Mae Ystâd Goed Llywodraeth Cymru yn eiddo i Weinidogion Cymru ac yn cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Rydyn ni'n rheoli'r ased cyhoeddus sylweddol hwn fel ei fod yn gallu darparu amrywiaeth eang o fanteision i ni i gyd.

Mae ein gwaith rheoli ar eich coedwigoedd yn cael ei lywio gan fframwaith o ddeddfwriaeth a pholisi. Edrychwch ar ein cynlluniau arfaethedig ar gyfer yr Ystâd Goed a rhowch sylwadau arnynt.

Cymerwch ran

Rydyn ni'n eich annog chi i ddylanwadu ar ein gwaith ac i gymryd rhan. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth trwy ddilyn y ddolen i 'Coetiroedd a chi'.

Os hoffech gysylltu â’r Tîm Rheolaeth Coedwigaeth Gynaliadwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, gallech anfon eich ymholiad at sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf