Cwcis ar ein gwefan

Mae gwefan Cyfoeth Naturiol Cymru yn defnyddio cwcis. Drwy ddal ati i bori neu drwy glicio, “Parhau” byddwch yn cytuno i storio cwcis parti cyntaf a thrydydd partïon ar eich dyfais i wella’r broses o lywio’r safle, dadansoddi’r defnydd o’r safle, a chynorthwyo yn ein hymdrechion marchnata. Polisi cwcis.

Llwybrau Rhedeg Rhagorol

Dewch i fwynhau un o’r pedwar llwybr rhedeg newydd ym mharc coedwig Coed y Brenin yng ngogledd Cymru. Mae’r llwybrau yn rhoi cyfle i redwyr o bob gallu ddod i fwynhau’r goedwig yn ogystal â’r beicwyr a’r cerddwyr sydd eisoes yn cael mwynhad o’r safle.

Dyma gam cyntaf cynlluniau uchelgeisiol Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu llwybrau rhedeg yn yr ardal, yn yr un modd ag y datblygwyd beicio mynydd ar ddechrau’r 90au, gan droi’r parc coedwig yn un o ganolfannau llwybrau rhedeg wedi’u harwyddo mwyaf cynhwysfawr y DU.

Mae’r safle ger Dolgellau yn croesawu tua 170,000 o ymwelwyr bob blwyddyn i ddefnyddio’r llwybrau cerdded a’r llwybrau beicio mynydd, gan roi hwb i’r economi leol.  Y gobaith yw y bydd y llwybrau rhedeg newydd yn rhoi hwb arall i’r ffigurau hyn.

Meddai Graeme Stringer, Cyfoeth Naturiol Cymru:

“Yn ystod y chwe blynedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y rhedwyr sy’n defnyddio’r llwybrau yng Nghoed y Brenin, felly rydym wedi ymateb drwy ddatblygu amrywiaeth o lwybrau newydd pwrpasol ar gyfer rhedwyr.

"Mae’r llwybrau newydd yn sicr yn ehangu’r ddarpariaeth y gallwn ei chynnig, o lwybr byr 2.7 milltir i’r llwybr hwyaf 13.5 milltir.

“Mae llwybrau rhedeg di-draffig a golygfeydd hardd yn ffordd ddelfrydol o fwynhau ymarfer corff iach a dianc rhag prysurdeb bywyd.

"Mae’r holl lwybrau hefyd wedi cael eu harwyddo yn llawn felly nid oes angen pryderu am gymryd y tro anghywir chwaith.”

Meddai Matt Ward, trefnwr Trail Marathon Wales, a gynhelir yng Nghoed y Brenin:

"Dros y 3 blynedd diwethaf mae Trail Marathon Wales wedi tyfu i fod yn un o’r marathonau mwyaf, sy’n cynnig y llwybrau gorau yn y DU, a fis Mehefin nesaf bydd yn croesawu 1,000 o gystadleuwyr.

"Rydym yn ddiolchgar i Cyfoeth Naturiol Cymru am eu holl waith caled wrth ddatblygu’r llwybrau eithriadol hyn.

“Rydym yn gobeithio mai dyma fan cychwyn datblygiad rhedeg llwybrau yma ac rydym yn disgwyl y bydd Coed y Brenin yn arwain y ffordd o ran hyrwyddo’r math hwn o chwaraeon a chyrchfannau llwybrau rhedeg yn y DU.

"Yn 2014 yn barod, rydym wedi cynnal gwersyll hyfforddi blynyddol Tîm Rhedeg Salomon, gyda rhai o redwyr gorau’r DU yn cael blas ar hyfrydwch ardal Coed y Brenin.

Roedd yn braf iawn clywed bod ein llwybrau yma yng Nghoed y Brenin wedi eu rhyfeddu a’u hysbrydoli, yn enwedig o ystyried bod y tîm yn llawn o bencampwyr byd sydd wedi rhedeg ar bum cyfandir yn ystod y blynyddoedd diwethaf!"

Ychwanegodd Graeme:

“Mae cael y llwybrau hyn yng Nghoed y Brenin yn gyfleuster rhagorol i bobl leol ac mae’r mewnlif o ymwelwyr i’r ardal yn rhoi hwb i’r economi leol ac yn cael croeso mawr.”

Y Llwybrau:

Sarn Helen – Llwybr byr, 2.7 milltir, 97m o ddringo. Dringo o’r ganolfan ymwelwyr a mynd o amgylch y grib, gan ymuno â ffordd Rufeinig Sarn Helen a dychwelyd ar hyd y llwybr dolen i’r ganolfan ymwelwyr.

Sarn Helen – Llwybr hir, 5.2 milltir, 198 m o ddringo. Mae’r llwybr yn dringo dros grib Cefndeuddwr cyn mynd i lawr i ddyffryn Afon Gain, lle mae’n croesi’r afon ddwywaith cyn dringo’n ôl heibio adfeilion Fferm Penmaen a dychwelyd i’r ganolfan ymwelwyr ar hyd Sarn Helen heibio’r Gwaith Haearn Canoloesol.

Gold Rush, 8.5 milltir, 420m o ddringo. Mae’r llwybr hwn yn cynnwys llawer iawn mwy o lwybrau trac sengl na’r lleill, ac yn rhoi profiad gwahanol wrth ddringo i fyny ac i lawr y grib cyn croesi Afon Mawddach a dringo unwaith eto a chroesi’r gors gopr nes cyrraedd llwybr milltir a hanner sy’n arwain yn ôl i lawr i waelod y dyffryn ar hyd Afon Eden, gan ddilyn llwybr isel yn ôl i’r ganolfan ymwelwyr.

Hanner Marathon, 13.5 milltir, 727 m o ddringo. Ar ôl dringo i Gefndeuddwr mae’r llwybr yn mynd i lawr at Afon Mawddach ar hyd ffyrdd y goedwig cyn dringo i fyny a thros y grib nesaf a dod i lawr ar hyd llwybr troed nes cyrraedd Afon Wen. Yna mae’r llwybr yn dringo heibio Cynant Hyll a’i raeadr fyrlymus cyn dilyn y grib i lawr y dyffryn ym mhen gorllewinol pellaf y parc coedwig. Yna mae’r llwybr yn mynd i lawr drachefn i’r Wen, cyn mynd o amgylch gwaelod y grib nesaf, gan gynnig seibiant sylweddol cyn y brath terfynol - sef y gwaith dringo caled yn ôl dros grib Cefndeuddwr at y man gorffen!

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Oes rhywbeth o’i le gyda’r dudalen hon? Rhowch eich adborth.