Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Nawdd y Loteri Genedlaethol yn golygu dyfodol disglair i dwyni sydd dan fygythiad

View of the beach at Oxwich

Mae gan draean o’r twyni tywod sydd dan fygythiad yng Nghymru a Lloegr ddyfodol disgleiriach yn awr, a hynny’n ddiolch i brosiect cadwraeth arloesol gan y Loteri Genedlaethol sy’n cael ei gyflwyno heddiw.

Mae twyni tywod yn cael eu hystyried fel y cynefinoedd mwyaf bregus yn Ewrop, ac maent yn noddfa i sawl rhywogaeth o anifeiliaid a phlanhigion sydd dan fygythiad – yn eu plith, y crwynllys Cymreig a madfall y tywod. Ond mae cyfran helaeth ohonynt yn cael eu tagu a’u sefydlogi gan lanw o brysgwydd ymledol, a’u trawsffurfio’n bonciau glaswelltog llwm.  

Yn awr, mae Cronfa Treftadaeth y Loteri wedi rhoi cefnogaeth gychwynnol* i gais am £4.1m o nawdd ar gyfer partneriaeth 4 mlynedd fyddai’n adfer rhai o dwyni tywod pwysicaf Cymru a Lloegr. 

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru,  Natural England, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Plantlife, a’r Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn cydweithio â chymunedau’r arfordir er mwyn gwarchod ac adfer hyd at 7000ha dros 9 safle yng Nghymru a Lloegr.

Mae twyni tywod yn gynefinoedd dynamig eu natur. Wrth i’r gwyntoedd chwythu hyd yr arfordir ffurfir twyni ‘embryo’ ar ben y traeth, fydd yn tyfu’n raddol i ffurfio’r dirwedd sy’n gyfarwydd i ni gyd. Bydd rhan gyntaf y prosiect yn ymchwilio ffyrdd o ailsefydlu’r symudiad naturiol o fewn twyni tywod, gan gynnal yr amodau sy’n hanfodol ar gyfer rhai o’n rhywogaethau prinnaf.

Meddai Kevin Ingram, Prif Weithredwr dros dro Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Twyni tywod yw rhai o’r lleoedd mwyaf cyfoethog i fywyd gwyllt yng Nghymru, ond mae llawer o’r rhywogaethau prinnaf wedi dirywio ac, mewn ambell achos, wedi diflannu wrth i’r twyni sefydlogi.

“Bydd y prosiect hwn yn rhoi adfywiad i nifer o’r rhywogaethau hyn, gan fod o fudd nid yn unig i’n hamgylchedd ond hefyd i’n pobl a’n heconomi wrth iddo adeiladu ar y cysylltiadau cryf rhwng cymunedau arfordirol a’u twyni.”

Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar adfer amodau mewn 9 o safleoedd twyni yn:

Lincolnshire Sand Hills; Twyni Studland, Dorset; Arfordir Gogledd Cernyw; Braunton Burrows; Arfordir Gogledd Dyfnaint; Abertawe/Castell-nedd Port Talbot; Caerfyrddin; Môn/Gwynedd; Arfordir Sefton; ac Arfordir Cumbria/Solway.

Dywedodd cadeirydd Natural England, Andrew Sells:

“Rydym wedi cyffroi ynglŷn â’r prosiect gwych yma i achub ein twyni a gwella ymwybyddiaeth pobl o’n bywyd gwyllt cynhenid. Mae twyni’n fwy na chefndir trip i’r traeth, maent yn hafan i rai o rywogaethau prin sydd angen ein cymorth. Dyna’r rheswm ein bod ni’n gweithio gyda phartneriaid o’r byd cadwriaethol, dros ddwy wlad, ac yn ceisio datrys hyn gyda’n gilydd.”

Bydd y prosiectau’n cynnwys:

  • Gwaith cadwraeth i ail-sefydlu prosesau naturiol;
  • Rhaglen i ddifa rhywogaethau goresgynnol brodorol ac estron;
  • Creu ac adfer slaciau twyni a thwyni gwlyb;
  • Sgriffiadau tywod a chrafu lleiniau er mwyn creu ardaloedd o dywod moel;
  • Byrddau dadansoddi yn y safleoedd, a rhaglen hyrwyddo genedlaethol;
  • Gweithgareddau addysg gymunedol, gan gynnwys rhaglen ysgolion;
  • Rhaglen wirfoddoli ar gyfer oedolion ac ieuenctid.

Dywedodd Drew Bennellick, pennaeth tirweddau a threftadaeth naturiol Cronfa Treftadaeth y Loteri:

“Dyma brosiect cyffrous iawn sy’n arloesi dull newydd o reoli twyni. Dros y degawdau diwethaf mae cyfran fawr o dwyni wedi cael eu gorchuddio gan lystyfiant trwchus. Rydym yn ymwybodol fod hyn yn newyddion drwg i rai o’r rhywogaethau prin sydd yn ymgartrefu yn ein twyni, gan eu bod yn ddibynnol ar fosaig o dywod moel, pyllau, ac amrywiaeth o lystyfiant er mwyn ffynnu. O ganlyniad i’r nawdd yma gan y Loteri Genedlaethol, ynghyd ag arbenigrwydd y sefydliadau partner, gallwn gychwyn canfod ffyrdd o ddatrys y problemau hyn.”

Mae twyni tywod yn hynod boblogaidd gan ymwelwyr, gan dderbyn 200m ymweliad y flwyddyn yng Nghymru a Lloegr. Er hyn, nid pawb sy’n ymwybodol o’u rôl fel noddfa i rywogaethau prin. Ymysg y rhywogaethau sydd yn ymgartrefu mewn twyni ceir: 

  • Blodau lliwgar megis y crwynllys Cymreig a’r llaethwyg rhuddlas;
  • Infertebratau megis y glesyn serennog trawiadol;
  • Mwsoglau a bogail afuad (megis Petalophyllum ralfsii sydd ond i’w gael mewn slaciau twyni)
  • Ymlusgiaid ac amffibiaid megis llyffant y twyni, madfallod y tywod, a madfallod dŵr cribog.

Mae twyni tywod wedi hen sefydlu eu hunain fel rhan bwysig o hanes diwylliannol y DU. Maent yn dirweddau arbennig iawn, gydag enghreifftiau o safleoedd cynhanesyddol a chanol oesol yn eu plith. Maent yn boblogaidd ar gyfer gweithgareddau hamdden ger y môr, boed yn adeiladu cestyll tywod neu’n donfyrddio. Erbyn 2020, bydd llwybr arfordir Lloegr yn gyflawn ac yn agored, gan sicrhau bod ein twyni arfordirol yn fwy hygyrch nag erioed ac yn helpu pobl i’w mwynhau yn awr ac yn y dyfodol.  

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.