Cynllun Adnoddau Coedwigaeth Bannau Brycheiniog Dwyrain - Cymeradwywyd 1 Gorffennaf 2021

Lleoliad ac ardal

Mae Cynllun Adnoddau Coedwig Dwyrain Bannau Brycheiniog yn cwmpasu 385.94 hectar ac mae’n cynnwys wyth o goetiroedd yn Sir Fynwy; pump ohonynt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gorwedda’r coetiroedd i’r gorllewin a’r de o’r Fenni, ac i’r gogledd a’r dwyrain o Flaenafon.

Mae’r coetiroedd yn sefyll ar gymysgedd o dir fferm wedi’i wella, gwrychoedd, a choetiroedd llydanddail eraill, yn ogystal â rhywfaint o dir comin heb ei wella a llethrau dyffrynnoedd serth y Blorens, a Mynydd Garnclochdy.

Crynodeb o'r amcanion

  • Amrywio cyfansoddiad rhywogaethau coedwig er mwyn cynyddu gwydnwch i blâu a chlefydau, ac effeithiau'r newid yn yr hinsawdd, wrth adeiladu coedwig gadarn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Gwaredu lleiniau llarwydd sy'n weddill a rheoli coed ynn yn briodol ar gyfer clefyd (chalara) coed ynn.

  • Cynyddu amrywiaeth adeileddol trwy reolaeth Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith ac aildyfiant naturiol lle mae hynny'n briodol, ac ystyried graddfa, maint ac amseru unrhyw waith llwyrgwympo, gan osgoi cwympo unrhyw lennyrch cyfagos.

  • Cynnal a gwella ardaloedd o goetir lled-naturiol hynafol ac adfer planhigfeydd ar safleoedd coetir hynafol trwy ddileu coed conwydd yn raddol dros amser, gan ddefnyddio Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith a rheolaeth drwy deneuo coed lle bo'n bosibl, yn unol â'r Cynllun Rheoli Coetir Hynafol. Gwaredu lleiniau o hemlog y gorllewin, thwiâu plethog, rhododendron a derw coch lle maent yn cael effaith negyddol ar adfer coetir hynafol.

  • Defnyddio a gwella'r rhwydwaith presennol o ffyrdd, rhodfeydd a glannau afonydd er budd bioamrywiaeth, trwy greu cysylltiadau â chynefinoedd agored ac agor yr ardaloedd hyn i gynyddu faint o fannau agored sydd yn y coetiroedd. Gwaredu coed conwydd sy'n ennill tir ac yn gorgysgodi parthau glan yr afon a chynnal rhodfeydd.

  • Buddsoddi mewn seilwaith coedwigaeth i ddarparu gwell mynediad er mwyn caniatáu am fwy o ragnodiadau rheoli amrywiol ar y safleoedd coetir hynafol hyn.

  • Defnyddio cyfleoedd i gysylltu a gwella cynefinoedd o fewn ac yn agos i goetiroedd y Cynllun Adnoddau Coedwig er mwyn gwella gwydnwch a chysylltedd, megis cysylltu coetir llydanddail â gwrychoedd a chynefinoedd coetir cyfagos a chreu cynefinoedd ymylol amrywiol lle maent yn ffinio â glaswelltir rhos ucheldirol.

  • Sicrhau nad yw gweithrediadau coetir yn effeithio'n negyddol ar rywogaethau adran 7 sy'n bresennol mewn blociau sy’n rhan o’r Cynllun Adnoddau Coedwig neu ardaloedd gwarchodedig cyfagos, a nodi ffyrdd o wella cynefinoedd a bioamrywiaeth. Rheoli lledaeniad rhywogaethau estron goresgynnol.

  • Cynllunio maint ac amseriad gwaith cwympo llennyrch ac ailstocio er mwyn osgoi effeithiau negyddol ar gyflenwadau dŵr yfed ac ansawdd dŵr croyw presennol ac yn y dyfodol, ac atal gwaddodion dŵr ffo rhag effeithio ar ansawdd dŵr Ardal Cadwraeth Arbennig Afon Wysg.

  • Osgoi amharu ar nodweddion treftadaeth yn ystod gweithrediadau, gan roi sylw arbennig i'r Heneb Gofrestredig yn y Graig a phrif fannau eraill a nodwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent. Rheoli a gwella amwynder cyhoeddus fel y bo'n briodol.

  • Cynyddu cyfleoedd i'r cyhoedd ddefnyddio rhodfeydd a ffyrdd at ddibenion hamdden ar ben asedau presennol.

  • Nodi cyfleoedd i gynnal cyflenwad cynaliadwy o bren trwy gynlluniau cwympo coed a'r dewis o rywogaethau ar gyfer ailstocio lle nad adfer coetiroedd hynafol yw’r brif flaenoriaeth reoli, ac o fewn ardaloedd coetir hynafol lle y bo'n bosibl.

  • Cynyddu swm y pren marw sy'n sefyll ac sydd wedi cwympo ar draws yr ardal trwy arferion rheoli priodol yn ystod gweithrediadau cwympo coed a rheolaeth barhaus yn unol â'r Cynllun Rheoli Pren Marw ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru.

  • Rheoli mawn sydd wedi’i goedwigo yn Wern Fawr yn briodol a lleihau draenio ac amhariaeth.

  • Nodi cyfleoedd i atal stoc rhag cyrchu coetiroedd a chael effaith negyddol ar adfywiad coed.

  • Atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan gynnwys beiciau modur oddi ar y ffordd a thipio anghyfreithlon, rhag effeithio ar y cyfle i fwynhau’r coetiroedd at ddibenion hamdden a rhag cael effaith negyddol ar y pridd a gorchudd tir.

  • Archwilio'r opsiynau ar gyfer gwella mynediad cludiant ac atal niwed i lonydd cul cefn gwlad a chynefinoedd wrth storio pren.

  • Lleihau unrhyw effaith bosibl yn sgil llifogydd trwy ymgysylltu â rhanddeiliaid ac arferion coedwigaeth da, yn unol â The UK Forestry Standard:the government’s approach to sustainable forestry (2017); a Chanllaw Arfer 25 yr UKFS a'r Comisiwn Coedwigaeth, Managing forest operations to protect the water environment.

Crynodeb o’r prif newidiadau a fydd i’w cael yn y goedwig

  • Llwyrgwympo llarwydd a choed conwydd eraill yn ystod y deng mlynedd nesaf

  • Mwy o goed llydanddail ar hyd coridorau afonydd

  • Adfer Coetir Hynafol

Mapiau

Map lleoliad

Prif amcanion hirdymor 

Systemau rheoli coedwigoedd

Cynefinoedd a mathau o goedwigoedd Dangosol

Diweddarwyd ddiwethaf