Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Cymru’n parhau i arwain y ffordd yn y DU wrth ddatgelu manteision aruthrol coed trefol

Urban Tree not cropped

Mae canlyniadau arolygon newydd ar orchudd coed mewn dwy ardal o Dde Cymru wedi eu cyhoeddi.

Cynhaliwyd yr arolygon gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a Forest Research y llynedd, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac yn nalgylch Tawe gyda phartneriaid awdurdodau lleol - Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phowys a Dŵr Cymru.

Drwy ddefnyddio i-Tree Eco, offeryn asesu arloesol o’r Unol Daleithiau sy’n unigryw gan ei fod yn mesur y manteision pwysig a ddarperir gan goed, dyma’r tro cyntaf i goed trefol Pen-y-bont ar Ogwr a Tawe gael eu hasesu er mwyn deall yr amrywiaeth o rywogaethau coed sydd yno, eu cyflwr a’u lleoliad. 

Meddai Dafydd Fryer, Cyfoeth Naturiol Cymru:

 “Byddai’r rhan fwyaf ohonom yn cytuno bod byw, gweithio a chwarae mewn ardaloedd sydd wedi eu hamgylchynnu â choed yn atyniadol ac yn helpu i wella iechyd a lles. 

 “Fodd bynnag, faint ohonom sy’n gwerthfawrogi’r hyn a wnânt wrth dynnu llygredd o’r aer, lleihau perygl llifogydd a storio a dal carbon o’r atmosffer?

 “Yr hyn y mae’r astudiaethau i-Tree Eco yn ei ddangos inni yw cyfraniad aruthrol coed, yn enwedig y coed mawr hiroesog i’r nifer fawr o sialensiau critigol sy’n wynebu ein trefi a’n dinasoedd. 

 “Yn gwbl hanfodol, drwy integreiddio coed yn llwyr i gynllunio a phrosiectau ffyrdd i’r dyfodol, mae’n dangos eu bod yn cynnig atebion cost-effeithiol. Gan fod yr astudiaethau yn clustnodi bod 25% o dir ar gael i blannu coed, ceir cyfle amlwg i fuddsoddi ar gyfer y dyfodol.”

Mae’r gwasanaethau ecosystemol blynyddol a ddarperir gan 530,000 o goed trefol dalgylch Tawe yn werth £1,720,000 a’r 440,000 o goed ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn werth £950,000. Cyfrifodd yr astudiaethau hefyd faint y byddai’n ei gostio adnewyddu’r holl goed, sef cyfanswm o £816 a £686 miliwn.

Bob blwyddyn, mae coed yn nalgylch Tawe yn:

  • Cipio 252 miliwn litr o ddŵr, gan arbed £333,900 o gostau carthffosiaeth

  • Tynnu 136 tunnell o lygryddion a gludir yn yr aer, gan arbed £715,00 i’r GIG

  • Dal 3,000 tunnell o garbon gwerth £671,000 o’r atmosffer

Bob blwyddyn, mae coed saith prif dref Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn

  • Cipio 124 miliwn litr o ddŵr, gan arbed £164,000 o gostau carthffosiaeth

  • Tynnu 61 tunnell o lygryddion a gludir yn yr aer, gan arbed £326,000 i’r GIG

  • Dal 2,080 tunnell o garbon gwerth £461,400 o’r atmosffer

Yn ogystal, mae coed nalgylch Tawe ac Bwrdesitref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi storio 156,000 tunnell o garbon – gwerth £35 miliwn.

Meddai Hywel Williams, Aelod Cabinet ar gyfer Cymunedau, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

“Pan fyddwn yn meddwl am fanteision coed i’r amgylchedd, yn aml rydym yn gweld darlun o gefn gwlad, a choetiroedd neu goedwigoedd trwchus. Ond beth am y coed trefol sydd ar hyd ein strydoedd, sy’n fframio ochr y ffyrdd ac yn tyfu mewn parciau a gerddi ym mhob rhan o’n trefi?

“Mae ganddynt swyddogaeth eithriadol o bwysig yn ein cymunedau, ac mae’r astudiaeth dra diddorol hon wedi rhoi gwerth ariannol iddynt drwy ystyried eu cyfraniad i’n bywydau.”

Meddai’r Cynghorydd Mark Child, Aelod Cabinet Lles a Dinas Iach Cyngor Abertawe:

 “Mae gennym reswm da dros fod yn hynod falch o’n tirweddau gwledig o safon fyd-eang yma yn Abertawe lle mae coed, yn amlwg, yn gwneud cyfraniad pwysig eithriadol, ond mae coed yn bwysig mewn sefyllfaoedd trefol hefyd.

Nid yn unig maent yn atyniadol o ran estheteg, ond mae ganddynt rôl hefyd i’w chwarae o ran gwarchod ansawdd ein hamgylchedd a chyfrannu at iechyd a lles preswylwyr. Dyma pam y bydd cyflwyno mwy o wyrddni yn rhan o’n cynlluniau cyffrous i drawsnewid canol dinas Abertawe yn gyrchfan fodern ac egnïol sy’n cyfuno darpariaeth fanwerthu o’r safon uchaf a chartrefi, swyddfeydd a chyfleoedd ar gyfer hamdden ac adloniant.

“Mae Abertawe gystal bob tamaid â dinasoedd eraill y DU o safbwynt nifer y parciau a’r mannau gwyrdd sydd gennym yma. Mae ardal Bro Abertawe sydd wedi ei hadfywio, ac a oedd ar un adeg yn dirwedd ddiwydiannol, yn ogystal â Choedydd Glyn Penllergare a Gerddi Clun ymysg ein mannau coediog mwyaf rhyfeddol.”

Mae bellach yn bosibl gweld y canfyddiadau ar wefan Forest Research;

https://www.forestry.gov.uk/fr/beeh-a4bggx

https://www.forestry.gov.uk/fr/beeh-a4bgve

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.