Lleoliad a safle

Cyfanswm arwynebedd ardal cynllun adnoddau coedwig Aberhirnant a Llangywer yw 2,059 hectarau, ac fe'i lleolir i'r de-ddwyrain o Lyn Tegid, ar ochr ogleddol mynyddoedd y Berwyn.

Mae'r goedwig yn gorwedd mewn dau ddalgylch afon: afon Hirnant i'r dwyrain, sy'n llifo i afon Dyfrdwy, ac afon Glyn i'r gorllewin, sy'n llifo i mewn i Lyn Tegid. Mae hefyd yn cynnwys coetir bach, sef Coed Bryn-hynod, sydd ar lan ddeheuol Llyn Tegid.

Gellir mynd at y goedwig o ffordd gyngor fach sy'n mynd o’r gogledd i'r de, o'r Bala i Lyn Efyrnwy. Mae maes parcio a safle picnic bach wrth ochr afon Hirnant. Gellir hefyd gyrraedd y goedwig o bentref Llangywer ar hyd ffordd gyngor fach.

Mae ardal gyfan y cynllun adnoddau coedwig wedi’i lleoli yn Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Crynodeb o'r amcanion

Cytunwyd ar yr amcanion rheoli canlynol er mwyn cynnal a gwella gwydnwch ecosystemau a'r manteision y maent yn eu darparu:

  • Arallgyfeirio cyfansoddiad rhywogaethau'r goedwig drwy hyrwyddo strategaeth ailstocio fwy amrywiol, a fydd yn cynnwys mwy o amrywiaeth o goed llydanddail cynhenid a chnydau conwydd cynhyrchiol.

  • Gwella strwythur mewnol y goedwig drwy ddatblygu amrywiaeth dosbarth ac oedran, amrywiaeth o safbwynt meintiau coed a chymysgedd o rywogaethau o fewn clystyrau.

  • Arallgyfeirio mathau o goetir o fewn y goedwig, drwy gynyddu'r amrywiaeth o goetir coed conwydd ac ehangu cynefinoedd coetir cynhenid a thorlannol, a fydd yn helpu i wella cysylltedd o fewn y goedwig a darparu cyfleoedd ar gyfer cysylltu â rhwydweithiau coetir y tu allan i'r goedwig yng Nghwm Hirnant ac o amgylch Llyn Tegid.

  • Cael gwared ar unrhyw larwydden sydd wedi'i heintio gan Phytophthora ramorum a chynllunio ar gyfer gwaredu yn y pen draw yr ardaloedd â nifer sylweddol o goed llarwydd sy'n weddill o dan y Strategaeth Lleihau Coed Llarwydd.

  • Cynnal hyfywedd masnachol hirdymor y goedwig, drwy gynllunio cyflenwad cynaliadwy o bren. Gwella ansawdd pren ac arallgyfeirio cynhyrchion i farchnadoedd mwy lleol.

  • Buddsoddi mewn seilwaith coedwig i ddarparu gwell mynediad i alluogi mwy o systemau coedamaeth bach eu heffaith a gwaith rheoli teneuo coed.

  • Diogelu’r llwybrau cludo pren presennol ac archwilio llwybrau mynediad ymarferol i flociau coedwig ynysig yng Nghwm Hirnant.

  • Creu strwythur coedwig ac ecosystem barhaol ac amrywiol sy'n cynnwys coetir cynhenid a thorlannol, gwarchodfeydd naturiol a choed sy’n cael eu cadw ar gyfer yr hirdymor, gyda mwy o goetir olynol a chynefinoedd agored ar hyd ffyrdd coedwig a rhodfeydd lle y gall prosesau naturiol ddigwydd.

  • Cynyddu swm y prennau marw yn y goedwig, sy'n cefnogi bywyd amrywiol yn ecosystem y goedwig.

  • Rheoli'r ffin rhwng y goedwig ac Ardal Cadwraeth Arbennig/Ardal Gwarchodaeth Arbennig y Berwyn a De Clwyd er budd ac amodau ffafriol rhostir sych a chynefinoedd gorgors ac adar gwarchodedig gan gynnwys adar ysglyfaethus a'r Grugiar Ddu. Ystyried opsiynau gwahanol ar gyfer rheoli fel clustogfeydd coetir olynol cynhenid i leihau effaith coed conwydd sy'n hadu ar yr Ardal Cadwraeth Arbennig.

  • Ehangu'r rhwydwaith coetir torlannol sy’n bodoli eisoes i ddarparu gwell dull clustogi yn erbyn gweithrediadau cynaeafu ac i helpu i wella ansawdd dŵr mewn ecosystemau dŵr croyw.

  • Sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wrth gynnal gweithgareddau gweithredol trwy ddilyn yr arfer gorau fel y'i nodir yn ‘Safon Coedwigaeth y DU – Canllawiau Coedwigaeth a Dŵr’ i warchod ansawdd y dŵr a'r ecosystemau dŵr croyw yn y goedwig.

  • Cynllunio llennyrch cwympo coed llai a defnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith lle y bo'n bosibl, er mwyn helpu i leihau’r effaith ar ansawdd dŵr yn ardal ehangach prosiect LIFE afon Dyfrdwy, drwy leihau'r risg o waddodi, llifau brig, yn ogystal â lleihau effeithiau gweledol ar y dirwedd.

  • Adfer pob safle coetir hynafol trwy ddileu coed conwydd yn raddol dros gyfnod, gan ddefnyddio systemau coedamaeth bach eu heffaith a gwaith rheoli teneuo coed lle bo'n bosibl.

  • Gwarchod pob heneb a nodweddion hanesyddol wrth gynnal gweithrediadau rheoli coedwigoedd.

  • Ystyried yr effeithiau gweledol ar weithrediadau rheoli a chynigion hirdymor ar olygfeydd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri.

  • Gwella gwerth cynefin tirwedd, synhwyraidd a gweledol y goedwig trwy gynyddu coetir cynhenid ar hyd Cwm Hirnant a Chwm y Glyn.

  • Cynnal llwybrau a chyfleusterau hamdden sy'n bodoli eisoes yn y goedwig.

  • Cynnal a gwella cyfleoedd ar gyfer defnydd parhaus o ffyrdd coedwig a hawliau tramwy cyhoeddus gan gynnwys llwybrau eraill o fewn y goedwig, ar gyfer cerddwyr, beicwyr a marchogwyr.

  • Cynnal hawliau tramwy cyhoeddus y mae gweithrediadau cynaeafu yn effeithio arnynt, megis cwympo, teneuo ac ailstocio coed.

  • Ymchwilio i gyfleoedd i gydweithio â thirfeddianwyr cyfagos, rhanddeiliaid ac ar brosiectau megis 'prosiect LIFE afon Dyfrdwy' er mwyn datblygu blaenoriaethau a chynlluniau a fydd yn gwella gwydnwch hirdymor a chysylltedd yr ecosystemau yn y dirwedd ehangach.

  • Parhau i archwilio'r potensial am brosiectau ynni dŵr bach fel sydd yng Nghwm Hesgen.

Mapiau

Sylwadau neu adborth

Os oes gennych sylwadau neu adborth, gallwch gysylltu â’r tîm Cynllunio Adnoddau Coedwig ar frp@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf