View of flooding in Porthmadog from helicopter

Cydnabyddiaeth i: NPAS (Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu)

Rheoli llifogydd ym Mhorthmadog

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn archwilio opsiynau i reoli’r perygl o lifogydd i Borthmadog a'r cymunedau cyfagos yn y tymor hir yn fwy effeithiol. Rydym yn awyddus i egluro’r perygl llifogydd tymor hir i'r gymuned a sut mae'r prosiect hwn yn gyfle i fynd i'r afael â'r risgiau hyn. Byddwn hefyd yn chwilio am gyfleoedd amgylcheddol, cymdeithasol, ac economaidd ehangach.

Perygl llifogydd ym Mhorthmadog

Mae cymuned Porthmadog a Thremadog mewn perygl oherwydd llifogydd o afonydd ac o’r môr. Wrth i’n hinsawdd newid, rhagwelir y bydd yr ardal hon, fel nifer o gymunedau eraill ledled Cymru, yn wynebu stormydd amlach a mwy o law trwm yn ogystal â chynnydd yn lefelau’r môr. Bydd cynnal y lefel bresennol o amddiffyniad rhag llifogydd i bobl a chartrefi yn her o ystyried tir isel yr ardal a’r amddiffynfeydd presennol rhag llifogydd, sy’n heneiddio.

Ein gwaith

Mae'r prosiect yn adeiladu ar brosiectau ac astudiaethau blaenorol a bydd yn cynnwys asesu amrywiaeth o opsiynau hirdymor i leihau'r perygl o lifogydd o afonydd ac o’r môr i'r gymuned leol. Byddwn yn ystyried ystod o ffactorau ar gyfer yr opsiynau dan sylw, megis cynaliadwyedd, hyfywedd, a fforddiadwyedd. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda byd natur ac i archwilio cyfleoedd i greu cynefinoedd newydd a gwella bioamrywiaeth yn yr ardal. Efallai y bydd cyfleoedd i adfywio'r amddiffynfeydd presennol a'r mannau cyhoeddus cysylltiedig, gan ddarparu buddion ehangach i'r gymuned leol. Rydym eisiau cydweithio i ddod o hyd i atebion a all gynnig dyfodol cynaliadwy i Borthmadog.

Bydd unrhyw benderfyniad ynghylch dyfodol amddiffynfeydd rhag llifogydd ym Mhorthmadog a Thremadog yn rhoi ystyriaeth i Gynllun Rheoli Traethlin Gorllewin Cymru. Mae’r Cynllun Rheoli Traethlin yn darparu’r fframwaith ar gyfer rheoli effeithiau tymor hir llifogydd arfordirol ac ar gyfer Porthmadog, mae’n argymell polisi ‘Cynnal y Llinell’ dros y 100 mlynedd nesaf. Mae ‘cynnal y llinell’ yn golygu adeiladu neu gynnal amddiffynfeydd artiffisial fel bod llinell bresennol y draethlin yn parhau. Mae hyn yn ddibynnol ar fforddiadwyedd a gall olygu newid safonau’r amddiffyniad rhag llifogydd.

Trwy gydol 2022, rydym wedi bod yn diweddaru ein model llifogydd er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r perygl o lifogydd. Gan ddefnyddio'r canllawiau diweddaraf, y cofnodion sydd ar gael ar lif afonydd a'r ffotograffau a dynnwyd yn ystod gaeaf 2015, gallwn ragweld y perygl o lifogydd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ac ystyried y pwysau cynyddol o ganlyniad i newid hinsawdd.  

Mae'r model yn dangos bod mwy o gartrefi a busnesau mewn perygl o ddioddef llifogydd o Afon Glaslyn, o’r Cyt ac o'r môr. Mae hyn yn achos pryder inni oll, a dyna pam y mae CNC yn canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion cynaliadwy i reoli'r risg.

Adborth yr ymgynghoriad

Yn ystod mis Ionawr a mis Chwefror 2023, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar yr allbynnau modelu llifogydd diweddaraf ac opsiynau posibl ar y rhestr hir. Gellir gweld a lawrlwytho'r byrddau gwybodaeth a gyflwynwyd yn ystod yr ymgynghoriad yn yr ystafell rithiol hon

Trefnwyd diwrnodau ymgynghori penodol yng Nghanolfan Gymunedol Porthmadog ar 26 a 27 Ionawr a hysbysebwyd y digwyddiad hwn trwy gylchlythyr trwy'r post a gyflwynwyd i 2476 o gyfeiriadau. Daeth cryn dipyn o bobl, gyda chymysgedd o randdeiliaid allweddol, a thrigolion lleol. Roedd cyfanswm cofrestredig o 67 yn bresennol ddydd Iau 26 Ionawr a daeth 59 ddydd Gwener 27 Ionawr. Cafodd 13 o bobl eraill eu cyfrif ar y cliciwr ar draws y ddau ddiwrnod ond ni wnaethant gofrestru ar ôl cyrraedd. Felly roedd hyn yn gyfanswm o 139 o fynychwyr.  Cafwyd ymateb isel gan fusnesau, tirfeddianwyr lleol, a gan ffermwyr.

Roedd ffurflen adborth ar gael i bawb ar dudalen we canolfan ymgynghori CNC a hefyd drwy Virtual Engage. Dosbarthwyd copïau caled yn ystod y digwyddiad, gydag amlenni rhadbost â chyfeiriadau arnynt. Dychwelwyd cyfanswm o 27 o ffurflenni – 23 yn Saesneg a phedair yn Gymraeg. O'r 23 ymateb Saesneg, roedd naw yn rhai trwy'r post ac 13 ar-lein. Ar gyfer y pedwar ymateb Cymraeg, cafwyd dau trwy'r post a chafodd dau eu cyflwyno ar-lein.

Mae’r adborth a dderbyniwyd yn ystod y digwyddiad wedi’i grynhoi fel a ganlyn:-

  1. Derbyniodd pob opsiwn ar y rhestr hir bleidleisiau, gyda llawer o ymatebwyr yn dewis pob opsiwn yn eu hymatebion. Y tri opsiwn a dderbyniodd y gefnogaeth fwyaf (59%) oedd y canlynol: ‘Uwchraddio Amddiffynfeydd Afonydd’, ‘Gwelliannau i Gyrsiau Dŵr’, ac ‘Atebion Pwmpio’, wedi'u dilyn yn agos gan: ‘Uwchraddio Amddiffynfeydd Arfordirol’ a ‘Gwarchod ar Lefel Eiddo’ ar 52%. Y rhai a dderbyniodd y gefnogaeth leiaf oedd ‘Ailffurfweddu Amddiffynfeydd Arfordirol’ ac ‘Ardal Rhybuddio Llifogydd Newydd’, ar 26% a 22% yn y drefn honno.
  2. Pan ofynnwyd ‘Beth ydych chi'n ei werthfawrogi fwyaf am yr amgylchedd ym Mhorthmadog?’, ‘Bywyd Gwyllt a Natur’ oedd yr ateb mwyaf poblogaidd gyda 67%. Dilynwyd hyn gan ‘Tirwedd a Golygfeydd’ a ‘Hanes a Diwylliant’, a ddewiswyd gan 59% o ymatebwyr, o’u cymharu â’r 37% a ddewisodd ‘Cyfleoedd Hamdden’.
  3. Pan ofynnwyd ‘Sut mae llifogydd yn effeithio arnoch chi yn Ardal Astudiaeth Porthmadog’, roedd y mwyafrif yn pryderu am lifogydd mewn cartrefi (14), a'r effaith ar fusnesau ac economeg gymdeithasol ehangach (7). Roedd 4 sylw yn ymwneud ag yswiriant tŷ a busnes.
  4. Pan ofynnwyd ‘Pam eu bod wedi dewis yr opsiynau ar y rhestr hir?’, cafwyd ymateb cymysg i nifer yr opsiynau a oedd yn cael eu cynnig. Roedd rhai o'r farn ei bod yn bwysig bod pob opsiwn yn cael ei ystyried. Roedd eraill yn meddwl bod y nifer uchel o opsiynau yn dangos diffyg atebion hyfyw. Roedd sylwadau o dan yr adran ‘opsiynau eraill’ yn dangos diffyg hyder y gallai CNC gyflawni'r prosiect a diffyg hyder y byddai digon o arian ar gael.
  5. Pan ofynnwyd ‘A oes gennych unrhyw bryderon ynghylch yr opsiynau ar y rhestr hir?’, awgrymwyd opsiynau amgen gan rai ymatebwyr. Roedd hyn yn cynnwys carthu'r harbwr, adeiladu arllwysfeydd ychwanegol i gynyddu capasiti, a hwyluso ynni'r llanw. Y prif bryder oedd cost a diffyg cyllid (5). Roedd rhywfaint o amheuaeth ynghylch y mapiau sy’n darlunio’r perygl neu’r risg o lifogydd.

Newyddion Prosiect Diweddaraf

Newyddion Diweddaraf am y Prosiect

Yn ystod 2023, rydym wedi bod yn adolygu canfyddiadau ein model llifogydd ac yn defnyddio adborth cymunedol i ddatblygu rhestr o opsiynau cynllun posibl i leihau perygl llifogydd i bobl a chartrefi. Dros y 12 mis diwethaf, rydym hefyd wedi bod yn:

  • Cynnal arolygon amgylcheddol pellach fel rhan o gasglu tystiolaeth.
  • Cynnal cyfarfodydd unigol gyda rhanddeiliaid cymunedol a thechnegol.
  • Ymgynghori â Chyrff Statudol.
  • Ceisio adborth gan beirianwyr sifil ac arbenigwyr technegol.
  • Gweithio gyda phartneriaid lleol i gasglu profiadau byw a mewnwelediadau.
  • Trafodaethau parhaus ac ymweld ag ysgolion lleol Porthmadog (Uwch ac Is), gan weithio gyda thîm addysg CNC.

Gan ddefnyddio’r dystiolaeth a’r adborth a gasglwyd hyd yma, a gweithio gyda rhanddeiliaid, byddwn yn gwerthuso’r rhestr hir hon o opsiynau i lunio Rhestr Fer arfaethedig. Bydd y broses hon yn ystyried effeithiau hirdymor cynnydd yn lefel y môr, newid yn yr hinsawdd, gwerth am arian, a hyfywedd cyfreithiol a thechnegol. Rydym yn bwriadu rhannu canfyddiadau’r asesiad drafft a’r Rhestr Fer ddrafft o opsiynau a argymhellir, i’w hystyried ymhellach gyda’r gymuned, yn ddiweddarach yn 2024.

Golygfa o Afon Glaslyn, Llyn Bach a’r Cob

Golygfa o Afon Glaslyn, Llyn Bach a’r Cob

Cadw mewn cysylltiad

Byddwn yn rhoi diweddariadau ar y prosiect ar y dudalen we hon.

Cysylltwch os hoffech wybod mwy a rhannu eich syniadau â ni yn ogystal â chofrestru i dderbyn diweddariadau ar gynnydd yn y dyfodol:

Ebost: risgllifogydd.porthmadog@grasshopper-comms.co.uk

Ffôn: Andrew Basford, Rheolwr (Dysgwr Cymraeg) ar 03000 65 3846 neu Sharon Parry, Swyddog Cymorth Tîm y Prosiect (Siaradwr Cymraeg) ar 03000 65 5264.

Gallwch ysgrifennu atom hefyd:

Sharon Parry
Cyfoeth Naturiol Cymru,
Swyddfa Bangor,
Maes y Ffynnon,
Penrhosgarnedd,
Gwynedd,
L57 2DW

Diweddarwyd ddiwethaf