Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Heddiw (2 Chwefror, 2014) mae’n Ddiwrnod Gwlyptiroedd y Byd, diwrnod i ganolbwyntio ar gynefinoedd y gwlypdir.

Mae’r rhain nid yn unig yn gartref i fywyd gwyllt prin, maen nhw hefyd yn cyflenwi llawer o'r pethau y mae cymdeithas yn dibynnu arnyn nhw.

Gall gwlyptiroedd helpu i gadw dŵr llifogydd yn ôl, ei buro a helpu'r economi wledig drwy droi tir amaethyddol cymharol ddi-werth yn ôl yn dir pori cynhyrchiol.

Mae llawer iawn o fathau o wlyptiroedd yng Nghymru gan gynnwys corsydd, corsydd pori, glaswelltir corsog ac, wrth gwrs, llynnoedd, pyllau ac afonydd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio’n agos â miloedd o dirfeddianwyr a gwahanol sefydliadau i adfer a chynnal llawr o wlyptiroedd ein cenedl.

Yng ngogledd Cymru, mae’r Prosiect LIFE wedi adfer tua 1,850 acer (cymaint â 1,000 o feysydd pêl-droed) o wlyptiroedd ym Môn ac yn Llŷn.  

Ac yn ne Cymru, mae Cors Crymlyn yn hafan i fywyd gwyllt rhwng mannau diwydiannol dwyrain Abertawe a Nedd Port Talbot lle gall pobl weld y corryn rafftio’r gors prin - y corryn mwyaf yng ngwledydd Prydain - a gwahanol adar ysglyfaethus.

Dim ond yn dymhorol y mae dŵr yn sefyll ar rai gwlyptiroedd, megis glaswelltir  corsiog.  Mae rhai eraill, megis gwlyptiroedd lle mae mawn yn ffurfio, yn wlyb gydol y flwyddyn.  

Gallai gwlyptiroedd chwarae rhan allweddol hefyd yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.  Gyda’r posibilrwydd o hafau sychach, mae'n hanfodol rheoli gwlyptiroedd - oherwydd, ar eu gorau, maen nhw'n gallu cronni swm anferthol o garbon a fyddai, fel arall, yn cael ei ollwng i afonydd a’r aer.  

Mae gwlyptiroedd ucheldir Cymru, yn enwedig y gorgorsydd sy’n ymestyn yr holl ffordd ar hyd asgwrn cefn ei hucheldir, yn fannau agored, gwyllt, dramatig sy'n cyfrannu llawer iawn at gymeriad y tirwedd.  

Meddai llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru:  

“Mae llawer o wlyptiroedd Cymru hefyd yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol yr ydyn ni'n eu rheoli i’w hadfer ac i gadw eu nodweddion naturiol – y planhigion a’r bywyd gwyllt sy’n dibynnu arnyn nhw. Mae’r amrywiaeth o fywyd gwyllt a’r mannau cerdded hawdd ar fyrddau a llwybrau hefyd yn eu gwneud yn lleoedd gwych i bobl ymweld â’u mwynhau."  

Dyma flas ar rai o’r gwlyptiroedd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn eu rheoli.....

De Cymru:

Gwlyptiroedd Casnewydd
Drwy’r gaeaf mae Gwlyptiroedd Casnewydd yn byrlymu ag amrywiaeth o adar sy'n ymweld o hinsawdd oerach.  Mae’r cwtiar, y creyr a’r creyr mawr i’w gweld yn aml ar gorsleoedd y warchodfa.   Mae’r hwyaden llygad aur brin, y dylluan glustiog a’r cudull bach yn ymweld hefyd.  

Mae yna rwydwaith tair cilometr o lwybrau o gwmpas y corsleoedd sy’n hawdd eu cerdded ac yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a chadeiriau olwyn plant.  Dim ond ar y llwybr troed sy’n rhedeg ar hyd y tu allan i'r corsleoedd y caniateir cŵn.  Mae yna lwybr penodol ar gyfer beiciau.  

Mae Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd, gan gynnwys y Ganolfan Ymwelwyr ac Addysg Amgylcheddol, ar agor bob dydd yn ystod y gaeaf o 9 y bore tan 5 yr hwyr.

Cyfoeth Naturiol Cymru sydd piau ac sy’n rheoli’r warchodfa ac mae’n gweithio mewn partneriaeth gydag RSPB Cymru a Chyngor Dinas Casnewydd er budd bywyd gwyllt a phobl.  

I ddathlu Diwrnod Gwylyptiroedd y Byd, cynhelir taith gerdded yng Ngwlyptiroedd Casnewydd ddydd Sul 2 Chwefror 9.40 am–11.30 am.

Bydd y daith gerdded yn cychwyn ym maes parcio ac yn symud ymlaen i archwilio’r corsleoedd ac i edrych dros Aber Hafren. Os byddwch yn penderfynu dod yno, cofiwch edrych am adar y dŵr megis yr hwyaden gopog, yr hwyaden lwyd, y chwiwell, yr hwyaden goch, yr hwyaden lydanbig ac adar hirgoes megis y gylfinir a phibydd y mawn.    

Cors Crymlyn a Phant y Sais  
Pan fyddwch yn gyrru i mewn i Abertawe ar hyd prysurdeb Ffordd Fabian, does dim argoel o'r rhyfeddod naturiol sy'n cuddio ychydig y tu hwnt i'r ffordd.  

Gyda maes parcio hwylus a llwybr wedi’i farcio ac ar agor i'r cyhoedd gydol y flwyddyn, mae mor agos at y ddinas fel y gall pobl yr ardal drochi eu hunain mewn bywyd gwyllt mewn amrant.  

Cofiwch gadw llygad am y corryn cynhenid mwyaf yng ngwledydd Prydain - y corryn rafftio’r gors, sy’n llechu fel arfer ar ddeilen neu blanhigyn yn barod i lamu ar ysglyfaeth a ddaw heibio - dim ond ar dair safle ledled y DU y mae i’w ganfod.  Mae’n haws gweld yr amrywiaeth eang o adar ac o infertibratiaid sydd yno.  

Canolbarth Cymru:

Cors Caron
Mae Cors Caron yn enfawr, dros 800 hectar o arwynebedd ac yn 6 cilometr o hyd ac mae'n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion. Mae'r warchodfa’n ymfalchïo yn ei thair gorgors - mannau lle mae dyfnder o fawn wedi casglu dros y 12,000 mlynedd diwethaf – ac o'u cwmpas mae yna gymysgedd cymhleth ac unigryw o gynefinoedd.  

Gyda chuddfan adar ardderchog, mae’n un o‘r llefydd gorau i fwynhau gwylio adar ar eu safle bwydo yn y gaeaf. Mae’r safle’n denu 20,000 o ymwelwyr y flwyddyn.

Gyda byrddau cerdded (3.5 cilometr) - sy’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, llwybrau llyfn (6 cilometr) a llwybr glan yr afon (7.5 cilometr), mae yna antur i bawb ei mwynhau.  Mae’r digonedd o bryfed yn ffynhonell werthfawr o fwyd i adar a mamaliaid.  Gellir gweld dyfrgwn, llygod pengrwn y dŵr,  chwistlod dŵr a ffwlbartiaid yn y warchodfa.

Gogledd Cymru:

Corsydd Môn a Llŷn  Prosiect Corsydd Môn a Llŷn yw’r un o rhai mwyaf a mwyaf uchelgeisiol o’i fath yn Ewrop ac mae’n cael ei ariannu gan brosiect LIFE yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n cynnwys 11 o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, pedair o'r rhain hefyd yn Warchodfeydd Natur Cenedlaethol - Cors Bodeilio, Cors Erddreiniog, Cors, Geirch a Chors Goch.

Mae Proseict LIFE Corsydd Môn a Llŷn wedi cyfuno prosiectau mawr o adfer gwlyptiroedd (tua 1,850, cymaint â 1,000 o feysydd pêl-droed) gyda chadw llifogydd, gwella ansawdd dŵr a chynyddu faint o dir sydd ar gael i’w bori.

Mae’r prosiect yn tynnu at ei derfyn ond bydd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu defnyddio ar lawer o safleoedd gwlyptiroedd eraill.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.