Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Cwymp yn niferoedd silod eog

Eleni mae ein harolygon cychwynnol mewn pysgodfeydd ar afonydd Clwyd, Wysg a Thywi  wedi dangos cwymp pryderus iawn a digynsail o ran lluosogrwydd silod eog mewn safleoedd ble roedd digon ohonynt i’w gweld bob amser yn y gorffennol:

  • Yn nalgylch Tywi dangosodd ein harolwg fod silod eog yn absennol o 27 o’r 31 safle a fonitrwyd (roedden nhw’n bresennol mewn 28 safle yn ystod yr arolwg diwethaf)
  • Yn afon Wysg, dangosodd ein harolwg fod silod eog yn absennol mewn 8 o’r 12 safle ble byddan nhw fel arfer yn bresennol mewn niferoedd lluosog. Nid oedd yr un silyn o gwbl mewn 9 safle arall a arolygwyd i chwilio am lyswennod
  • Yn afon Clwyd, aethpwyd i bysgota mewn 5 safle ac er bod pob un o’r lleoliadau hyn wedi dangos niferoedd da o silod yn y gorffennol, ni chanfuwyd dim o gwbl yno eleni

Mae arolygon ar afonydd eraill, gan gynnwys Gwy, Tawe a Glaslyn, wedi darganfod niferoedd arferol o silod.

Yn ôl staff profiadol ein harolwg pysgod mae’r canfyddiadau hyn yn hollol ddigynsail dros gyfnod o 30 mlynedd ers i’r broses o fonitro pysgodfeydd ddechrau.

Beth yw’r sefyllfa bresennol?

Ar hyn o bryd mae’n bwysig ein bod ni’n cwblhau’r rhaglen arolygu er mwyn creu darlun o statws poblogaeth pysgod ledled Cymru. Tra bo hyn yn digwydd rydym ni’n ymgynghori gydag Asiantaeth yr Amgylchedd ynghylch y sefyllfa yn Lloegr a gyda Llywodraeth Cymru, ac rydym hefyd yn trafod y canlyniadau a’r achosion a’r goblygiadau posib gyda Cefas (ymgynghorwyr pysgodfeydd Llywodraeth y DU). Rydym ni’n archwilio cyfradd llif afonydd a data tymheredd ac yn ystyried ffactorau eraill a allai hefyd fod i gyfrif am y canlyniadau hyn.

Rydym ni hefyd yn asesu stociau eog bob blwyddyn drwy gymharu’r amcangyfrif o faint o wyau sy’n cael eu dodwy gyda thargedau’r dalgylch. Rydym ni’n nodi fel a ganlyn: er bod stociau eog llawn dwf wedi cael eu hasesu yn 21 o’n 23 prif afonydd pysgota eog i fod ‘Mewn Perygl’ (gan gynnwys afonydd Clwyd a Thywi) neu’n ‘Debygol o fod Mewn Perygl’ (gan gynnwys afon Wysg) o fethu â chwrdd â’u targedau silio, nid oedd dim byd arbennig o eithriadol i’w gofnodi o ran faint o wyau gafodd eu dodwy yn ystod 2015.

Ceir rhyw gymaint o dystiolaeth, yn fwyaf nodedig ar afon Clwyd, fod poblogaeth silod brithyll hefyd yn llawer is eleni nag mewn blynyddoedd diweddar.

Beth yw’r rhesymau posib?

Mae hi’n rhy gynnar i fod yn glir o ran beth sydd wedi achosi’r diffyg difrifol mewn silod yn y tair afon a nodwyd yma. Rydym wedi ystyried methiant posib ymysg pysgod i wasgaru i isafonydd ble byddan nhw’n silio fel arfer, o bosib oherwydd llif, a’r potensial mai haint neu lygredd yw’r ffactor achosol, ond mae hi’n llawer rhy gynnar i fod yn sicr. Serch hynny, rydym ni hefyd yn nodi mai mis Rhagfyr 2015 oedd y Rhagfyr cynhesaf a gofnodwyd erioed ac o ganlyniad rydym ni’n asesu cofnodion tymheredd y dŵr.

Beth all pysgotwyr ei wneud?

Wrth i ni gwblhau ein rhaglen fonitro ac yn ymchwilio ymhellach i’r rhesymau dros y cwymp enfawr hwn mewn niferoedd silod, mae hi’n bwysig fod pawb sy’n ymwneud â physgodfeydd yn gwneud cymaint ag y gallant i helpu i hyrwyddo i’r eithaf y niferoedd silod pysgod yn ystod yr hydref / gaeaf hwn ac mewn blynyddoedd i ddod.

Mae hi’n fwy pwysig nag erioed bellach fod pysgotwyr yn dychwelyd pob un o’u pysgod i'r dŵr, er mwyn amlhau’r niferoedd fydd yn gallu silio, a bod y dulliau pysgota a ddefnyddir yn sicrhau bod gan bysgod a ryddheir yn ôl i’r dŵr y cyfle gorau i oroesi, drwy ystyried:

  • Peidio ag adfachu bachau er mwyn rhyddhau’r pysgod yn haws ac yn gyflymach
  • Peidio â thynnu pysgod o’r dŵr wrth eu dadfachu. Dyma un o’r dulliau allweddol o wella goroesi. Mae cadw pysgodyn yn yr awyr agored am 30-60 eiliad yn llythrennol yn haneru’u cyfle o oroesi
  • Peidio â defnyddio bachau trebl – yn enwedig mathau C o abwyd ehedog
  • Peidio â defnyddio abwyd

 Casgliad

Mae’r canlyniadau hyn yn hollol ddigynsail ac ymddengys eu bod yn amlwg mewn rhai afonydd ledled Cymru, er nad pob un.

Byddwn ni’n cwblhau ein rhaglen fonitro, wrth i ni barhau i ymchwilio i’r achosion a cheisio darganfod dull o’u gwella.

Yn y cyfamser mae’n hanfodol fod cynifer â phosib o eog yn cael cyfle i silio eleni. Rydym ni’n apelio ar bysgotwyr i ddychwelyd pob eog a ddelir ganddynt, ac i geisio dylanwadu ar eraill i wneud yr un peth. Yn syml, does dim digon o bysgod yn silio er  mwyn cynnal y stociau.

Gellir darganfod canllawiau Dal a Rhyddhau ar wefan Sefydliad Gwy ac Wysg.

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.