Cynllun Adnoddau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (Canolog)

Lleoliad ac ardal  

Mae uned cynllun adnoddau Coedwig (Canolog)  Bannau Brycheiniog  yn 2335 hectar sy’n cynnwys 8 bloc o goedwig amlwg;  Talybont, Coety, Taf Fechan, Gwaun y Geifr, Dyffryn Crawnon, Llanddeti, Treberfedd and Cwm Glaisfer.  Fe leolir yr uned cynllunio yn gyfan gwbl o fewn Bannau Brycheiniog yn union i’r de o’r  A40 yn agos i gymunedau Talybont-ar-Wysg a Llangyndir, ac i’r gogledd o'r A465, Ffordd y Blaenau.

Mae’r cynefin cyfagos pennaf yn ucheldir glaswelltiroedd o fynyddoedd Bannau Brycheiniog a thir fferm heb ei drin o boptu’r ardal yn enwedig yn y Gorllewin, gyda fferm dir amgaeedig wedi’i wella yng Ngogledd Ddwyrain y cynllun gydag ychydig o lethrau rhedynog, coedwigoedd bach a rhwydwaith o wrychoedd ar hyd yr Afon Wysg a Crawnon. 

Mae ardal y cynllun adnoddau goedwig (FRP) yn gyfan gwbl  o fewn ffin  awdurdod  cynllunio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog . 

Crynodeb o’r amcanion

  • Ansawdd dŵr yw prif sbardun y cynllun adnoddau goedwig (FRP) hwn, yn arbennig o amgylch Talybont a Thaf Fechan
  • Parhau i weithio mewn partneriaeth â Dŵr Cymru I ymchwilio i opsiynau rheoli sy’n canolbwyntio ar wella ansawdd dŵr o amgylch cronfeydd dŵr.
  • Parhau i gynnal cyflenwad cynaliadwy o gynhyrchiant coed drwy gynllunio’r torri a’r dewis o rywogaethau i’w hailblannu.
  • Parhau i amrywio cyfansoddiad rhywogaethau’r goedwig er mwyn cynyddu’i gwytnwch yn erbyn plâu a chlefydau, gan adeiladu coedwig gydnerth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
  • Cynyddu amrywiaeth strwythurol drwy reolaeth LISS (systemau coedwigaeth effaith isel) lle bo hynny'n briodol ac ystyried graddfa, maint ac amseriad unrhyw gwympglirio er mwyn osgoi cwympo clystyrau cyfagos. Dylid cadw cnydau hŷn o gonwydd lle bo modd er mwyn cynnal strwythur y goedwig a’i photensial cynhyrchiol.
  • Cynyddu’r meysydd a nodwyd ar gyfer teneuo o fewn y cynllun teneuo 5 mlynedd er mwyn galluogi rheolaeth LISS ac adferiad Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS). Bydd cynyddu’r gwaith o deneuo coed nid yn unig yn lleihau’r risg o dywyllu Planhigfeydd ar Safleoedd Coetir Hynafol ond hefyd yn lleihau’r angen i lwyr gwympo  yn y dyfodol  a chadarnhau  sadrwydd celli, lle bo hynny’n bosibl, drwy drawsnewidiadau hwyr i Systemau Goedamaeth Fach ei Heffaith.
  • Manteisio ar gyfleoedd i leoli coetiroedd llydanddail er mwyn cysylltu cynefinoedd gwrychoedd a gwella gwytnwch.
  • Defnyddio'r rhwydwaith ffyrdd a pharthau torlannol presennol er budd bioamrywiaeth drwy greu cysylltiadau â chynefinoedd agored.
  • Gwella cysylltedd cynefinoedd trwy gynnal a gwella ardaloedd o goetir hynafol lled-naturiol ac adfer planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol yn unol â pholisi blaenoriaethu strategol. Hwyluso ehangu coetiroedd brodorol mewn mannau lle mae'r prif gnwd o larwydd wedi gorfod cael eu cynaeafu cyn pryd. Mae ailstocio'r ardaloedd hyn yn flaenoriaeth bwysig er mwyn sicrhau nad oes unrhyw golled net o orchudd coedwig. Mae lle i ehangu ac amrywio rhannau llydanddail o'r coetir er mwyn cynorthwyo i ddarparu cynefinoedd lle bo hynny'n bosibl.
  • Cynnal a gwella defnydd hamdden yr ardal.
  • Cynnal llinellau gweld agored ar gyfer golygfanau ac ar hyd llwybrau hamdden.
  • Nodweddion  diwylliannol a threftadaeth i’w cael eu dynodi er mwyn osgoi difrod.
  • Henebion Rhestredig  (SAMS) i’w cael eu rheoli yn unol â chynlluniau rheoli. 

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf