Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Profion sonar yn arolygu ymfudiad torgochiaid Llyn Padarn i silio

Mae monitro tanddwr gan arbenigwyr Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwirio sawl torgoch sy'n mynd i fyny'r afon o Lyn Padarn er mwyn silio.

Arolygwyd y pysgod gan ddefnyddio sonar dros gyfnod o chwe wythnos ar ddiwedd y llynedd pan fydd y torgoch fel arfer yn mudo i fyny afon y Bala er mwyn silio.

Cofnododd y sonar mwy na 26,000 o olion pysgod llai, a allai fod yn dorgochiaid, yn frithyllod afon neu'n frithyllod ymfudol bychain, yn symud rhwng y llyn a'r afon ac yn ôl.

Fel arfer mae'r torgochiaid yn mudo i mewn i'r afon i silio yn ystod y nos ac yn dychwelyd i'r llyn cyn toriad gwawr.

Roedd y sonar hefyd wedi cofnodi olion bron 800 o bysgod mwy, fel arfer eogiaid neu frithyllod ymfudol, yn yr un ardal.

Roedd pedwar camera tanddwr, a osodwyd am bythefnos yn yr un man, wedi cofnodi 560 o bysgod yn symud heibio. Cafodd 200 o'r rhain eu hadnabod yn gywir fel 48 torgoch, 42 eog, 105 brithyll afon ac 8 brithyll ymfudol.

Roedd y gweddill (bron 330) yn llai na 50cm o hyd ac yn debygol o fod naill ai yn dorgochiaid neu'n frithyll afon. Nid yw'n bosibl gwahaniaethu rhyngddynt a bod yn hollol sicr.

Roedd y monitro hwn yn rhan o'r gwaith parhaus i ddiogelu torgochiaid a gwella ansawdd dŵr Llyn Padarn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu i ddiogelu'r pysgodyn prin hwn o Oes yr Iâ oherwydd dirywiad yn y niferoedd dros y 30 mlynedd diwethaf.

Mae 8000 o dorgochiaid ifainc eisoes wedi eu rhyddhau i Lyn Padarn yn ystod y pedair blynedd diwethaf, er mwyn hybu'r boblogaeth, gyda rhyddhau 1,700 yn hwyrach eleni. Mae 7000 o dorgochiaid hefyd wedi eu rhyddhau i Lyn Crafnant yn Nyffryn Conwy er mwyn sefydlu poblogaeth 'wrth gefn'.

Dechreuwyd stocio torgochiaid yn y llyn, ac yn yr ail lyn yn Nyffryn Conwy, er mwyn lleihau'r perygl y byddai’r boblogaeth yn diflannu oherwydd bod y niferoedd wedi cyrraedd lefelau peryglus o isel.

Mae Llyn Padarn bellach yn ddŵr ymdrochi dynodedig gan yr UE oherwydd ei boblogrwydd, ac mae'n cael ei brofi bob wythnos yn ystod y tymor dŵr ymdrochi (Mai – Medi).

Hyd yn hyn, mae pump o'r samplau o blith ugain a fydd yn cael eu cymryd yn ystod y tymor wedi dangos bod y dŵr yn bodloni'r safon 'Rhagorol' sef y nod uchaf ar gyfer glendid.

Ers y gordyfiant sylweddol o algae yn 2009, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gweithredu i gyfyngu ar y trwyddedau ar gyfer gwaith trin carthion ger y llun, ac ynghyd â gwaith arall gan Dŵr Cymru, mae'r amgylchiadau yn y llyn wedi gwella.

Dywedodd Tim Jones, Cyfarwyddwr gogledd a chanolbarth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru:

"Mae canlyniadau ein monitro yn galonogol, ond mae cyfanswm y torgochiaid sy'n mudo yn parhau yn is o lawer na'r niferoedd y gall llyn o'r maint hwn ei gynnal.

"Da gweld bod ansawdd dŵr y llyn wedi gwella, gan leihau'r perygl o ordyfiant algae - a gafodd effaith mor ddramatig ar yr economi leol yn 2009.

"Yr hyn y mae'n ei ddangos i ni yw bod yn rhaid i ni barhau â'r gwaith yr ydym wedi'i gyflawni yn ystod y pum mlynedd diwethaf i wella Llyn Padarn er lles y gymuned leol, yr economi leol a'r bywyd gwyllt sy'n byw yno."

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.