennaf yng nghwm afon Mynach i'r gogledd o Aberangell, ac eithrio'r ymyl dwyreiniol uchaf a welir o'r A470, er bod llawer o waith gwella eisoes wedi'i wneud i gael gwared ar goed o'r grib.

Pantperthog

Mae Pantperthog i'r gorllewin o afon Dulas ac mae wedi'i guddio'n bennaf ond mae'n codi tuag at grib Tarren y Gesail. Mae wedi'i ffinio ar dair ochr gan goedwig a reolir yn breifat. Mae’r ardal hon yn cynnwys planhigfeydd conwydd yn eu hail gylchdro yn bennaf, gyda rhwydwaith gwell o gynefinoedd torlannol a phlannu coed llydanddail.

Dinas Mawddwy

Mae bloc Dinas Mawddwy, er ei fod yn gymharol fach (122ha), mewn safle gweledol amlwg wrth ymyl  cefnffordd yr A470 a'r cefn gwlad  amgylchynol yn ogystal â'r pentref o'r un enw i'r dwyrain.

Yn yr un modd, mae Hengae yn nodweddiadol serth ac mewn cwm amgaeedig (afon Llefenni) i'r gogledd o bentref Aberllefenni. Mae'n dringo i grib Mynydd Fronfraith ac yn ffinio â choetir preifat ar hyd ei ymyl dwyreiniol i'r de o Fynydd y Waun.

Cwm Dulas

Cwm Dulas yw’r ardal sy'n dilyn afon Dulas hyd at Aberllefenni. Mae’n cynnwys  y dirwedd mwyaf serth ac mae'n bwrw cysgod dros  bentrefi Ceinws, Corris ac Aberllefenni.

Crynodeb o’r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Cynyddu amrywiaeth y rhywogaethau coed yn y goedwig sy’n  cael ei ddominyddu'n bennaf gan sbriws ar hyn o bryd, er mwyn cynyddu gwydnwch i blâu a chlefydau wrth wella gwydnwch i newid  yn yr hinsawdd.

  • Edrych ar yr holl gyfleoedd i gynyddu amrywiaeth strwythurol o fewn clystyrau gan ddefnyddio amrywiaeth o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith lle bo'n briodol. Bydd y math o system coedamaeth yn cael ei gyfyngu mewn ardaloedd mawr oherwydd tir serth, diffyg  teneuo blaenorol a datguddiad ar y tir uchaf.

  • Cynyddu teneuo, gan sicrhau bod teneuo cyntaf yn cael ei wneud ar amser ac yn aml ar ôl hynny. Bydd hyn yn gwella cydnerthedd ecolegol ac yn cynyddu opsiynau ar gyfer rheolaeth yn y dyfodol gan gynnwys y defnydd posibl o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith.

  • Gwella amrywiaeth oedran trwy raglenni llwyrgwympo a fydd yn parhau i sicrhau’r amrywiaeth fwyaf o ran oedran o fewn dalgylchoedd ac ar draws ardal ehangach y goedwig.

  • Creu ecosystem a strwythur coedwig parhaol ac amrywiol sy'n cynnwys coetir ar lannau afon a choetir brodorol, gwarchodfeydd naturiol, dargadwedd hirdymor, coetir dilyniadol a chlytwaith o gynefinoedd agored, gan gynnwys ffyrdd coedwig a rhodfeydd. Caniatáu am amrywiaeth o drefniadau rheoli coetir lle mae prosesau naturiol yn unig yn digwydd. Bydd hyn nid yn unig o fudd i strwythur y goedwig ond bydd hefyd yn darparu cynefin parhaol pwysig ar gyfer amrywiaeth o ffawna a fflora fel safleoedd nythu Gweilch Marthin a chynefinoedd cen.

  • Cynyddu'r defnydd o aildyfiant naturiol wrth sefydlu cnydau newydd lle bo'n briodol, yn enwedig rhywogaethau llydanddail brodorol ond hefyd coed conwydd ar safleoedd Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith.

  • Parhau i fod yn goedwig gynhyrchiol iawn o ran cynhyrchu pren, gan ddefnyddio’r amrywiaeth fwyaf bosibl o rywogaethau coed a fydd yn ffynnu nawr ac yn y dyfodol yn unol â rhagfynegiadau'r newid yn yr hinsawdd a dylid parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy rheolaidd o gynhyrchion pren o ansawdd.

  • Parhau i ymchwilio i'r potensial am brosiectau ynni adnewyddadwy o fewn ardal y goedwig, sy'n cynnwys cymorth parhaus ar gyfer cynlluniau hydro ym Mhantperthog.
  • Edrych am gyfleoedd ar gyfer cefnogi busnesau lleol i farchnata pren yn lleol a chreu  mwy o swyddi  yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol yn y sector  cynhyrchu pren neu mewn gweithgareddau/busnesau eraill sy'n ymwneud â gweithgareddau yn y goedwig.

  • Buddsoddi mewn seilwaith parhaol o ffyrdd a thraciau i ddatblygu mynediad i ardaloedd lle nad yw'n bodoli ac i helpu i ddatblygu seilwaith mewnol ar gyfer safleoedd Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith yn y dyfodol er mwyn sicrhau rheolaeth hirdymor o'r goedwig gyfan.

  • Defnyddio'r cyrsiau dŵr, cynefinoedd coetir brodorol presennol, cynefinoedd agored yr ucheldir fel sail i strwythur coedwig parhaol, gan greu rhwydweithiau cynefinoedd mwy o faint gyda chysylltiadau gwell â choetir hynafol, megis safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Coed Maes Mawr. Hefyd cysylltu cynefinoedd agored megis Fron Felen â'r cynefin rhostir uwchben y goedwig. Bydd y rhwydwaith cysylltiedig hwn o goetir torlannol a choetir brodorol yn gwella ansawdd dŵr ac yn gwella bioamrywiaeth.

  • Amddiffyn a gwella amgylchiadau microhinsawdd ar gyfer cennau yng Nghwm Glesyrch, Cwm Ceirig a Chwm Llecoediog. Dylai'r gwaith o reoli a blaenoriaethu ardaloedd ar gyfer cynefin cennau gael ei gysylltu â'r gwelliannau mewn coetir torlannol hynafol a choetir brodorol newydd.

  • Datblygu rhaglen wedi'i blaenoriaethu ar gyfer gwaredu ar rywogaethau anfrodorol goresgynnol o barthau torlannol, cynefinoedd coetir brodorol a'r holl rannu eraill o Goedwig Dyfi. 

  • Blaenoriaethu gwaith brys  i gael gwared ar sbriwsen-hemlog y Gorllewin aeddfed  trwy raglenni llwyrgwympo. Mae'n rhaid i'r gwaith o gael gwared ar goed ifanc sbriwsen-hemlog y Gorllewin  hefyd fod yn  rhan o waith gwella torlannol a rhaglenni paratoi, glanhau ac ail-leoli safleoedd ailstocio.

  • Gwarchod a gwella cyflwr a nodweddion ecolegol y Coetir Hynafol a Lled-Naturiol. Gwella cyflwr yr holl Blanhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol gyda chysylltiadau rhwng coetir hynafol, coetir brodorol presennol a newydd er mwyn gwella rhwydweithiau cynefinoedd.

  • Gwarchod a gwella cyflwr safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig Coed Maes Mawr, gwella cysylltiad â chynefinoedd coetir brodorol ehangach o fewn Coedwig Dyfi a'r ardal o'i chwmpas.

  • Creu cynllun perthnasol i amddiffyn a rheoli ardal gadwraeth arbennig / safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig cynefin rhostir Cadair Idris sy'n cynnwys cael gwared ar goed conwydd wedi'u plannu o fewn yr ardal gadwraeth arbennig / safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, creu cynefin coetir brodorol ucheldir, lle agored newydd sy'n gysylltiedig ag adfer mawn dwfn a gwaredu ar rywogaethau anfrodorol o'r ardaloedd dynodedig rhwng coedwig a rhostir.

  • Creu neu wella lle agored mewn ardaloedd eraill sydd wedi'u nodi'n ddiweddar ar gyfer adfer mawn dwfn, o bosibl yn cysylltu â chynefin ucheldir agored ac ardal gadwraeth arbennig Cadair Idris.

  • Cynyddu'r cyfleoedd ar gyfer cynefin pren marw trwy nodi coed sy'n cael eu cadw yn yr hirdymor, gwarchodfeydd naturiol a newid arferion gweithredol. Mae gadael pren marw yn ei le yn cefnogi biota amrywiol yn ecosystem y goedwig.

  • Gwella cynefinoedd ar gyfer yr amrediad o ffawna sydd yng Nghoedwig Dyfi ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys dyfrgwn, beleod sydd wedi'u cyflwyno'n ddiweddar, gweilch Marthin ac ystlumod. Mae Coedwig Dyfi yn adnabyddus yn benodol am ei phoblogaeth o bathewod, felly dylai gweithgareddau rheoli geisio gwella ac ehangu'r cynefin pathewod.

  • Lleihau'r potensial ar gyfer perygl llifogydd gan wella cynefin torlannol, cynnal gorchudd coetir ac ehangu'r ardal goetir brodorol. Trwy reoli maint y llwyrgwympiadau mewn dalgylchoedd a theneuo cnydau wrth wneud y defnydd gorau o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith, bydd hyn yn lleihau'r effaith ar lif dŵr brig a hefyd llwythi critigol mewn dalgylchoedd sy'n sensitif i asid.

  • Lleihau effeithiau niweidiol posibl asideiddio trwy gynnal ansawdd dŵr da a gwell trwy gynefin torlannol a chysylltiadau gwell, ardal fwy o goetir brodorol a rhwydweithiau cynefinoedd gwell yn seiliedig ar y seilwaith torlannol.

  • Gwella amrywiaeth weladwy'r goedwig trwy gynyddu'r amrywiaeth strwythurol ac amrywiaeth y rhywogaethau o fewn clystyrau a rhyngddynt a mwy o goetir brodorol a chynefinoedd torlannol.

  • Amddiffyn a gwella'r nifer o nodweddion hanesyddol pwysig sy'n cynnwys chwareli llechi segur, hen ffermydd, a ffensys crawiau (llechi), naill ai gyda man agored neu ehangu coetir brodorol. Eu cysylltu â llwybrau hamdd neu rwydweithiau cynefinoedd eraill lle bo hynny'n bosibl.

  • Cynnal cyfleusterau hamdden presennol i safon uchel a sicrhau bod cyfleoedd hamdden perthnasol yn cael eu datblygu yn y goedwig.

  • Cynnal hawliau tramwy cyhoeddus a sicrhau eu bod yn cael eu hystyried yn ystod gweithgareddau gweithredol a bod unrhyw rwystrau yn cael eu hadfer yn ôl yr angen.

  • Cynnal a gwella cysylltiadau presennol â chymunedau lleol i sicrhau bod lefelau presennol o fynediad a defnydd yn unol ag anghenion lleol ynghyd â gweithgareddau eraill megis ralïau modur, rasys dal ati a digwyddiadau ceffylau.

  • Amddiffyn a gwella mynediad ar hyd y llwybrau cerdded sy'n cysylltu â llwybr pellter hir Tarren Hendre sy'n rhedeg o Gorris i Dywyn, gyda chysylltiadau o Abergynolwyn, Pennal, Corris a Dolgoch.

Map o’r ardal

Map lleoliad Dyfi

Mapiau

Map gweledigaeth hirdymor

Map mathau o goedwigoedd ac ailblannu

Map strategaeth rheoli coadwigoedd a chwympo coed

Diweddarwyd ddiwethaf