Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Llyn Padarn

Mae Llyn Padarn yn adnodd naturiol gwerthfawr i bobl, bywyd gwyllt ac economi Llanberis a’r ardal ehangach. Ers 2009, rydym yn gweithio i wella ansawdd dŵr y llyn iddo ddal i fod yn gartref i’r Torgoch yr Arctig prin yn ogystal ag i bysgod eraill a bywyd gwyllt. Bydd hynny hefyd yn sicrhau fod pobl leol yn gallu dal i fanteisio ar gyfleoedd hamdden a lles ac ar y swyddi mae’n helpu eu cynnal


wedi'i ddiweddaru - Rhagfyr 2015

Gwaith i wella ansawdd dŵr

Fe wyddom fod lefelau uchel o faetholion fel Nitrogen a Ffosfforws yn gallu achosi problemau gydag ansawdd dŵr mewn llynnoedd. Dangosodd ein hymchwiliad mai rhwydwaith Dŵr Cymru/Welsh Water yn yr ardal oedd prif ffynhonnell y maetholion niweidiol yn Llyn Padarn.

Rydym eisoes wedi gosod amodau ar drwydded Dŵr Cymru/Welsh Water i ollwng elifion carthion i Afon y Bala, felly mae llawer llai o faetholion yn cael eu gollwng i’r llyn erbyn hyn. Ymhellach, mae DCWW wedi gwella’i rwydwaith yn yr ardal fel bod llai o ollyngiadau storm o’r system garthffosiaeth. Rydym hefyd wedi pennu gwaith mwy sylweddol y bydd angen i DCWW ei wneud i wella mwy ar ansawdd y llyn. Mae DCWW wedi cadarnhau cynlluniau i gyflwyno gwelliannau sylweddol i’w rhwydwaith a’u system trin carthion. Mae’r gwaith hwn ar y gweill ar hyn o bryd a bydd yn cael ei gwblhau yn ystod y deunaw mis nesaf. Ar ôl iddo gael ei gwblhau, bydd y gwaith yn lleihau mwy fyth ar y maetholion a gaiff eu gollwng i Lyn Padarn a bydd hyn yn gwella mwy ar ansawdd y llyn ar gyfer y cyhoedd a’r bywyd gwyllt.

Mae Llyn Padarn wedi’i ddynodi bellach fel yr unig lyn ymdrochi dŵr croyw yng Nghymru ac mae canlyniadau’r samplau a gymerwyd yno gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn 2015 wedi cyrraedd y safon “rhagorol” uchaf.

Gweithio i achub y Torgoch

Mae niferoedd Torgoch yr Arctig yn Llyn Padarn wedi bod yn dirywio. Nid ydym yn deall yr union resymau dros hyn, ac mae dirywiadau tebyg wedi’u cofnodi mewn 10 allan o’r 11 llyn yng Nghymru a Lloegr sy’n gartref i boblogaethau naturiol o dorgoch. Credir bod effeithiau newid hinsawdd ynghyd â’r materion safle penodol yn effeithiau arwyddocaol mewn dirywiadau o’r fath.

Ochr yn ochr â’r gwaith i wella ansawdd dŵr yn Llyn Padarn, mae rhaglen i fridio pysgod ifanc mewn caethiwed hefyd wedi’i sefydlu.

Bob blwyddyn, mae swyddogion CNC yn dal ac yn diosg yr wyau o rai Torgoch yr Arctig ac yn bridio’r pysgod yn ein deorfa.

Caiff rhai eu rhyddhau’n ôl i Lyn Padarn, tra bod eraill wedi cael eu rhyddhau i Lyn Crafnant yn Nyffryn Conwy er mwyn sefydlu poblogaeth wrth gefn.

Gwyliwch fideo, wnaed fis Rhagfyr 2014 ar sut wnawn ni hyn

Rydym yn defnyddio camerâu i fonitro eu niferoedd a’u gweithgareddau ond gan fod y Torgoch fel arfer yn ymfudo i’w silfeydd yn ystod y tywyllwch, mae cael delweddau o ansawdd da yn anodd.

Fodd bynnag, ym mis Rhagfyr 2014 daliodd ein camerâu monitro haig o dorgoch yr Arctig yn cyrraedd eu silfeydd yn Afon y Bala yn ystod y dydd am y tro cyntaf.

Mae hefyd yn gadarnhaol fod yr haig hon yn cynnwys cymysgedd o dorgoch sydd â’u hasgell wedi’u glipio - sy’n golygu eu bod wedi’u geni’n naturiol yn y llyn.

Mae’n rhy fuan i ddod i unrhyw gasgliadau yn dilyn hyn ar ddyfodol poblogaeth Torgoch yr Arctig yn Llyn Padarn, ond mae’n achosi optimistiaeth fod dyfodol yn parhau i fod i’r Torgoch yn y llyn.

Effeithiau Gorsaf Bŵer Dinorwig

Ynghyd â phwysau eraill fel newid hinsawdd, gordyfiant o algae sy’n gysylltiedig â lefelau uwch o faetholion yn Llyn Padarn hyd at ganol y 1990au a phwysau genweirio ers yr 1980au, mae’n debyg fod colli eu silfeydd yn Llyn Peris pan adeiladwyd Gorsaf Bŵer Dinorwig yn y 1970au a’r 1980au yn ffactor bwysig arall yn nirywiad Torgoch yr Arctig.

Rydym yn gweithio’n agos gyda First Hydro - gweithredwyr Gorsaf Bŵer Dinorwig - a Chyngor Gwynedd i ganfod cyfleoedd a fydd yn ein galluogi i greu ardal llawer mwy o gynefinoedd addas yn Afon y Bala lle gall y torgoch ddodwy eu hwyau yn ystod y tymor bridio.

Hefyd astudiwyd effeithiau “brigau” tymheredd dŵr achlysurol, a achosir gan ryddhau dŵr o Lyn Peris ar silio a datblygiad wyau. Dangosodd hyn fod silfeydd fel arfer i fyny’r afon o’r mannau rhyddhau hyn ac nad ydynt yn profi unrhyw gynnydd mewn tymheredd.

Her adolygiad barnwrol Fish Legal

Ym mis Chwefror 2012 honnodd cynghorwyr cyfreithiol Cymdeithas Genweirwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni fod gollyngiadau o garthion i Lyn Padarn, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, wedi achosi niwed i Dorgoch yr Arctig ac i arwyneb dŵr y llyn.

Yn dilyn ymchwiliad, hysbyswyd Dŵr Cymru yn 2013 fod ei gasgliad dŵr gwastraff a’r ffordd yr oedd yn cael ei drin wedi achosi difrod amgylcheddol i Lyn Padarn.

Wedi hynny, daeth y Gymdeithas ag adolygiad barnwrol yn herio sail ein penderfyniad, a wnaed dan Reoliadau Difrod Amgylcheddol (Atal ac Adfer) (Cymru) 2009. Mae’r rhain yn trawsosod, yng Nghymru, y Gyfarwyddeb Atebolrwydd Amgylcheddol Ewropeaidd o ran atal ac adfer difrod amgylcheddol.

Cafodd ei setlo drwy gydsyniad; nodwyd manylion hyn mewn Gorchymyn Cydsynio ac fe’i cymeradwywyd gan y Llys ym mis Mai 2014. Fel rhan o hyn, cytunwyd i ddileu ein penderfyniad gwreiddiol a chadarnhau y byddwn, yn ein hystyriaeth ffres o’r mater, yn ystyried yr holl ddifrod amgylcheddol oedd wedi codi ers 30 Ebrill 2007 (y dyddiad pan oedd yn rhaid i’r Deyrnas Unedig roi’r Gyfarwyddeb ar waith). Roedd ein hymchwiliad cyntaf yn ystyried pob difrod oedd wedi codi ers 6 Mai 2009 (y dyddiad pan ddaeth y Rheoliadau i rym).

Ar 15 Rhagfyr 2014 cyhoeddwyd dogfen penderfyniad ffres oedd yn ystyried ein canfyddiadau newydd. Unwaith eto, bu i hyn ganfod fod y gwaith trin carthion (oedd yn eiddo i Dŵr Cymru) yn chwarae rôl fawr o ran achosi difrod amgylcheddol i’r llyn. Roedd y difrod hefyd yn cyfrannu at y gordyfiant algae yn 2009 a orfododd i ni gau’r llyn fel rhagofal diogelwch. Fodd bynnag, daeth i’r casgliad nad oedd difrod amgylcheddol fel y diffiniwyd gan y Rheoliadau i boblogaeth Torgoch yr Arctig a oedd yn dirywio cyn 2007.

Aeth Cymdeithas Genweirwyr Seiont, Gwyrfai a Llyfni â CNC i adolygiad barnwrol ar 24/25 Tachwedd o ran y ddogfen penderfyniad hon ac rydym ar hyn o bryd yn disgwyl dyfarniad a byddwn yn ymateb unwaith y byddwn wedi ystyried ei gynnwys.

Snowdonia Pumped Hydro

Yn wreiddiol, gwnaeth Snowdonia Pumped Hydro cyfyngedig gais i Gyngor Gwynedd am ganiatâd cynllunio ar gyfer cyfleuster storio wedi’i bwmpio 50Megawatt, a rhoddwyd caniatâd yn Chwefror 2014.

Roeddem yn ymgynghorai yn y broses a rhoddwyd cyngor ar amwynder, pysgodfeydd, tirwedd, tirwedd hanesyddol, mynediad a hamdden yn ogystal â bioamrywiaeth a gwarchod bywyd gwyllt.

Ers hynny, mae’r cwmni wedi penderfynu ar gynllun mwy o 100 Megawatt. Mae hyn yn uwch na’r trothwy y gall Cyngor Gwynedd ei ganiatáu, felly bydd y cais yn cael ei wneud drwy’r broses Cynllunio Gorchymyn Caniatâd Datblygiad, ac yn cael ei bennu gan Lywodraeth y DU.

Mae’r cwmni wedi cynnal ymgynghoriad lleol cyn y cais, ac wedi cyflwyno ei gais i’r adran Gynllunio. Mae CNC yn disgwyl ymgynghoriad, fel ymgynghorai statudol, yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd gennym ** wythnos i roi cyngor.

Yn ogystal â chaniatâd cynllunio o’r Arolygiaeth Cynllunio, mae Snowdonia Pumped Hydro hefyd angen trwydded tynnu dŵr a thrwydded gollwng gan CNC cyn y byddan nhw’n gallu gweithredu.

Trwydded tynnu dŵr

Derbyniwyd cais am drwydded tynnu dŵr yn Chwefror 2016 a chynhaliwyd proses ymgynghori.

Cynhaliwyd asesiad manwl i gynigion y cwmni i ganfod a ellir tynnu’r dŵr o Lyn Padarn gyda’r lleiaf posibl o effaith ar yr amgylchedd.

Dangosodd ein hymchwiliadau na fyddai cynigion y cwmni i dynnu’r dŵr yn achosi difrod amgylcheddol, felly rhoddwyd trwydded ym mis Gorffennaf 2015.

Mae hyn yn caniatáu Snowdonia Pumped Hydro Cyf i dynnu dŵr o Lyn Padarn, i gronfa ddŵr yng Nglyn Rhonwy.

Mae’n cynnwys amodau i warchod yr amgylchedd lleol. Mae’r rhain yn cynnwys cyfyngiadau dyddiol ar faint o ddŵr y gellir ei dynnu, rhwystr i atal dŵr os yw lefelau’r dŵr yn yr Afon Seiont - afon bysgota bwysig - yn isel, a gosod sgriniau dan y dŵr i atal pysgod rhag mynd i’r system.

Camau y byddwn yn eu dilyn wrth benderfynu caniatáu neu wrthod trwydded.

Mae’r camau wedi’u diffinio gan ofynion cyfreithiol. Mae’n ofynnol i ni gyfiawnhau unrhyw benderfyniad o fewn terfynau’r cyfyngiadau cyfreithiol hyn. Nid yw gwrthwynebiad lleol i ddatblygiad, ynddo’i hun, yn rheswm i ni wrthod cais.

Wrth wneud ein penderfyniad, byddwn yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol a gyflwynwyd i ni. Fodd bynnag, mae nifer o’r sylwadau yr ydym wedi’u derbyn yn cyfeirio at faterion sydd y tu hwnt i gylch gwaith ein penderfyniad. Ymysg y materion yr ydym yn eu hystyried wrth wneud penderfyniad mae’r canlynol:

  • effeithiau amgylcheddol y cynnig a’i effaith ar safleoedd a chynefinoedd dynodedig
  • effaith debygol y cynnig ar hawliau dŵr gwarchodedig deiliaid trwyddedau cyfredol a defnyddwyr dŵr cyfreithlon
  • gofynion rhesymol y sawl sy’n gwneud cais am ddŵr ac i’w ddefnyddio’n effeithlon
  • cynaliadwyedd y cynnig ac unrhyw effeithiau ar fioamrywiaeth

Mae’r canlynol ymysg y materion na allwn eu hystyried:

  • Sŵn
  • Llwch
  • Lleoliad
  • Trafnidiaeth
  • Effeithiau ar fywyd gwyllt y tu hwnt i effeithiau uniongyrchol y tynnu dŵr arfaethedig
  • Cysylltiadau’r grid cenedlaethol yn y dyfodol
  • Effaith ar hamdden
  • Effaith gweledol
  • Treftadaeth Ddiwylliannol
  • Effeithiau adeiladu
  • Hawliau tramwy

Mae’r materion hyn y tu hwnt i gwmpas ein proses penderfynu ar gyfer trwydded a bydd nifer ohonynt yn cael eu hystyried gan y Gyfarwyddeb Cynllunio fel rhan o’i phenderfyniad am y cais Gorchymyn Caniatâd Datblygu.

Hefyd bydd y sawl sy’n gwneud cais angen trwyddedau pellach gan CNC fel Trwydded Gollwng Dŵr a chaniatâd i weithio mewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).

Gofynion caniatâd gollwng

Fe wnaethon ni ymgynghori’n gyhoeddus ynglyn a cheisiadau Snowdonia Pumped Hydro am drwyddedau i ollwng dwr.Diwrnod cau yr ymgynghoriad oedd 9 Tachwedd 2016.

Ddydd Gwener 6 Ionawr 2017, rhoddodd CNC drwyddedau amgylcheddol i gwmni Snowdonia Pumped Hydro sy'n eu caniatáu i gynnal gweithgareddau arfaethedig i ollwng dŵr i Lyn Padarn a Nant y Betws yn Llanberis i weithredu cyfleuster storfa bwmp ar gyfer cynllun trydan dŵr yng Nglyn Rhonwy.

Mae’r trwyddedau hyn yn cynnwys amodau penodol ar gyfer diogelu’r amgylchedd.

Y mathau o bethau ystyriwyd fel rhan o 'r penderfyniad oedd effaith posib ar ansawdd dwr yn Llyn Padarn, yr effaith ar SoDdGA a nodweddion SAC Llyn Padarn, yr effaith ar bysgod a thymheredd dwr.

Mae'r cyfyngiadau ar yr hyn y gallwn eu hystyried yn debyg i’r rheiny ar gyfer y drwydded tynnu dŵr.

Cyngor yn ymwneud â lagwnau i Gyngor Sir Gwynedd

Yn ein hymateb i’r Cais Cynllunio a gyflwynwyd i Gyngor Sir Gwynedd, rhoddwyd cyngor penodol ar y ffordd orau i warchod yr amgylchedd lleol a’r cyfleusterau hamdden yn yr ardal. Mater i’r awdurdod cynllunio yw cymryd y cyngor hwn fel rhan o’r broses gynllunio.

Drilio archwiliol

Cynhaliwyd gwaith Ymchwiliad Tir gan Snowdonia Pumped Hydro o fis Mawrth hyd Gorffennaf 2015 i archwilio cyflwr y tir o fewn cyffiniau’r cynnig. Mae’r gweithgaredd hwn yn dod o dan gylch gwaith yr awdurdodau cynllunio.

Adar

Mae Hebogiaid Tramor (Peregrine falcons) yn bresennol yn agos i’r datblygiad. Goruchwyliwyd y gwaith tir diweddar gan Glerc Gwaith Ecolegol annibynnol, ac mae wedi bod yn destun ei Gynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu ei hun. Cadarnhaodd ymweliad safle gan un o’n swyddogion ym mis Mehefin 2015 i gael golwg ar yr adar hyn eu bod yn ymddwyn yn normal.

Y Ffordd Mynediad Uwch – Chwarel Ddu

Mae symudiadau trafnidiaeth adeiladu o fewn cylch gwaith yr Awdurdod Priffyrdd, Cyngor Gwynedd.

Cyflegrau

Mae ymchwiliadau am y posibilrwydd o gyflegrau o fewn terfynau’r datblygiad yn mynd ymlaen ar hyn o bryd. Rydym yn parhau i brofi ansawdd dŵr lleol am arwyddion o gyflegrau yn y dŵr.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.