Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Carno yn cynnwys 6 choetir ym Mhowys sy'n cynnwys tua 324 hectar. Ar y cyfan, glaswelltir heb ei wella yw’r coetiroedd ar gopaon y bryniau, a choetir brodorol ar hyd gwaelod y dyffrynnoedd. Mae cyfran fawr o'r coetiroedd yn blanhigfeydd conwydd, gyda thros 56% yn goetir sbriws, gyda rhywfaint o ffynidwydd, pinwydd, a llarwydd. Mae 17 hectar yn Blanhigfa ar Safleoedd Coetir Hynafol (PAWS) neu Goetiroedd Lled-Naturiol Hynafol (ASNW).

Crynodeb o'r amcanion

  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren drwy gynllunio pa rywogaethau i’w dewis ar gyfer cwympo ac ailstocio.
  • Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau'r goedwig i gynyddu eu gallu i wrthsefyll plâu a chlefydau ac ar yr un pryd creu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol trwy reoli systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith lle bo'n briodol ac ystyried graddfa, maint ac amseriad unrhyw waith llwyrgwympo, gan osgoi cwympo llennyrch cyfagos. Dylid cadw conwydd hŷn lle bo modd er mwyn cynnal strwythur a photensial cynhyrchiol coedwig
  • Cynyddu ardaloedd a nodwyd ar gyfer teneuo o fewn y cynllun teneuo 5-mlynedd i alluogi rheolaeth systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith ac adfer PAWS.
  • Defnyddio’r rhwydwaith ffyrdd a pharthau glannau afon cyfredol er budd bioamrywiaeth trwy greu cysylltiadau â chynefin agored.
  • Gwella cysylltedd cynefinoedd trwy gynnal a gwella ardaloedd o goetir lled-naturiol hynafol ac adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol, yn unol â pholisi blaenoriaethu strategol. Defnyddio cyfleoedd i gysylltu coetir llydanddail â chynefinoedd gwrychoedd a gwella gwytnwch.
  • Rheoli pren marw yn unol â'r Cynllun Rheoli Pren Marw.
  • Pan fo'r prif gnwd o goed llarwydd wedi'i gynaeafu'n rhy gynnar, hwyluso'r broses o ehangu coetiroedd brodorol. Mae ailstocio'r ardaloedd hyn yn flaenoriaeth allweddol i sicrhau nad oes unrhyw golled net o orchudd coedwig.
  • Ni ddylai rheolaeth coedwigaeth achosi unrhyw ostyngiad mewn ansawdd dŵr o fewn nodweddion dŵr ar y safle a chyrsiau dŵr sy'n draenio oddi ar y safle trwy arfer coedwigaeth da yn unol â Safon Coedwigaeth ddiweddaraf y DU a chanllawiau coedwigaeth perthnasol.
  • Cynnal a gwella defnydd hamdden - [yn unol â'r Cynllun Rheoli Hamdden a Mynediad].
  • Cynllunio maint a phryd y bydd llennyrch yn cael eu cwympo ac ailstocio er mwyn osgoi effeithiau ar gyflenwadau dŵr yfed cyfredol a rhai i’r dyfodol.
  • Nodi nodweddion treftadaeth a diwylliannol i osgoi difrod yn ystod gweithrediadau.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf