Rydym ni’n gweithredu’r gorsafoedd pwmpio i wella ansawdd a dibynadwyedd tir amaethyddol trwy ddraenio dŵr yn artiffisial sydd wedi cronni mewn ffosydd draenio a galluogi dŵr i gyrraedd cyrsiau dŵr naturiol yn gynt.

Nid yw’r pympiau’n gallu atal llifogydd, ond maen nhw’n helpu i waredu dŵr llifogydd o’r tir yn gynt nag y byddai’n digwydd yn naturiol.

Adolygiad o’r Gorsafoedd Pwmpio

Yn 2016, fe wnaethom ni gwblhau rhan gyntaf y prosiect Adolygu Gorsafoedd Pwmpio a oedd yn cynnwys asesiad lefel uchel o 19 gorsaf bwmpio yng Ngogledd Cymru.

Bu’r cam hwn yn adolygu perfformiad a buddion pob gorsaf bwmpio o ran rheoli perygl llifogydd i bobl ac eiddo preswyl, ac yna’n datblygu opsiynau rheoli hirdymor ar gyfer pob gorsaf.

Cwblhawyd asesiadau pellach i sicrhau bod y sylfaen dystiolaeth yn gadarn ar gyfer y gorsafoedd pwmpio hyn

Ein hopsiynau cychwynnol ynglŷn â dyfodol gorsafoedd pwmpio Wern-y-Davy, Dolennion a Gwern-y-To yw:

  1. Datgomisiynu’r orsaf/gorsafoedd pwmpio – ar ôl neilltuo am gyfnod yn ystod misoedd y gaeaf i sicrhau nad oes unrhyw effeithiau niweidiol anfwriadol, er enghraifft i unrhyw lwybrau a ddefnyddir gan y cyhoedd.
  2. Trosglwyddo yr orsaf/gorsafoedd pwmpio i berchennog/perchnogion tir.

Rydym ni eisiau clywed gennych chi

Wrth i’r astudiaeth ddatblygu, rydym ni’n awyddus i glywed eich barn er mwyn dod o hyd i’r ateb gorau.

Hoffem glywed eich barn a byddem ni’n ddiolchgar pe gallech gwblhau ein holiadur ar-lein a fydd ar agor tan 22 Mai 2022. Bydd yr ymatebion yn cael eu casglu ynghyd ym mis Mehefin 2022 er mwyn i ni allu ystyried dyfodol pob un o’r gorsafoedd pwmpio.

Pam wnaethom ni gynnal yr adolygiad i’r gorsafoedd pwmpio?

Yn unol â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, rydym ni’n mabwysiadu dull mwy cynaliadwy o reoli perygl llifogydd ac archwilio cyfleoedd i alluogi ein tirwedd i addasu i’r newid yn yr hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi symud o system sy’n seiliedig ar ddulliau traddodiadol o ddraenio tir ac amddiffyn yn unig i ddull sy’n canolbwyntio mwy ar reoli risg. Cefnogir y symudiad hwn tuag at ddull rheoli risg gan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010.  

O ganlyniad, mae angen i Weinidogion Cymru ddatblygu, cynnal a gweithredu strategaeth ar gyfer rheoli risg llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru (Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol i Gymru). Mae angen i ni ystyried opsiynau eraill ar gyfer amddiffyn a draenio a allai leihau tebygolrwydd digwyddiad a chanlyniadau unrhyw ddigwyddiadau o’r fath.

Gallai hyn gynnwys:

  • gwneud mwy o ddefnydd o’r amgylchedd naturiol, megis gwlypdiroedd neu forfa heli;
  • adnabod ardaloedd sy’n addas ar gyfer gorlifo a storio dŵr;
  • cefnogi pobl i gymryd camau i wneud eu hadeiladau, eu tir a’u gweithgareddau’n fwy gwydn i effeithiau llifogydd.

Bydd angen i’r ateb hefyd sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli’n gynaliadwy yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf yr Amgylchedd (Cymru).  

Cadw mewn cysylltiad

Os hoffech unrhyw wybodaeth bellach ynglŷn â’r prosiect neu i dderbyn diweddariadau rheolaidd, cysylltwch â ni: worthenburymeadows@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf