Rydym wedi cwblhau'r gwaith i sicrhau bod pedair cronfa ddŵr yng Nghoedwig Gwydir ger Betws-y-coed yn parhau’n ddiogel yn y tymor hir.

Y cronfeydd dŵr yw:

Dengys y Cynllun hwn leoliad y pedair cronfa ddŵr ar gyfer y gwaith fydd yn cynnwys:

  • Cryfhau'r argloddiau
  • Adeiladu gorlifannau
  • Gwella mynediad at y cronfeydd

Mae hwn yn rhan o’n gwaith i reoleiddio cronfeydd dŵr o dan Ddeddf Cronfeydd Dŵr 1975 ac mae’n rhan o raglen ehangach o waith diogelu cronfeydd dŵr ledled Cymru.

Caiff cronfeydd dŵr Gwydir eu harolygu’n rheolaidd i’w cadw’n ddiogel. Y tro diwethaf y’u harolygwyd, codwyd rhai pwyntiau ynghylch digonolrwydd y cronfeydd dŵr i wrthsefyll digwyddiadau eithafol.

Er nad oes unrhyw bryderon cyfredol, rydym yn edrych ar ffyrdd o sicrhau cyfanrwydd y strwythurau yn y tymor hir.

Gwneir y gwaith fesul dipyn ar draws y safleoedd er mwyn aflonyddu cyn lleied â phosibl ar dirfeddianwyr, y bobl leol a defnyddwyr hamdden y goedwig.

Rydym yn gwbl ymwybodol o natur amgylcheddol-sensitif yr ardaloedd a bydd pob gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd sy’n ystyried yr amgylchedd naturiol ac, os oes modd, yn ei wella.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith ar y wefan hon yn rheolaidd.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach yn y man hwn, rhowch wybod inni drwy e-bostio

gwydir.reservoirs@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf