Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Cyfrifoldebau rheoleiddio

Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod rheoleiddio yng Nghymru ar gyfer amrywiaeth eang o ddeddfwriaeth amgylcheddol

Rydym yn gyfrifol am fwy na 40 o fathau gwahanol o gyfundrefnau rheoleiddio ar draws amrywiaeth eang o weithgareddau.

Ymhlith yr enghreifftiau mae:

  • diwydiannau mawr (purfeydd, cemegion, sment, gorsafoedd ynni, haearn a dur, bwyd a diod ac ati)
  • diwydiant gwastraff (storio, trin, gwaredu)
  • Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - caniatadau a chydsyniadau
  • sylweddau ymbelydrol (niwclear ac fel arall)
  • trwyddedu rhywogaethau a warchodir gan Ewrop
  • trwyddedu morol
  • trwyddedu cwympo coed
  • gollyngiadau dŵr (dŵr wyneb a dŵr daear)
  • adnoddau dŵr (tynnu, cronni, sychder)
  • rheoliadau deunydd pacio a chynlluniau masnachu'r UE/DU
  • pysgodfeydd masnachol (llyswennod, eogiaid a physgod cregyn)
  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy - cyfyngiadau ar fynediad, tir mynediad agored

Rydym yn cyflwyno trwyddedau, yn cynnal asesiadau o gydymffurfiaeth a, lle bo angen, yn cymryd camau gorfodi ffurfiol ar gyfer y rhan fwyaf o'r gweithgareddau hyn. Rydym hefyd yn rheoleiddio rhai gweithgareddau lle mae'r gofynion wedi'u cynnwys mewn deddfwriaeth yn hytrach nag mewn trwyddedau safle benodol; er enghraifft, y system dyletswydd gofal o ran gwastraff.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Polisi Gorfodi ac Erlyn WORD [118.8 KB]
Dewisiadau Ymateb i Drosedd (Saesneg yn unig) WORD [431.7 KB]
Canllawiau ar Orfodi a Chosbau. Atodiad 4 Enghreifftiau o dramgwyddau a’r opsiynau ar gyfer ein hymateb gorfodi WORD [155.1 KB]
Siarter Archwilio Mewnol Mae’r Siarter hon yn disgrifio’r pwrpas, yr awdurdod a’r cyfrifoldeb sydd gan dîm Archwilio a Sicrhau Risg Cyfoeth Naturiol Cymru. WORD [1.2 MB]

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.