Lleoliad a safle

Mae ardal cynllun adnoddau coedwig Cwm Einion a Rheidiol Uchaf yn 2,371 hectar ac wedi’i lleoli i’r gogledd-ddwyrain o Aberystwyth, ychydig i’r gorllewin o Bumlumon ym Mynyddoedd Cambria.

Mae’r goedwig yn gorwedd mewn dau ddalgylch afon yn bennaf: y Rheidol i’r de; a’r Einion i’r gogledd (rhan o afon Dyfi), y ddwy yn llifo i Fae Ceredigion.

Mae ardal y cynllun yn cynnwys y prif floc o goedwig, sy’n ymestyn o Gwm Einion yn y gogledd i Gronfa Ddŵr Nant y Moch yn y de, gyda thri bloc llai wedi’u lleoli i’r de sef Bryn Gwyn, Creignant Mawr a Blaen Peithnant.

Gellir mynd i’r goedwig o’r de ar hyd isffyrdd cyngor sy’n dechrau o’r A44 ger Ponterwyd. O’r gogledd a’r gorllewin gellir mynd i’r goedwig o’r A487 drwy ffordd goedwig bwrpasol a sawl isffordd cyngor.

Mae’r rhan fwyaf o ardal cynllun adnoddau’r goedwig yn Awdurdod Cynllunio Lleol Ceredigion gyda rhan fechan ym Mhowys. 

 

Crynodeb o amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella cydnerthedd ecosystemau, a’r manteision sydd ganddynt i’w cynnig:

  • Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig drwy hyrwyddo strategaeth ailstocio mwy amrywiol, a fydd yn cynnwys mwy o amrywiaethau o goed llydanddail a brodorol yn ogystal â choed conwydd cynhyrchiol.

  • Gwella strwythur mewnol y goedwig drwy ddatblygu amrywiaeth dosbarth oedran, amrywiaeth o faint coed a chymysgeddau o rywogaethau. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy symud yn raddol o system reoli llwyrgwympo’n bennaf i system goedwigaeth gorchudd parhaus mwy hyblyg dros oes y cynllun.

  • Amrywio mathau o goetiroedd o fewn y goedwig, drwy gynyddu amrywiaeth y coetir conwydd ac ehangu cynefinoedd coetir brodorol a glannau’r afon.

  • Cael gwared ar unrhyw larwydd sydd wedi’i heintio â Phytopthera ramorum a chynllunio ar gyfer cael gwared ar unrhyw ardaloedd llarwydd sylweddol sy’n weddill o dan y Strategaeth Lleihau Llawrydd.

  • Cael gwared ar Rhododendron o lannau’r afon yng Nghwm Einion fel rhan o raglen rheoli ledled y cwm ar y cyd â thirfeddianwyr cyfagos.

  • Cynnal cyflenwad cynaliadwy o goed a gwella hyfywedd masnachol hirdymor y goedwig.

  • Buddsoddi yn seilwaith y goedwig i ddarparu gwell mynediad ar gyfer mwy o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith a rheoli teneuo.

  • Diogelu llwybrau cludo coed cyfredol ac ystyried hawliau mynediad cludo a mwynol newydd i gynnal hyfywedd masnachol hirdymor y goedwig.

  • Creu strwythur ac ecosystem coedwig parhaol amrywiol sy’n cynnwys coetir glan afon a brodorol, cronfeydd naturiol, coed a gedwir yn hirdymor, coetir llwyddiannus a chymysgedd o gynefinoedd agored yn cynnwys ffyrdd coedwig a llwybrau marchogaeth, gan ganiatáu dulliau amrywiol o reoli coetir, yn cynnwys ymyrryd cyn lleied â phosibl, ac ardaloedd lle gall prosesau naturiol ddigwydd.

  • Cynyddu pren marw’r goedwig, sy’n cynnal bywyd amrywiaeth yn ecosystem y goedwig.

  • Ehangu cynefinoedd rhos sych a gorgors ger SoDdGA Pen Creigiau a SoDdGA Pumlumon ac ystyried opsiynau rheoli amaeth-goedwigaeth neu bori posibl gyda chysylltiadau â thir cyfagos fel Bwlch Carrog a Phen Carreg Gopa.

  • Adfer, cynnal a chysylltu cynefinoedd rhos sych a gorgors yn rhwydweithiau glan afon Moel y Llyn a Banc Bwlch y Garreg i Afon Einion ac Afon Lluestgota, i helpu i greu cysylltedd cynefinoedd ar gyfer Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop fel y dyfrgi, llygoden bengrwn y dŵr a’r bele.

  • Lleihau newidiadau mewn amodau microhinsoddol rwy reoli’r goedwig yn ofalus yn ac oddi amgylch Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig mwyngloddfeydd Esgair Hir ac Esgair Fraith i helpu i warchod cenau ‘metaloffeit’ prin yn genedlaethol a phlanhigion cysylltiedig.

  • Helpu i warchod tomenni pridd mwynol prin yn genedlaethol yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Nant­y­cagl a’r mwynglawdd cysylltiedig Henfwlch, drwy atal mynediad i gerbydau modur a beiciau modur a chynnal amodau microhinsoddol ar gyfer y cennau prin sydd ar y safle, drwy reoli’r goedwig yn ofalus.

  • Cynnal a gwarchod y boblogaeth o lygod pengrwn y dŵr yn Nant Rhuddlan, gan chwilio am gyfleoedd newydd i wella ac ehangu’r cynefin glan afon.

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wrth gynnal gweithgareddau gweithredol drwy ddilyn arferion gorau fel yr amlinellwyd yng ‘Safon Coedwigoedd y DU – Canllawiau Coedwigoedd a Dŵr’ i warchod ansawdd dŵr ac ecosystemau dŵr croyw yn y goedwig.

  • Ehangu’r rhwydwaith coetiroedd glan afon cyfredol, sy’n darparu llain glustogi yn erbyn gweithrediadau cynaeafu ac yn helpu i wella ansawdd dŵr mewn ecosystemau dŵr croyw.

  • Cynllunio llanerchau cwympo coed llai a defnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith lle bo’n bosibl, i helpu i leihau’r effaith ar ansawdd dŵr, drwy leihau’r risg o waddodi, briglifoedd a llwythi hanfodol mewn dalgylchoedd sensitif i asid, yn ogystal â lleihau’r effeithiau gweledol ar y dirwedd.

  • Lleihau effeithiau andwyol posibl asideiddio ar ecosystemau dŵr croyw yn y 6 chorff dŵr sy’n methu, neu sydd mewn perygl o fethu cyrraedd ‘Statws Ecolegol Da’ yn sgil pH yr ardal, drwy beidio â llwyrgwympo mewn mwy na 20% o’r dalgylch mewn unrhyw gyfnod o dair blynedd.

  • Adfer ardaloedd o fawn dwfn yn Llechwedd Mawr a Phen Creigiau’r Llan ac ehangu cynefinoedd coetir brodorol olynol ar yr ucheldir.

  • Cadw coed a llystyfiant prysgwydd draw o Henebion Cofrestredig ac ymgynghori â CADW ar sut i’w rheoli.

  • Gwarchod pob heneb a nodwedd hanesyddol yn Ardal Tirwedd Hanesyddol Ucheldir Ceredigion wrth gynnal gwaith rheoli’r goedwig.

  • Ystyried effaith weledol gwaith rheoli a chynigion hirdymor yng Nghwm Einion ar olygfeydd o Barc Cenedlaethol Eryri.

  • Gwella gwerth cynefin gweledol a synhwyraidd a thirwedd y goedwig drwy gynyddu amrywiaeth rhywogaethau, dosbarth oedran a chynefinoedd brodorol.

  • Cynnal a gwella cyfleoedd ar gyfer defnyddio ffyrdd a hawliau tramwy cyhoeddus y goedwig yn barhaus yn cynnwys traciau a llwybrau eraill yn y goedwig, i gerddwyr, beicwyr a marchogion.

  • Cynnal Hawliau Tramwy Cyhoeddus sydd wedi’u heffeithio gan waith cynaeafu wedi’i gynllunio yn cynnwys cwympo coed, teneuo ac ailstocio. Bydd unrhyw Hawl Dramwy Gyhoeddus a blannwyd drosti am resymau hanesyddol yn cael ei hailddatgan yn ôl y map diffiniol.

  • Ystyried a hyrwyddo cyfleoedd i gysylltu llwybrau newydd a chyfredol a datblygu cyfleusterau hamdden yn yr ardal gyda thrydydd partïon i helpu i hyrwyddo twristiaeth ac economi’r ardal e.e. llwybrau beicio mynydd rhwng dalgylchoedd Dyfi a Rheidol.

  • Ystyried cyfleoedd i gydweithio â thirfeddianwyr cyfagos, rhanddeiliaid a phrosiectau fel ‘O’r Mynydd i’r Môr’ i ddatblygu blaenoriaethau a chynlluniau a fydd yn gwella cysylltedd a chydnerthedd hirdymor ecosystemau yn y dirwedd ehangach.

  • Parhau i ystyried y potensial ar gyfer prosiectau ynni gwynt o fewn ardal y goedwig sy’n gorgyffwrdd ag Ardal Chwilio Strategol D TAN 8 a’i lain clustogi 5km.

Mapiau

Map lleoliad

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf