Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Crychan yn cwmpasu 2,490 ha ar draws dau brif floc a sawl bloc llai.

  • Mae Coedwig Halfway yn floc 388 ha ychydig i’r gogledd o’r A40 ger tref farchnad Llanymddyfri. Mae’r bloc hwn, sy’n boblogaidd gan gerddwyr a beicwyr, yn darparu ardal hamdden y mae’n gyfleus i’w chyrraedd.
  • Mae De Crychan yn agos at Halfway ac yn cwmpasu 1,276 ha. Gyda rhwydwaith o lwybrau a llwybrau ceffyl, mae gan brif ran Coedwig Crychan werth uchel o ran hamdden. Mae pentref Tirabad wedi’i leoli rhwng Gogledd a De Crychan.
  • Mae Gogledd Crychan yn floc o goed sbriws Sitca 696 ha o faint sy’n agored iawn i’r gwynt. Roedd cyfuniad o briddoedd gwlyb a diffyg cysgod wedi arwain at effeithiau sylweddol oherwydd y gwynt yn y bloc hwn. Gellir gweld y bloc hwn o dref Llanwrtyd yn y cwm islaw.
  • I’r dwyrain o Ogledd Crychan, mae yna floc bach 80 ha o faint o’r enw ‘Maggies’. Yn hanesyddol, mae effaith y gwynt wedi bod yn sylweddol yn Maggies, a choed sbriws Sitca yw’r rhywogaeth fwyaf cyffredin yno.
  • Mae blociau cysylltiedig Allt Neuadd Fach ac Allt y Parc i’r gorllewin o Dde Crychan ac maent yn cwmpasu 10 ha a 44 ha yn y drefn honno. Roedd Allt Neuadd Fach yn floc o goed llarwydd sydd bellach wedi’i gwympo ac mae Allt y Parc yn floc llarwydd a fydd yn cael ei gwympo.

Cyfleoedd oddi mewn y goedwig Crychan

Cynhyrchu Pren

Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren a chynyddu ardaloedd cynhyrchiol trwy gyfrwng dewisiadau ailstocio a strategaethau rheoli coedwig.

Amrywiaeth y Rhywogaethau

Parhau i wella gwytnwch y coetir trwy gynyddu amrywiaeth y rhywogaethau ailstocio pan fo pridd addas i’w gael, er mwyn amddiffyn rhag plâu a chlefydau a lleihau effeithiau newid hinsawdd. Mae cyfleoedd yn bodoli lle mae gwaith cwympo llarwydd yn sgil Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol wedi’i gwblhau.

Adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS)

Parhau i adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS) i gyflwr lled-naturiol trwy blannu coed llydanddail a defnyddio System Goedamaeth Fach ei Heffaith (LISS) mewn ardaloedd sydd â photensial canolig i uchel o allu cael eu hadfer, gan gynorthwyo i gynyddu amrywiaeth y goedwig o ran dosbarth oed a strwythur. Parhau i wella’r cysylltiad rhwng coetiroedd lled-naturiol trwy’r broses hon.

Gwarchod nodweddion ACA a SoDdGA

Ymestyn a datblygu rhwydwaith coetir torlannol er mwyn creu budd o ran ansawdd dŵwr a’r cyfanswm ohono, a hynny i sicrhau bod gwaith coedwigaeth yn cael yr effaith leiaf ar ACA Afon Gwy. Datblygu strategaeth cynnal a chadw ar gyfer SoDdGA llwybrau Coedwig Crychan / Crychan Forest Tracks.

Rhywogaethau a warchodir

Parhau i reoli’r goedwig gan ffafrio pathewod pan fônt yn bresennol.

Iechyd a Lles

Hyrwyddo mynediad at y goedwig a defnydd ohoni ar gyfer pobl leol ac ymwelwyr, er budd lles ac iechyd meddyliol a chorfforol yn unol â’r cynlluniau gwella hawliau tramwy perthnasol.

Gwella’r Cysylltiad Rhwng Cynefinoedd

Parhau i geisio gwella’r cysylltiad rhwng cynefinoedd mewn ardaloedd addas wrth ymyl parthau torlannol, ffyrdd coedwig, Hawliau Tramwy Cyhoeddus a’r Llwybr Cenedlaethol, gan ddefnyddio dulliau rheoli priodol a rhywogaethau brodorol. Bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhywbeth oddi mewn ac oddi allan i adnodd y goedwig (er enghraifft, cysylltu gwrychoedd, cysylltu mawndiroedd a gweddillion coetiroedd hynafol).

Nodweddion Treftadaeth

Nodi parthau effeithiau a lleoliadau nodweddion treftadaeth er mwyn osgoi eu niweidio neu eu cuddio.

Rheoli Ceirw

Rhoi seilwaith ar waith i reoli ceirw er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau cynyddol y gwaith ailstocio ledled Cymru.

Estheteg a’r Dirwedd

Cynnal cymeriad y goedwig o fewn y dirwedd amgylchynol ac ystyried canfyddiad gweledol er budd ymwelwyr a phreswylwyr

Mapiau

Map lleoliad
Map prif amcanion hirdymor
Map systemau rheoli coedwigoedd
Map cynefinoedd a mathau o goedwigoedd dangosol

Diweddarwyd ddiwethaf