Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Llanfair Talhaiarn - cynllun rheoli perygl llifogydd

Darllenwch y cefndir a'r hyn a gynigir fan hyn

Cefndir

Gwelwyd llifogydd pellach ym mhentref Llanfair Talhaearn (TH) ym mis Tachwedd 2012 pan chwyddodd Nant Barrog o ganlyniad i law eithafol gan orlwytho cwlfert Water Street; effeithwyd ar 19 o gartrefi a busnesau o ganlyniad i’r llifogydd.

Roedd hyn yn dilyn llifogydd blaenorol yn y pentref ym mis Ebrill 2012 ynghyd â digwyddiadau eraill a gofnodwyd o fewn y 50 mlynedd diwethaf.

Ar sail modelu, amcangyfrifwyd bod llifogydd Tachwedd 2012 â siawns blynyddol o un ym mhob 50 o ddigwydd. Ond, fel y dangosir gan amlder achosion llifogydd yn y pentref, credir bod Llanfair TH mewn perygl o lifogydd ar Nant Barrog gyda siawns blynyddol o un ym mhob 20 o ddigwydd o ganlyniad i orlwytho cwlfert Water Street.

Caiff y perygl llifogydd ei waethygu gan rwystr yn y sgrin sbwriel, ar draws cilfach cwlfert Water Street.

Llifa’r afon Elwy ar hyd ymyl Gogleddol y pentref. Adroddwyd bod llifogydd yr Elwy yn Nhachwedd 2012 â siawns blynyddol o rhwng un ym mhob cant ac un ym mhob dau gant. Amddiffynnwyd Llanfair TH rhag llifogydd pellach o’r Elwy ym mis Tachwedd 2012 gan amddiffynfeydd rhag llifogydd a oedd yn bodoli eisoes - effeithiwyd y pentref gan lif Nant Barrog yn unig.

Gwaith ers 2012

Ers y llifogydd yn 2012, rydym wedi ymgymryd â gwaith yn y pentref i wella gwytnwch rhag perygl llifogydd ac i leihau’r perygl.

Rydym wedi cwblhau gwerthfawrogiad o’r perygl llifogydd, gan ddefnyddio gwasanaethau’r ymgynghorydd GBV er mwyn asesu’r perygl llifogydd a llunio mesuriadau a fydd yn lleihau’r perygl ymhellach.

Ein nod yw cynyddu capasit cwlfert Water Street a darparu lle i storio dŵr i fyny’r afon, er mwyn amddiffyn y pentref rhag llifogydd gyda siawns o 1 mewn cant o ddigwydd mewn unrhyw flwyddyn.

Credir i’r pentref gael ei warchod yn dda rhag afon Elwy ac ni chynlluniwyd unrhyw welliannau i amddiffynfeydd y pentref o’r afon Elwy.

Cynhaliwyd sesiwn galw heibio yn Llanfair TH ym mis Mawrth 2016 er mwyn darparu diweddariad ar ein gwaith i’r gymuned ac er mwyn nodi ein dewis gorau ar gyfer cynllun rheoli perygl llifogydd.

Mae’r deunydd ymgynghori o’r sesiwn galw heibio ar gael yma – gan gynnwys amlinelliad pedwar lluniad:

Bydd yr opsiwn a ffafrir yn darparu safon o amddiffyniad â’r siawns flynyddol o un ym mhob 100 ar gyfer Llanfair Talhaearn. 

Cynhwysa’r opsiwn a ffafrir (y gwaith arfaethedig) yn Llanfair TH ailosod cwlfert Water Street 55 metr o hyd.  Mae’r darn hwn o’r cwlfert yn rhy fach ac yn hydrolig ‘garw’. Bydd yn cael ei ddisodli gan adrannau cwlfert mwy llyfn sy’n fwy o faint er mwyn cynyddu ei gynhwysedd i ymdrin â dŵr sy’n llifo.

Bydd gwaith ychwanegol yn cael ei wneud i wella’r waliau lifogydd sy’n bodoli eisoes, i fyny ac i lawr yr afon o gwlfert Water Street. Bydd gwelliannau i drefniadau'r sgrin-chwyn presennol i fyny’r afon o’r cwlfert hefyd yn cael eu cynnwys.

I fyny’r afon o’r pentref, rhagwelir y bydd dwy ardal yn cael eu defnyddio i ffurfio ardaloedd storio dŵr bychan. Bydd y gwaith yn cynnwys adeiladu byndiau daear bychan ar draws llwybrau dŵr ffo dros y tir, er mwyn gostwng y gyfradd y mae’r dŵr yn llifo oddi ar y tir uwchben Llanfair TH mewn cyfnodau o law trwm iawn.

Oherwydd y nifer cymharol fach o eiddo mewn perygl, nid yw’n bosib cynllunio cynllun i ganiatáu unrhyw welliannau pellach i’r amddiffynfeydd neu’r cwlfert er mwyn rheoli effeithiau newid hinsawdd.

Fodd bynnag, mae nifer ychwanegol o gyfleoedd Rheoli Perygl Llifogydd Naturiol wedi cael eu nodi ar gyfer y dalgylch uchaf gan gynnwys plannu gwrych i adfer ffiniau caeau a gweddillion argaeau yng ngwely’r afon. Gall y mesuriadau hyn ddarparu lliniaru yn erbyn newid hinsawdd yn y dyfodol, ac mae modelau ariannu posib er mwyn darparu’r gwaith hwn y tu allan i unrhyw brif raglen cyllido wedi cael eu cynnig.

Dewiswyd yr opsiwn a ffafrir gan ddefnyddio’r meini prawf ar wneud penderfyniadau ar gyfer Cymru a gynhwysir yn Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol - Canllawiau Arfarnu (FCERM-AG). Mae hwn yn broses 5 cam sy’n ystyried 1) Cymhareb cosb-budd 2) Nodi’r prif opsiwn FCERM; 3) Cyfraniadau; 4) Ansicrwydd; ac 5) Amcanion a Chanlyniadau

Ystyrir yr opsiwn a ddewisir y dewis mwyaf ymarferol yn dechnegol, yn amgylcheddol ac yn economaidd.

Diweddariad Gorffennaf 2016

Rydym bellach wedi derbyn cymeradwyaeth fewnol i fynd â dyluniad manwl y dewis a ffafrir ymlaen a byddwn yn gweithio ar hwn dros yr wyth mis nesaf.

Byddwn yn cysylltu â’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y gwaith arfaethedig yn uniongyrchol fel bod eu pryderon a’u sylwadau yn cael eu hystyried yn y broses ddylunio.

Bydd digwyddiad ymgynghori pellach yn cael ei gynnal unwaith y byddwn wedi cwblhau dyluniad manwl a byddwn yn ymgynghori’r gymuned drwy gydol y broses.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.