Cors Crymlyn

Y prosiect

Mae prosiect corsydd crynedig LIFE yn brosiect pum mlynedd sydd wedi’i ariannu gan yr UE ac sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, a’i amcan yw adfer mawndir, corsydd crynedig a’u tirweddau o wlyptiroedd ategol ehangach i statws cadwraeth ffafriol. Daw’r enw 'corsydd crynedig' o’r ffaith fod y ddaear yn ‘crynu’ dan draed pan fo'r amodau'n gywir.

Gweithredir y prosiect mewn partneriaeth gan CNC, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Parc Cenedlaethol Eryri a'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Mawndir yw adnodd tir mwyaf gwerthfawr Cymru gan ei fod yn storio 30% o'r carbon sydd yn y tir. Amcangyfrifir bod 90% o fawndir Cymru, sy’n gorchuddio tua 4% o’r wlad, mewn cyflwr sy'n dirywio ac yn allyrru nwyon tŷ gwydr sy'n cyfrannu at newid hinsawdd.

Aseswyd bod y cynefin yn 'anffafriol' yn yr holl safleoedd a ddewiswyd. Achosir amodau o’r fath yn aml gan fod y tir yn cael ei or-bori gan anifeiliaid. Mewn rhai achosion, mae pori annigonol wedi arwain at blanhigion pwysig yn cael eu llethu gan rywogaethau trechol neu oresgynnol. Ffactorau eraill sy'n effeithio ar y safleoedd yw rhoi'r gorau i reoli tir, draenio gwael a llygredd dros ardal eang.

Saith safle prosiect Corsydd Crynedig:

  • Cors Crymlyn
  • Comins Gogledd Orllewin Sir Benfro
  • Preseli
  • Rhos Goch
  • Corsydd Eifionydd
  • Gweunydd Blaencleddau
  • Cors Caron

Y camau a gymerwn

Bydd prosiect Corsydd Crynedig yn mynd i'r afael ag amodau dŵr gwael ar y saith safle drwy adfer systemau draenio a llif hanesyddol - mewn rhai achosion dod â mwy o ddŵr i gors, ac mewn achosion eraill ei symud oddi yno.

Yn ystod oes y prosiect bydd tua 65 km o waith ffensio a seilwaith arall yn cael ei osod ar draws y safleoedd a fydd yn caniatáu’r lefelau cywir o bori cynaliadwy.65

Bydd gwaith torri glaswellt, crafu a chloddio yn digwydd er mwyn cael gwared o lystyfiant a rhywogaethau goresgynnol annymunol sydd ar hyn o bryd yn llethu'r planhigion a'r mwsoglau pwysig sy'n creu'r 'corsydd crynedig' hyn.

Bydd ymgysylltiad helaeth â rhanddeiliaid a’r gymuned yn cyd-fynd â'r gwaith arfaethedig er mwyn cynyddu lefelau dealltwriaeth, gwerthfawrogiad ac er mwyn mabwysiadu'r technegau a ddefnyddir i adfer a chynnal pob un o'r safleoedd.

Gwaith cadwraeth

Rheoli tir

Byddwn yn mynd i’r afael ag amodau hydrolegol niweidiol drwy adfer systemau draenio hanesyddol yn yr holl leoliadau, gan wella’r systemau dŵr sy’n gyfrifol am ddatblygu cynefinoedd mignenni pontio a chorsydd crynedig.

Rheoli cadwraeth er budd britheg y gors sydd dan fygythiad.

Byddwn yn rheoli ac yn cael gwared o rywogaethau goresgynnol sy’n gwneud niwed i’r cynefin er mwyn rhoi hwb i boblogaeth britheg y gors.

Trwy osod tua 65 cilometr o ffensys a seilwaith arall, bydd modd sefydlu pori ar y safleoedd ac ar draws y dirwedd ehangach sy’n ategu’r gwlyptir er mwyn cynnal poblogaethau’r gloÿnnod byw.

Paratoi at y dyfodol drwy rannu canfyddiadau

Byddwn yn hyrwyddo ac yn lledaenu canfyddiadau’r prosiect trwy gyfrwng rhaglen rwydweithio, a thrwy ddatblygu a chyhoeddi llawlyfr arferion gorau ar gyfer rheoli mignenni pontio a chorsydd crynedig.

Lliniaru newid hinsawdd

Bydd prosiect Corsydd Crynedig yn mynd i’r afael â’r amodau hydrolegol niweidiol ym mhob un o’r saith safle ac yn gwella’r systemau maethynnau o’r awyr, o ddŵr wyneb ac o ddŵr daear, gan gynnwys datblygu cynlluniau Gweithredu Nitrogen a fydd yn caniatáu inni greu glasbrint i leihau allyriadau nitrogen lleol.

Ymgysylltu â’n cymuned leol

Nod y prosiect fydd helpu’r cyhoedd, rheolwyr tir lleol (yn cynnwys ffermwyr) a rhanddeiliaid eraill i ddeall a gwerthfawrogi pwysigrwydd mignenni pontio, corsydd crynedig, brithegion y gors a nodweddion ACA cysylltiedig, a’u hanghenion cadwraeth.

Bydd aelodau o’r gymuned leol yn cael eu gwahodd a’u hannog i wirfoddoli ar y safleoedd. Bydd rhaglen yn cael ei datblygu i ysgolion i addysgu pobl ifanc am y gwaith o adfer cynefinoedd corsydd crynedig a mignenni pontio.

Canlyniadau’r prosiect

  • Adfer mignenni pontio a chorsydd crynedig ym mhob Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru
  • Sicrhau y bydd statws cadwraethol y cynefinoedd a’r rhywogaethau yn nesáu at statws ‘ffafriol’
  • Torri a chasglu biomas er mwyn lleihau rhywogaethau problemus ac arwain at bori gwell
  • Gosod ychwaneg o wlyptiroedd neu nodweddion eraill
  • Rhannu’r canfyddiadau er mwyn gwella’r gwaith o warchod mignenni pontio a chorsydd crynedig yn y dyfodol

Dysgu rhagor am ein prosiect

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Chwiliwch am @LIFEQuakingBogs ar Facebook a Twitter

Darllenwch ein newyddion a’n blogiau

Bywyd newydd i Gorsydd Crynedig

Cylchlythyrau

Cylchlythyr Brosiect Corsydd Crynedig Haf 2023

Cylchlythyr Brosiect Corsydd Crynedig Gaeaf 2022/23

Cylchlythyr Brosiect Corsydd Crynedig Hydref 2022 (govdelivery.com)

Tanysgrifiwch i’n cylchlythyr

Cysylltwch â ni

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch: lifecorsyddcrynedig@cyfoethnaturiol.cymru

Cyllid

Mae prosiect Corsydd Crynedig (LIFE20 NAT/UK/000137) yn cael ei ariannu gan raglen LIFE yr UE a’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru.

Rhoddwyd y prosiect ar waith mewn partneriaeth rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Bydd y prosiect a ddechreuodd ym mis Ionawr 2022 yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2026.

Diweddarwyd ddiwethaf