Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy barhau i bori'r wefan rydych yn cytuno â'n defnydd ni o gwcis. Er mwyn cael rhagor o fanylion am gwcis a sut i'w rheoli, gweler ein polisi cwcis.

Perygl i stoc eogiaid oherwydd cwymp yn niferoedd silod mân

Salmon smolt laid on staff member hands after being picked out of a yellow bucket of water

Mae stoc eogiaid mewn rhai mannau yng Nghymru’n wynebu bygythiad na welwyd mo’i debyg o’r blaen ar ôl i niferoedd silod eog ddisgyn yn syfrdanol mewn sawl afon yng Nghymru.

Ar ôl gwaith monitro arferol gan swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), gwelwyd bod niferoedd silod ifanc (eogiaid ifanc sydd wedi dodwy yn ystod gwanwyn 2016) yn dyngedfennol o isel ar afonydd Wysg, Tywi a Chlwyd yn y rhan fwyaf o’r safleoedd a bysgotwyd. Dyma’r afonydd oedd yn arfer cynhyrchu niferoedd cyson o silod.

Yn nalgylch pysgodfeydd Tywi eleni, dangosodd arolygon fod eogiaid ar goll o 31 o’r 37 safle a fonitrwyd ac, o’r 13 safle arolwg ar afon Wysg, doedd dim silod eog mewn wyth safle, ac roedd y niferoedd yn isel iawn yn y pum lleoliad arall; yn afon Clwyd ni chofnodwyd yr un sil eog, ac yn fwy na hynny mae’r dalgylch hefyd yn cofnodi’r niferoedd brithyll gwaethaf erioed yn ogystal.

Yn ffodus, dengys arolygon ar afonydd Tawe, Glaslyn a Gwy fod y lefelau yno yn ôl y disgwyl.

Meddai Peter Gough, Prif Ymgynghorydd Pysgodfeydd CNC:

“Mae’r canlyniadau cyntaf hyn o’r arolygon yn annhebyg i ddim a welwyd yng Nghymru dros 30 mlynedd o fonitro, ac mae’n amlwg eu bod yn peri gofid, yn enwedig am fod stoc eog a sewin yn ein hafonydd eisoes yn wynebu heriau difrifol.

“Nid yn unig bydd y cwymp yn niferoedd silod yn niweidio bioamrywiaeth yn ein hafonydd ond gallai hefyd gael effaith andwyol ar economi’r sectorau pysgota a thwristiaeth.

“Mae hi’n hollbwysig felly ein bod ni’n dal ati i ymchwilio er mwyn darganfod pam fod y cwymp hwn wedi digwydd a dechrau gweithredu er mwyn sicrhau bod modd i’r nifer mwyaf posib o bysgod silio dros y gaeaf ac yn y dyfodol.”

Bob blwyddyn bydd CNC yn monitro stoc pysgod ifanc ledled Cymru. Mae gan y gwaith monitro hwn ran bwysig i’w chwarae wrth reoli adnoddau naturiol mewn modd cynaliadwy er mwyn ein helpu i ddeall, gwella a rheoli ein stoc pysgod. Cynhelir arolygon niferoedd pysgod yn bennaf gan ddefnyddio pysgota electronig er mwyn cofnodi faint o bysgod a ddaliwyd, y rhywogaeth a’u hyd unigol.

Ar hyn o bryd erys achos y gostyngiad mewn niferoedd yn ddirgelwch, ond ymysg rhesymau posib mae gweld yr afonydd yn llifo hyd eu heithaf dros y gaeaf a thymheredd uchel ar ddŵr yr afonydd a effeithiwyd. Mae ystyriaeth yn cael ei roi i’r posibilrwydd fod clefyd neu barasit yn bresennol hefyd, ond credir bod hyn yn bur annhebygol.

Mae tîm pysgodfeydd CNC yn cynyddu’r rhaglen fonitro fel rhan o’i ymchwiliad i achos y dirywiad, gan gynnal gwiriadau iechyd pysgod, ac mae’n ymgynghori gyda Chanolfan Gwyddorau'r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaeth (Cefas) ac Asiantaeth yr Amgylchedd er mwyn sefydlu a oes problemau tebyg yn Lloegr.

Ychwanegodd Peter:

“Ar hyn o bryd rydym ni’n ceisio sefydlu beth yw lefel y bygythiad i stoc eog yng Nghymru a byddwn ni’n cydweithio gyda’r gymuned bysgota i warchod ein stoc bresennol.

“Rydym ni’n cydweithio’n agos gyda’n partneriaid ac yn noddi adrannau’r Llywodraeth er mwyn ymchwilio i’r achos. Ar hyn o bryd mae hi’n rhy gynnar i fod yn sicr ynglŷn â beth yw’r achos neu’r achosion, ond rydym ni’n barod wedi nodi mai mis Rhagfyr 2015 oedd y mis Rhagfyr mwyaf cynnes a gwlyb ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw.”

Ychwanegodd Dr Stephen Marsh-Smith, Prif Weithredwr Afonydd Cymru, (cymdeithas ymddiriedolaethau afonydd Cymru):

“Mae’n bwysig deall na fydd y canfyddiad hwn gan CNC yn cael effaith ar niferoedd eogiaid a sewin sy’n dychwelyd ar unwaith, ond fe ddaw’n amlwg ymhen rhyw ddwy neu bedair blynedd.

“Mae’n hanfodol fod CNC, yr Ymddiriedolaethau Afonydd a Llywodraeth Cymru’n dod ynghyd i fwrw ymlaen â rhaglen adfer ar gyfer yr adnodd gwerthfawr hwn yn ogystal â chynnal ymchwiliad llawn i’r achos a’r effeithiau.”

“Yn y cyfamser, mae’n hanfodol fod pob eog a sewin yn cael llonydd i silio eleni ac wrth gwrs dros y blynyddoedd i ddod. Rydym ni’n apelio felly ar i bysgotwyr eilio’u hymateb rhagorol i apeliadau tebyg sydd wedi’u gwneud eisoes, a sicrhau eu bod yn rhyddhau pob un o’u pysgod, yn ogystal ag annog eraill i wneud yr un peth.”

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.