Lleoliad a safle

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Cefni a Phentraeth yn cwmpasu'r 4 coedwig o gwympas canolbarth a dwyrain Ynys Môn.

Cefni- Dyma'r goedwig sydd bellaf i'r gorllewin ac mae wedi lleoli i'r gogledd orllewin o dref Llangefni. Mae'n y cwmpwasu 77.7ha o goedwig gynhyrchiol o gwmpas Llyn Cefni.

Pentraeth - Dyma'r aral fwyaf gyda 244.5ha ac mae y rhan fwyaf yn goed pîn neu spriws. Mae yna hefyd ardal fawr i'r gorllewin sydd gyda choed brodorol ac mae'n gynefin gwerthfawr. Mae'r goedwig yn edrych dros Fae Traeth Coch ac mae yn agos at Lwybr Arfordir Cymru, felly mae'n bwysig ran hamdden a thwristiaeth. Mae'r goedwig a'r coed pîn yn gynefin pwsig i Wiwerod coch, glöynnod byw a nifer o rywogaethau ader.

Coed Nant a Cadw - Nid yw'r ardal yma ond 20ha o ochr ddwyreniol Ynys Môn ac i'r Gogledd o dref Biwmares. Mae'r ardal yn cynnwys cymysgedd o goetir hynafol plannu a adfer.

Amcanion a blaenoriaethau

Coedwig

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren trwy gynllunio’r hyn y dylid ei gwympo a thrwy ddewis rhywogaethau ailstocio, o fewn coedwigoedd Cefni a Phentraeth.
  • Pennu ardaloedd mwy o’r goedwig sy’n addas ar gyfer gwaith rheoli Coedwigaeth Gorchudd Parhaol (CCF).
  • Gan fod ardaloedd mawr o Phytophthora i’w cael, bydd yn rhaid cael gwared â bron yr holl elfennau llarwydd yng nghoedwig Cefni. Yn unol â Hysbysiadau iechyd planhigion statudol, bydd hyn yn digwydd yn ystod cyfnod cwympo 2022-26. Clefyd Ramorum (Phytophthora ramorum)
  • Cynyddu amrywiaeth y rhywogaethau mewn sawl ardal yng nghoedwigoedd Pentraeth a Chefni. Mae priddoedd da a natur gysgodol y coedwigoedd yn golygu y gellir sicrhau amrywiaeth da o rywogaethau, a bydd hyn yn gwella cadernid y coedwigoedd ar gyfer y dyfodol.
  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol trwy ddefnyddio dulliau rheoli Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith (LISS). Pan fo’n briodol, dylid ystyried graddfa, maint ac amseru’r gwaith llwyrgwympo, ac osgoi cwympo llennyrch cyfagos pan fo modd.
  • Bydd cnydau hŷn sydd mewn cyflwr gwael yng nghoedwig Pentraeth yn cael eu rheoli trwy gwympo grwpiau bach ohonynt a hefyd trwy ddefnyddio dulliau rheoli Coedwigaeth Gorchudd Parhaol. Bydd agoriadau naturiol yn cael eu clirio, a phe bai angen byddant yn cael eu cyfoethogi er mwyn datblygu’r cylchdro nesaf o gnydau. Bydd coed aeddfed hŷn yn cynnig cysgod a ffynhonnell hadau.
  • Pan fo modd dylid cynnal coridorau awyr trwy ddefnyddio dulliau rheoli Coedwigaeth Gorchudd Parhaol a thrwy gwympo llennyrch llai. Dangosir y strwythur hwn ar Fapiau Systemau Rheoli Coedwigoedd. Bydd hyn yn cyd-fynd ag amcanion hanesyddol i gynnal cynefin ar gyfer poblogaethau’r Wiwer Goch.
  • Gwella’r system deneuo er mwyn sicrhau bod cnydau’n cael eu teneuo ar ôl cyrraedd oedran addas a’u bod yn cael eu hystyried ar gyfer dulliau rheoli Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith yn y dyfodol.

Cynefin

  • Parhau i gynnal coridorau cynefinoedd trwy flociau’r coedwigoedd. Bydd hyn yn helpu i gynnal y cysylltiad rhwng cynefinoedd trwy’r ystad goedwig, a hefyd y cysylltiad gyda choedwigoedd preifat cyfagos. Mae hyn yn hollbwysig o ran cynnal Cynefin y Wiwer Goch ynghyd â rhywogaethau eraill sy’n byw yn y coetiroedd.
  • Lle bo ail plannu’n digwydd, ystyrir rhywogaethau addas ar gyfer manteision cynefin a phren. Mae rhywogaethau fel Sbriws Norwy a Chyll wedi’u hamlygu gel rhai sydd o fudd i boblogaethau Gwiwerod Coch.
  • Sicrhau bod ardaloedd o goed llydanddail yn cael eu cynnal fel cynefin addas ar gyfer nodweddion yr Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) gyfagos.
  • Gwella’r gwaith o fonitro gwiwerod coch. Bydd hyn yn gwella’r data sydd gennym ynglŷn â’r poblogaethau a sut y maent yn newid.

Rheoli coetiroedd hynafol

  • Adfer o safleoedd coetiroedd Hynafol sydd i’w cael yn bennaf yng Nghoed Cadw a Nant. Oherwydd sefydlogrwydd gwael y clystyrau coed a mynediad gwael, bydd hyn yn cael ei reoli trwy lwyrgwympo.
  • Bydd ardaloedd o goetiroedd Hynafol yng nghoedwig Pentraeth yn cael eu rheoli trwy ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith.
  • Bydd rheoli Rhywogaethau Estron Goresgynnol (INNS) fel Rhododendron ar safleoedd coetiroedd Hynafol, yn arbennig yng nghoedwig Pentraeth, yn hanfodol er mwyn cynnal nodweddion coetiroedd hynafol.

Hamdden

  • Parhau i gynnal yr ardaloedd hamdden sydd i’w cael eisoes. Efallai y bydd y gweithrediadau’n amharu rywfaint ar yr ardaloedd hyn, ond gwneir yn siŵr y bydd y llwybrau’n cael eu cau am y cyfnod byrraf posibl. Oherwydd lleoliad coedwig Cefni, mae yna botensial mawr i’w gwella yn ystod y blynyddoedd nesaf ar gyfer cysylltu cymunedau drwy hamdden ac ymgynghori parhaus gyda’r gymuned leol, y gyngor sir a thimau o fewn CNC.
  • Bydd CNC yn gweithio mewn partneriaeth â’r grŵp Asgwrn Cefn/Coridor Gwyrdd er mwyn helpu i ddatblygu llwybr oddi-ar-y-ffordd hygyrch a choridor bywyd gwyllt ar draws Ynys Môn rhwng Coedwig Niwbwrch ac Amlwch, gan gysylltu pobl a chynefinoedd. Bydd rhan o’r cynllun hwn yn cynnwys gwella’r cyfleusterau ar hyd Lôn Las Cefni.
  • Datblygu cyfleoedd a chydweithio gyda phrosiect CNC/Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru sy’n ystyried creu cysylltiadau rhwng dwyrain a gorllewin Ynys Môn.
  • Gwella’r wybodaeth sydd ar gael mewn meysydd parcio yng nghoedwig Cefni fel y gellir cynnig gwybodaeth am lwybrau aml-ddefnydd, er mwyn helpu i wella’r cyfleusterau ar gyfer y cyhoedd.
  • Chwilio am gyfleoedd i gysylltu llwybrau cludo a llwybrau cerdded a beicio.

Rheoli dŵr

  • Bydd datblygu a chynnal coridorau glannau afonydd o amgylch cyrff dŵr yn bwysig ar gyfer rheoli dŵr, o ran ansawdd y dŵr ac o ran rheoli perygl llifogydd, a hefyd bydd yn ychwanegu at goridorau cynefinoedd trwy flociau coetiroedd. Bydd y gwaith rheoli hwn hefyd yn lleihau’r gwaddodion a gaiff eu golchi i’r dŵr, gan leihau’r effaith ar unrhyw ardaloedd cadwraeth morol cyfagos, fel ACA Bae Lerpwl.
  • Bydd yn hanfodol cynllunio’r llennyrch yn ofalus o amgylch coedwig Cefni er mwyn sicrhau na fydd yna unrhyw effaith ar ddŵr yfed a’i gyflenwad.

Tirwedd

  • Bydd datblygu lleiniau clustogi coetiroedd brodorol o amgylch coetiroedd ac ar hyd priffyrdd yn lleihau effaith y coetiroedd ar y dirwedd.
  • Bydd rheoli ardaloedd lle mae coed wedi chwythu drosodd, yn arbennig yng nghoedwig Pentraeth, yn flaenoriaeth gan fod yr ardaloedd hyn yn ddigysgod a chan fod modd eu gweld o bell.
  • Dylid ystyried yr effaith ar yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – yn enwedig ar y dirwedd wrth edrych arni o’r ochr arall i Draeth Coch.

Treftadaeth

  •  Dylid nodi nodweddion treftadaeth a nodweddion diwylliannol er mwyn osgoi eu difrodi.

Crynodeb o’r prif newidiadau fydd yn digwydd yn y goedwig

  • Llwyrgwympo'r llarwydd oherwydd Phytophthora ramorum, yn anffodus oherwydd rhybudd iechyd planhigion statudol, bydd clirio'r llarwydd yn digwydd yng Nghefni erbyn Mawrth 2022.
  • Mwy o ddefnydd o ddulliau Coedwigaeth Gorchudd Parhaus i reoli cyplyddion cynhyrchiol.
  • Adfer Safleoedd Coetir Hynafol yn enwedig y rhai yng Nghoed Nant a Cadw.

Mapiau

Map Lleoliad

Cefni - Map y strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo coed
Cefni - Map mathau o goedwigoedd ac ailblannu
Cefni - Map gweledigaeth hirdymor 

Pentraeth - Map y strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo coed
Pentraeth - Map mathau o goedwigoedd ac ailblannu
Pentraeth - Map gweledigaeth hirdymor 

Coed Nant a Cadw - Map y strategaeth rheoli coedwigoedd a chwympo coed
Coed Nant a Cadw - Map mathau o goedwigoedd ac ailblannu
Coed Nant a Cadw - Map gweledigaeth hirdymor

Diweddarwyd ddiwethaf