Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Rhyddhau Llygod y Dŵr er mwyn cynyddu’r boblogaeth

Cymerir cam pwysig yn y gorllewin yr wythnos hon yn y frwydr i achub y mamal sy’n diflannu gyflymaf ym Mhrydain.

Mae poblogaeth llygod y dŵr y Deyrnas Unedig wedi crebachu gan hyd at 95% ers y 1960au, ond yr wythnos yma bydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru’n rhyddhau tua chant o lygod ifainc i warchodfa natur dim ond cam ceiliog o faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli.

Dewiswyd y safle yn Ffrwd, ger Pen-bre, sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), oherwydd bod yno gynefin gwych ar gyfer llygod y dŵr, gan gynnwys ffosydd, pyllau, gwlâu cyrs, a chors.  

Dywedodd Hilary Foster, Swyddog Bioamrywiaeth gyda Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Ar un adeg bu llygod y dŵr yn gyffredin mewn afonydd, camlesi a phyllau ledled Cymru.

 “Ond golyga colli cynefin, a’u bwyta gan fincod Americanaidd, eu bod wedi prinhau’n arw yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, ac y maent o dan fygythiad enfawr erbyn hyn.

“Mae sefydlu’r boblogaeth hon mewn safle delfrydol yn gam pwysig tua rhoi iddynt well cyfle i oroesi yn y gorllewin.

“Oddi yma, bydd modd i lygod y dŵr ymwasgaru i’r dirwedd o amgylch, er mwyn ail-breswylio’r rhwydweithiau ffosydd lle buont yn gyffredin ar un adeg.

“Yn y tymor hwy, gobeithiwn y don’t i gyswllt â’r poblogaethau presennol yn Llanelli a Thalacharn.”

Mae’r llygod a ryddheir yn Ffrwd yn epil nifer fechan o lygod a ddaliwyd ar safle yn Llanelli'r hydref diwethaf. Cadwyd nhw’n gaeth yn ystod y gaeaf, gan eu paru er mwyn epilio yn y gwanwyn.

Yn y cyfnod cyn y rhyddhau, mae Cyfoeth Naturiol Cymru hefyd wedi gweithio â grwpiau cadwraeth a thirfeddianwyr lleol er mwyn gwella’r cynefinoedd cyfagos ar gyfer llygod y dŵr.

Golygodd hyn garthu a ffensio ffosydd er mwyn eu gwneud yn addas ar gyfer y llygod, yn ogystal â chadw golwg am fincod, a’u maglu, yng nghyffiniau gwarchodfa’r Ffrwd. Yn ogystal â hybu’r boblogaeth lygod, mae gwaith ar y ffosydd wedi bod o fudd ehangach ar gyfer rhywogaethau eraill, fel dyfrgwn ac ystlumod, gan greu rhwydwaith o goridorau y maent yn eu defnyddio ar gyfer teithio o amgylch.  

Bydd y gwaith hefyd yn gwella ansawdd dŵr lleol, trwy greu lleiniau clustogi rhwng glannau’r afonydd a llinellau’r ffensys. Mae llystyfiant mwy trwchus ar hyd y dyfrffyrdd o gymorth i wella ansawdd dŵr trwy arafu a hidlo’r dŵr sy’n llifo o’r tir, a’r llygryddion sy’n mynd i afonydd o dir cyfagos.  

Mae gwarchodfa natur Ffrwd ym meddiant, a than reolaeth, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, mewn partneriaeth â Naturiaethwyr Llanelli.

Dywedodd y Dr Lizzie Wilberforce o Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru:

“Mae bod â rhan yn y cynllun hwn, a gwybod y gwêl ddychweliad llygod y dŵr i’r ardal hon wedi cynifer o flynyddoedd, yn ein cyffroi ni’n fawr.

"Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â Cyfoeth Naturiol Cymru ar y safle hwn ers cynifer o flynyddoedd er mwyn gwella ansawdd y cynefin, ac y mae’r cynllun hwn yn adeiladu ar ben yr holl waith caled hwnnw.

"Mae Ffrwd yn warchodfa natur brydferth, a bu llygod y dŵr yn gyffredin yn yr ardal hon, ar un adeg.

"Mae’n hyfryd meddwl y gallem weld hynny eto.”

Mae’r cynllun yn bartneriaeth cydrhwng tirfeddianwyr lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru, a Chyngor Sir Gaerfyrddin.  

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.